Mae gwleidyddion a llywodraethau yn awyddus iawn i ganfod ymyriadau a fydd yn eu helpu i ddygymod pan fydd digwyddiadau dadleuol neu drasiedi yn cael sylw yn y cyfryngau ac yn sbarduno tensiynau cymunedol, gan gynnwys protestiadau sy’n seiliedig ar gasineb. Mae’r gwersi clir a gyflwynir yma yn deillio o bum mlynedd o waith ymchwilio i bolareiddio a’i effaith ar gymunedau. Gwaith a gynhaliwyd fel rhan o ddau brosiect ymchwil gan Amy Sanders a’i chydweithwyr yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD). Penllanw’r gwaith hwn oedd cyhoeddi Pecyn Cymorth i Ymarferwyr ar Gymunedau Sy’n Gwrthsefyll Rhaniadau. Cafodd y gwaith hwn ei ariannu gan Gronfa Sbarduno’r Academi Brydeinig a’i gyd-gynhyrchu â Sefydliad Jo Cox, Partneriaeth Mwy yn Gyffredin Caerdydd, Tîm Cydlyniant Cymunedol Caerdydd, 106 o ymarferwyr cymunedol a 34 a mwy o sefydliadau cymunedol. Bydd adnoddau ar-lein sy’n gysylltiedig â’r pecyn cymorth hwn ar gael i’r cyhoedd cyn bo hir, ond yn y cyfamser dyma wybodaeth allweddol i lunwyr polisïau:
1. Cofiwch y ddau ddimensiwn: Dylai strategaeth cydlyniant cymunedol ystyried sut i hyrwyddo undod fel mesur ataliol A sut i gefnogi cymunedau pan fyddant yn wynebu digwyddiadau dadleuol. Mae maes theori a pholisi yn aml yn mynd i’r afael â’r ddau fater hwn ar wahân, ond mae ein canfyddiadau ni yn dangos bod ganddynt fwy yn gyffredin na’r disgwyl.
2. Gwrthsefwch y dirywiad: Mae cymunedau’n cael eu llethu gan y cwymp ymddangosiadol tuag at fygythiad, argyfwng a rhaniadau. Dylid anelu’n strategol at fynd i’r afael â hyn er mwyn galluogi cymunedau i deimlo’n obeithiol ac yn rhan o’r datrysiad.
3. Byddwch yn barod i ymateb i ddigwyddiadau dadleuol a chefnogi’r effaith sbardun: Mae ein hymchwil yn dangos bod digwyddiadau dadleuol yn digwydd yn aml mewn cymunedau.Ond, peidiwch â chynhyrfu. Pan fydd y digwyddiadau dadleuol hyn yn digwydd, gall cymunedau weithredu ac ymateb. Gall hyn fod yn sbardun ar gyfer gweithgareddau cymunedol yn y dyfodol a fydd yn hyrwyddo undod. Dylid rhoi strategaeth ar waith i roi cymorth i gymunedau a chyfeirio adnoddau presennol tuag at yr effaith sbardun, gan greu momentwm cadarnhaol. Dylid darparu mynediad at gronfa gychwynnol gyflym er mwyn meithrin ymgysylltiad grwpiau cymunedol a galluogi’r effaith sbardun.
4. Cofiwch nad yw cydlynu adnoddau mor anodd â'r disgwyl: Nid yw’n gymhleth ac mae’r wybodaeth a’r sgiliau’n bodoli’n barod. Gellir defnyddio gweithgareddau cymunedol traddodiadol a dulliau datblygu cymunedol i feithrin ymdeimlad o undod. Defnyddiwch adnoddau sydd eisoes ar gael drwy grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol lleol. Mae angen symiau cymharol fach o arian i gyfeirio gweithgareddau tuag at hyrwyddo undod. I wneud y gwaith hwn, mae’n hollbwysig bod llunwyr polisïau yn diogelu adnoddau presennol ar gyfer y sector cymunedol a’r sector gwirfoddol.
