Yr adroddiad hwn yw allbwn terfynol y gweithgor annibynnol ar lywodraeth leol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a gynullwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Drwy ei raglen waith, mae’r gweithgor wedi archwilio pwrpas a swyddogaethau llywodraeth leol a rhai o’r newidiadau strwythurol a diwylliannol a fyddai’n helpu i ddatblygu model gweithredu mwy cynaliadwy ar gyfer cynghorau yng Nghymru. Yn Sylfaen gadarn dros newid, roedd y gweithgor wedi cynnig pecyn o ddiwygiadau a fyddai’n helpu i greu'r amodau ar gyfer y trawsnewid hwn, wedi’i ganolbwyntio ar gyllid llywodraeth leol, llywodraethiant, gweithlu a chapasiti gwybodaeth.
Mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar y gwaith hwn drwy ddadlau bod yn rhaid i’r diwygiadau sylfaenol hyn fod yn seiliedig ar gyd-weledigaeth ar gyfer dyfodol llywodraeth leol, sy’n darparu cyfeiriad clir i’r sector ac yn cydlynu ymdrechion tuag at newid.
Mae’r gweithgor wedi nodi gweledigaeth i gynghorau Cymru yn y dyfodol fod yn gydweithredol, yn ataliol, yn canolbwyntio ar ganlyniadau, yn addasol, wedi’u grymuso’n ariannol ac wedi’u galluogi’n ddigidol.
Mae’r adroddiad yn nodi tair shifft ddiwylliannol sy’n hanfodol i wireddu’r weledigaeth hon:
- Newidiadau yn y berthynas rhwng cynghorau a thrigolion, lle mae cynghorau’n gweithio gyda chymunedau ac unigolion yn hytrach na dim ond gweithredu ar eu rhan.
- Newidiadau yn y ffordd y mae cynghorau’n gweithio gyda’i gilydd, gyda chyrff cyhoeddus a gyda chymunedau, gan symud o seilos sefydliadol tuag at gydweithio ar gyd-ganlyniadau.
- Newid mewn arweinyddiaeth gan y sector llywodraeth leol, gyda mwy o gydberchnogaeth ar y trawsnewid.
I wireddu’r newidiadau diwylliannol hyn, bydd angen newid yr amgylchedd gweithredu ar gyfer cynghorau a’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys newid y fframweithiau cyllido, perfformiad ac atebolrwydd sy’n siapio ymddygiad unigolion a sefydliadau. Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru, cynghorau a phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus i gydweithio i gysoni’r newidiadau hyn â’r weledigaeth.
Mae’r adroddiad hwn, a gwaith ehangach y grŵp, wedi cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Gweithredol CLlLC. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru, CLlLC, a Solace ynglŷn â sut gall y sector fwrw ymlaen â’r gwaith hwn.