Mewn ymateb i bryderon cynyddol am bolareiddio cymdeithasol a rhaniadau cymunedol yng Nghymru a ledled y DU, lansiodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ymchwiliad i gydlyniant cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2024.
Mae adroddiad terfynol y Pwyllgor, sef 'Cyd-dynnu, nid tynnu'n groes: rhaid i Gymru weithredu' , yn nodi bod angen gweithredu ar frys, ac argymhellwyd sefydlu Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant Cymdeithasol (EGSC) wedi’i gadeirio’n annibynnol i ddatblygu argymhellion tymor byr, tymor canolig a thymor hir ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru.
I gefnogi’r gwaith hwn, comisiynodd Llywodraeth Cymru 2021-2026 Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) i gyfuno tystiolaeth ar ymyriadau sy’n hyrwyddo ac yn cryfhau cydlyniant cymdeithasol a nodi camau polisi posibl ar gyfer Cymru.
Aeth ein hymchwil i’r afael â dau gwestiwn:
- Pa ymyriadau polisi ac ymarfer sy'n effeithiol o ran hyrwyddo a chryfhau cydlyniant cymdeithasol?
- Pa gamau polisi ar gyfer Cymru a nodir yn y dystiolaeth ar ymyriadau cydlyniant cymdeithasol?
Gan ddefnyddio llenyddiaeth academaidd a gyflwynwyd i ymchwiliad y Pwyllgor, tystiolaeth a ddarparwyd drwy alwad am gyflwyniadau, a chyfuno’r dystiolaeth sy’n bodoli eisoes, archwiliodd yr adolygiad yr hyn sy’n hysbys am ymyriadau cydlyniant cymdeithasol a’r goblygiadau i bolisi yng Nghymru.
Rydym wedi cyhoeddi tri phrif allbwn:
- Adroddiad llawn, sy’n cyfuno’r dystiolaeth ar ymyriadau i gryfhau cydlyniant cymdeithasol ac yn nodi’r goblygiadau i Gymru.
- Briff polisi yn crynhoi’r canfyddiadau allweddol.
- Cyfres o dri darn gwyntyllu syniadau yn seiliedig ar gyflwyniadau a thrafodaethau o’n gweminar Tystiolaeth a gwybodaeth i gryfhau cydlyniant cymunedol a gafodd ei gynnal ym mis Mawrth 2026.
Mae’r dystiolaeth yn dangos y gall amrywiaeth eang o ymyriadau gyfrannu at gydlyniant cymdeithasol cryfach. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau yn y ffordd y caiff canlyniadau eu mesur, ochr yn ochr â’r amrywiaeth o fathau o ymyriadau, yn ei gwneud yn anodd cymharu canfyddiadau ar draws astudiaethau neu ddod i gasgliadau pendant ynghylch pa ddulliau sydd fwyaf effeithiol. Mae’r dystiolaeth hefyd yn awgrymu y gall sut mae ymyriadau’n cael eu cynllunio a’u darparu fod yr un mor bwysig â’r ymyriadau eu hunain.
Er gwaethaf y cyfyngiadau hyn, mae’r dystiolaeth yn nodi nifer o nodweddion sy’n gysylltiedig â gweithredu effeithiol ac yn tynnu sylw at nifer o flaenoriaethau i lunwyr polisïau Cymru eu hystyried. Mae’r rhain yn cynnwys canolbwyntio ar ymyriadau mewn ysgolion, cefnogi cydgynhyrchu mentrau cydlyniant, cryfhau cysylltiadau rhwng gwirfoddoli a chydlyniant, gwella buddsoddiad mewn mannau cymunedol a buddsoddi mewn gweithredu cydlynol ar lefel leol.