Lleisiau Abertawe: Herio stigma tlodi gyda’n gilydd


Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Abertawe a thîm o ymchwilwyr cymunedol yn Abertawe i ddod â llunwyr polisïau lleol, ymarferwyr ac arbenigwyr profiad bywyd at ei gilydd i gyd-greu camau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â stigma tlodi yn Abertawe.

Mae stigma tlodi yn gwaethygu effeithiau caledi ariannol, ac yn ei gwneud yn anoddach i bobl ddianc rhag tlodi. Mae ymchwil gynharach gennym yn dangos bod stigma tlodi yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael, ynysigrwydd cymdeithasol, a llai o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau a gwasanaethau cymorth eraill, ac roedd arolwg a gomisiynwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2024 wedi datgelu maint y broblem yng Nghymru, gydag 1 o bob 3 oedolyn ar incwm isel wedi profi stigma tlodi ‘bob amser’, ‘yn aml’ neu ‘weithiau’ yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Er hyn, mae diffyg tystiolaeth am ‘beth sy’n gweithio’ i atal a mynd i’r afael â stigma tlodi a sut gellir defnyddio’r dystiolaeth honno drwy bolisi ac ymarfer mewn ardal benodol. Felly, rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn Abertawe i gyd-ddylunio camau gweithredu polisi ac ymarfer i atal a mynd i’r afael â stigma tlodi.

Nod y prosiect oedd helpu partneriaid yn y sector cyhoeddus yn Abertawe i wneud y canlynol:

  • Deall a dysgu o brofiadau go iawn o stigma tlodi yn Abertawe   o ble mae’n dod, sut mae’n ymddangos ym mywydau bob dydd pobl a’u profiadau o wasanaethau cyhoeddus, a sut mae’n effeithio ar bobl.
  • Deall rôl gwasanaethau cyhoeddus lleol o ran cyfrannu at stigma tlodi a’i leihau, gan adeiladu hefyd ar unrhyw ymdrechion presennol sydd eisoes yn gweithio’n dda i fynd i’r afael â stigma tlodi yn Abertawe.
  • Dysgu o ymchwil ac arferion addawol mewn mannau eraill i ystyried beth y mae tystiolaeth ryngwladol yn ei ddweud am fynd i’r afael â stigma tlodi a sut gellir cymhwyso’r gwersi hyn i bolisi ac ymarfer yn Abertawe.
  • Cyd-greu gweledigaeth a chynllun gweithredu lleol ar gyfer mynd i’r afael â stigma tlodi i arwain Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe ac ymdrechion ehangach i fynd i’r afael â stigma tlodi yn Abertawe.


Rydym wedi cyhoeddi dau allbwn allweddol o’r ymchwil:

  • Adroddiad dan arweiniad y gymuned - Deall a mynd i’r afael â stigma tlodi yn Abertawe - a ddatblygwyd gan ymchwilwyr cymunedol yn Abertawe i gyfuno canfyddiadau ymchwil ansoddol yn Abertawe er mwyn deall yn well sut mae stigma tlodi yn effeithio ar fywydau pobl a pha gamau y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â hyn.
  • Adroddiad polisi ac ymarfer – Lleisiau Abertawe: Herio stigma tlodi gyda’n gilydd - sy’n crynhoi gwybodaeth allweddol er mwyn deall, atal a mynd i’r afael â stigma tlodi ar lefel leol yn Abertawe a’r tu hwnt.


Un rhan allweddol o’r broses oedd dod â gwybodaeth am bolisi, ymarferwyr a chymunedau at ei gilydd gyda thystiolaeth academaidd ryngwladol ar ‘beth sy’n gweithio’ i fynd i’r afael â stigma tlodi. Arweiniodd hyn at gyd-greu wyth cam gweithredu allweddol ar dair thema y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â stigma:

Cael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â chael gafael ar gymorth

  • Gwella dulliau rhannu data ar draws adrannau er mwyn symleiddio prosesau mynediad a chymorth
  • Cael gwared ar asesiadau ailadroddus drwy integreiddio gwasanaethau a rhannu gwybodaeth

Darparu gwasanaethau gydag urddas a pharch

  • Sefydlu mynediad at dri hyfforddiant cyffredinol ar stigma tlodi i weithwyr proffesiynol, wedi’u hanelu’n benodol ar fynd i’r afael â stigma
  • Sicrhau bod gwasanaethau’n gyfleus i bobl sydd angen mynediad atynt, er enghraifft drwy sicrhau bod mannau go iawn neu wasanaethau wyneb yn wyneb yn cael eu darparu er mwyn osgoi allgáu digidol
  • Ystyried ffyrdd o gefnogi’r grwpiau sydd fwyaf tebygol o brofi stigma tlodi yn well, fel ceiswyr lloches a ffoaduriaid, sy’n aml yn wynebu diweithdra


Newid iaith, diwylliant a systemau

  • Cynyddu cyfranogiad pobl sydd â phrofiad bywyd wrth ddylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau
  • Sicrhau iaith hygyrch a di-stigma wrth gyfathrebu megis mewn llythyrau a ffurflenni swyddogol


Bydd y camau hyn yn llywio Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe a’r cynllun gweithredu sy’n gysylltiedig â’r strategaeth. Mae’r holl gamau gweithredu a nodwyd yn berthnasol i wahanol raddau i awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a gweddill y DU sydd â diddordeb mewn atal a mynd i’r afael â stigma tlodi.

To top