Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn sefydliad brocera gwybodaeth (KBO) blaenllaw yn y sector. Mae sefydliadau brocera gwybodaeth – neu sefydliadau cyfryngu tystiolaeth – yn gweithredu fel cyswllt rhwng ymchwil academaidd a llunwyr polisïau. Mae’r Ganolfan yn gweithredu ar lefel sy'n seiliedig ar le i helpu i wella sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio gan lunwyr polisïau ac ymarferwyr lleol a chenedlaethol ledled Cymru.
Elfen unigryw o’r Ganolfan fel sefydliad brocera gwybodaeth yw bod gennyn ni raglen ymchwil ac effaith bwrpasol, sy'n sicrhau ein bod yn myfyrio'n barhaus ynghylch ein dull o symud gwybodaeth ac yn dysgu ohono – beth a wnawn, pam ac i ba effaith – ac yn rhannu'r dysgu hwn ag eraill.
Mae ein rhaglen ymchwil yn canolbwyntio ar wahaniaethau cymharol yn rôl sefydliadau brocera gwybodaeth (pam maen nhw'n cael eu creu a beth maen nhw'n ei wneud), y dulliau a'r ymagweddau at symud gwybodaeth, a sut i ddiffinio, cipio a dangos effaith brocera/symud gwybodaeth i sicrhau bod y gweithgaredd hwn yn cyfrannu at ddeilliannau polisi a chymdeithasol gwell.
Os ydych chi'n lluniwr polisïau, yn ymarferydd neu'n academydd sy'n chwilio am dystiolaeth ar rôl, arfer ac effaith brocera gwybodaeth a symud gwybodaeth, anfonwch e-bost aton ni drwy info@wcpp.org.uk.