Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cael ein cynnwys yn rhestr nodedig On Think Tanks (OTT) o felinau trafod i’w gwylio.
Mae’r fenter eleni’n rhoi cydnabyddiaeth i 55 melin drafod o bob cwr o’r byd am eu harferion nodedig, eu dulliau arloesol a’u cyfraniadau gwerthfawr i’r gymuned melin drafod.
Mae’r rhestr yn fenter cydnabod cyfoedion sy’n dathlu’r ffyrdd amrywiol y mae sefydliadau’n mynd ati i gynhyrchu tystiolaeth, ymgysylltu â pholisi a chyfrannu at newid, gan greu cyfleoedd i eraill ddysgu o’u profiadau.
Dywedodd yr Athro James Downe, Cyfarwyddwr Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn gyfle i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru rannu mwy am ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru ar ein model sy’n cael ei arwain gan alw a’n dull o gynnal prosiectau ar y cyd â gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â thynnu sylw at ein harferion arloesol yn cydnabod ac yn deall ein heffaith.
“Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r gymuned fyd-eang hon ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddysgu gan y sefydliadau sy’n cael eu cynnwys ochr yn ochr â ni.”
Cymerwch olwg ar y rhestr o felinau trafod i’w gwylio yn 2026 a darganfod y mentrau a’r arferion sy’n cael sylw ar y dangosfwrdd rhyngweithiol: https://onthinktanks.org/thinktankstowatch/