5. Gwreiddiwch y rhinweddau sy’n hyrwyddo undod mewn ymyriadau cymunedol: Mae adolygiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) o dystiolaeth wedi dangos bod angen atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng prosiectau gwirfoddoli cymunedol a chydlyniant. Mae rhinweddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n hyrwyddo undod drwy weithgarwch cymunedol yn adnabyddus ac yn cynnwys:
- Amlygu pobl i amrywiaeth a dathlu amrywiaeth; ac
- Annog pobl i weithio gyda’i gilydd i gyflawni nod cyffredin.
Roedd y rhinweddau ychwanegol a nodwyd gan aelodau’r gymuned ar gyfer y pecyn cymorth yn cynnwys:
- Prosiectau rhannu bwyd;
- Prosiectau traws-genhedlaeth; a
- Phrosiectau sy’n groesawgar ac yn gynhwysol
6. Dilynwch y camau clir hyn i gynyddu’r effaith:
Mae ein hymchwil yn dangos:
- Gellir defnyddio hunaniaeth leol i greu ymdeimlad o undod;
- Gellir cynyddu effaith hyn os bydd nifer o sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth ac os bydd y partneriaethau hynny wedyn yn rhwydweithio gyda’i gilydd ar draws ardaloedd daearyddol; a
- Gall strwythurau rhwydwaith droi’n aml-haenog gan ffurfio rhwydweithiau o rwydweithiau i greu strwythur cydweithredol cymhleth.
Trwy hynny, gellir cydnabod gwerth sefydlu rhwydweithiau o fudiadau cymunedol ar lawr gwlad sy’n cysylltu ar draws ardaloedd daearyddol. Dylid annog twf y rhwydwaith myseliwm hwn a darparu adnoddau ar ei gyfer mewn strategaethau cydlyniant cenedlaethol. Ategir hyn gan adolygiad tystiolaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a oedd yn pwysleisio’r angen i fuddsoddi mewn seilweithiau cymunedol.
7. Rhaid i Lywodraethau ddeall y rhan maen nhw’n ei chwarae: Rhaid i’r wladwriaeth daro cydbwysedd gofalus drwy gefnogi rhwydweithiau yn ogystal â rhoi cyfle iddynt dyfu’n organig drwy’r sector cymunedol a gwirfoddol. Un astudiaeth achos sy’n dangos sut y gellir cyflawni hyn yw’r timau cydlyniant cymunedol yng Nghymru sy’n gysylltiedig â Rhaglen Cydlyniant Llywodraeth Cymru.
8. Dylech wybod sut i ysbrydoli ymdeimlad o berthyn a gobaith: Dylid cydnabod y rôl y mae rhwydweithiau yn gallu ei chwarae wrth ysbrydoli gobaith a gwrthsefyll y naratif o fygythiad ac anobaith, fel y mae rhwydwaith ‘Mwy yn Gyffredin’ Sefydliad Jo Cox yn ei ddangos.
9. Atgyfnerthwch y rhwydweithiau: Er bod tystiolaeth glir yn dangos sut i ffurfio’r rhwydweithiau hyn, bu i’n hymchwil dynnu sylw at faes y mae angen ei ddatblygu i sicrhau bod aelodau unigol o’r gymuned yn deall beth yw eu rhan nhw yn y gwaith hwn.Dylid treialu dulliau newydd sy’n ymgysylltu ag aelodau unigol o’r gymuned sydd eisoes yn ymwneud â mudiadau cymunedol er mwyn adlewyrchu ar y rhan y gallent ei chwarae yn hyrwyddo undod a goresgyn rhaniadau, a thrwy hynny, yn meithrin ymdeimlad o berthyn i fudiad (gweler 12).
