Mesur effaith gwasanaethau integredig atal ac ymyrryd yn gynnar

Mae’r heriau cymhleth sy’n wynebu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys niferoedd cynyddol o bobl â chyflyrau iechyd hirdymor, anghydraddoldebau iechyd, a phwysau ar y gweithlu ac ysbytai, yn amlygu bod angen mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, gyda ffocws cryfach ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, sefydlodd Llywodraeth Cymru 2021-2026 ei System Gofal Cymunedol Integredig (ICCS), sy’n rhoi fframwaith ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ataliol mwy integredig ledled Cymru.

Er gwaethaf fframwaith cyfreithiol a pholisi clir i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol ataliol ac integredig yng Nghymru, sydd wedi’i nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae mesur effaith dulliau ataliol ac integredig yn dal yn heriol oherwydd diffyg adnoddau a fframweithiau mesur cadarn.

I fynd i’r afael â hyn, gofynnodd Llywodraeth Cymru 2021-2026 i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddarparu tystiolaeth ynghylch i ba raddau y gall adnoddau a fframweithiau mesur presennol werthuso effaith gwasanaethau integredig atal ac ymyrryd yn gynnar yn effeithiol, i gefnogi dyheadau polisi ehangach i gryfhau integreiddio, ymyrryd yn gynnar ac atal ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

I gyflawni’r ymchwil hwn, comisiynodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru y Ganolfan Ymchwil Hybu Iechyd i gynnal adolygiad o’r cwestiynau ymchwil canlynol:

  1. Sut mae adnoddau mesur ar gyfer asesu effaith ataliol gwasanaethau ac ymyriadau integredig atal ac ymyrryd yn gynnar mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael eu datblygu mewn mannau eraill?
  2. Sut mae adnoddau a fframweithiau mesur yn cael eu defnyddio yn y DU ac yn rhyngwladol i werthuso effaith atal ac ymyrryd yn gynnar mewn iechyd a gofal cymdeithasol integredig? Pa un o’r rhain sy’n dangos addewid o ran cefnogi dull integredig o fesur effaith atal ac ymyrryd yn gynnar ym maes iechyd a gofal cymdeithasol?
  3. Sut gallai adnoddau a dulliau gwerthuso presennol gefnogi’r gwaith o ddatblygu fframweithiau mesur ar y cyd ar gyfer atal ac ymyrryd yn gynnar integredig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Cynhaliwyd adolygiad cyflym o’r dystiolaeth academaidd a chyfres o grwpiau ffocws a chyfweliadau â rhanddeiliaid ledled Cymru a’r DU i archwilio’r heriau a’r cyfleoedd ymarferol sy’n gysylltiedig â mesur atal mewn systemau cymhleth.  Dyma brif ganfyddiadau’r gwaith hwn:

  • Nid oes un ffordd o fesur effaith y gellir ei defnyddio’n gyffredinol. Mae diffiniadau o ‘atal’ ac ‘integreiddio’ yn amrywio’n sylweddol ar draws gwasanaethau a sectorau. Rhaid teilwra dulliau mesur yn ofalus i adlewyrchu’r gwahaniaethau hyn.
  • Mae hi’n bwysig nodi canlyniadau ataliol hirdymor, a’r mecanweithiau a’r canlyniadau canolraddol sy’n arwain at yr effeithiau hyn. O ystyried cymhlethdod atal, efallai y bydd angen cofnodi arwyddion cynnar o lwyddiant drwy fesurau interim, ar lefelau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar lefel system.
  • Dylai llais y defnyddiwr gwasanaeth fod yn ganolog i’r mesur. Ystyriwyd bod canlyniadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynnwys llesiant, ansawdd bywyd, a phrofiad o ofal, yn elfennau hanfodol o unrhyw fframwaith.
  • Mae angen ystyried yn ofalus yr heriau ymarferol sy’n gysylltiedig â gweithredu fframweithiau mesur yn y maes hwn. Mae’r rhain yn cynnwys y baich casglu data ar staff a gwasanaethau, cyfyngiadau ar seilwaith rhannu data, a gwahaniaethau o ran capasiti ac adnoddau ar draws sefydliadau, yn enwedig yn y trydydd sector. Roedd yn llawer gwell gan ymarferwyr ddefnyddio nifer fach o fesurau, yn hytrach na fframweithiau mawr, cymhleth sy’n gallu bod yn anodd eu rhoi ar waith yn gyson.

Casgliad y gwaith hwn yw y dylid cynllunio fframweithiau mesur gan feddwl am hyblygrwydd. Mae’n annhebygol y bydd dull ‘un ateb i bawb’ yn effeithiol, ac mae angen caniatáu ar gyfer addasu ar lefel gwasanaeth a system leol, o fewn fframwaith cenedlaethol y cytunir arno. Bydd cefnogi capasiti i werthuso, gwella seilwaith data, a sicrhau cysondeb rhwng amcanion mesur a pholisi hefyd yn hanfodol i weithredu llwyddiannus.

To top