10. Paratowch gymunedau: Pan fydd cymuned yn wynebu digwyddiad dadleuol neu drychineb a all arwain at fwy o densiynau, bydd y rhwydweithiau cymunedol ar lawr gwlad a ddisgrifir uchod (gweler 6) yn galluogi’r gymuned i ddod o hyd i gymorth. Mae cyngor clir ar gael i gymunedau i’w paratoi ar gyfer y digwyddiadau hyn. Rhannwch y cyngor hwn drwy’r rhwydweithiau hyn cyn i argyfwng ddigwydd, er mwyn i sefydliadau cymunedol wybod ymlaen llaw sut i ymateb a ble i gael gafael ar gymorth. Dylai llunwyr polisïau feithrin y disgwyliad hwn yn y cymorth y maent yn ei gynnig i rwydweithiau drwy sefydliadau seilwaith.
11. Defnyddiwch gymorth cyfryngau sydd eisoes yn bodoli: Mae angen cymorth cyfathrebu ar fudiadau gwirfoddol a chymunedol pan fyddant yn cael llawer o sylw yn y cyfryngau. Mae ein hymchwil yn dangos nad oes gan lawer o sefydliadau cymunedol yr arbenigedd cyfathrebu sydd ei angen i ymateb i’r cyfryngau ac nid oes gan yr un sefydliad yr arbenigedd cyfryngau cymdeithasol sydd ei angen i ddeall sut i beidio â gwaethygu’r sefyllfa. Mae gan gyrff seilwaith y trydydd sector ac awdurdodau lleol dimau cyfathrebu. Dylid datblygu mecanweithiau i alluogi sefydliadau i gael gafael ar gymorth cyfathrebu o’r ffynonellau hyn pan fyddant yn wynebu argyfwng.
12. Crëwch seilweithiau cyfathrebu cymunedol: Mae angen i sefydliadau wybod am y gefnogaeth hon cyn i argyfwng ddigwydd. Dylai cyrff seilwaith trydydd sector a thimau cyfathrebu awdurdodau lleol fod yn gyfrifol am gysylltu â’r sefydliadau hyn ac adeiladu ar gysylltiadau sydd eisoes yn bodoli. Ar ben hynny, mae gweithredwyr polisi eisiau gwybod sut i fynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth ac mae diffyg tystiolaeth ynghylch sut y gellir mynd i’r afael â hyn. Gellir datblygu sianeli cyfathrebu cyffredin a’u defnyddio i ledaenu gwrth-negeseuon pan fydd camwybodaeth niweidiol a thwyllwybodaeth yn cael eu rhannu mewn amser real.
Mae’r ymchwil yn manylu ar ymyriadau cydlyniant presennol y gellir eu gweithredu ar lefel strwythurol ac mae’n cyfeirio at ragor o ymyriadau i fynd i’r afael â’r bylchau. Canfu adolygiad tystiolaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru bod angen rhagor o ddealltwriaeth o ymyriadau ar lefel strwythurol ac ar lefel y boblogaeth, yn enwedig o ystyried bod y dystiolaeth sy’n ymwneud ag ymyriadau cydlyniant presennol yn gyfyngedig i lefel y grŵp, lefel rhyngbersonol neu lefel unigol. Nid diben ein hymchwil oedd archwilio’r effeithiolrwydd, ac felly rydym ni’n credu mai nawr yw’r cyfle i gasglu data ar yr ymyriadau hyn. Gallai ddarparu atebion ystyrlon i broblem gymdeithasol sy’n ymwneud â pholisi Cymru ac sy’n bwysig ar raddfa fyd-eang.
Ariannwyd yr ymchwil WISERD hwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Chronfa Sbarduno Rhwydwaith Ymchwilwyr Newydd yr Academi Brydeinig. Roedd y tîm ymchwil yn cynnwys Dr Amy Sanders, Yr Athro Mike Woods, Dr Rhys Dafydd Jones a Dr Flossie Caerwynt. Mae nifer o erthyglau cyfnodolion yn aros i gael eu cyhoeddi.