Sgyrsiau a Chysylltiadau: sut mae Llanelli yn mynd ati i ddatblygu cydlyniant cymdeithasol

Beth sydd ei angen i gadw cymuned gyda’i gilydd mewn cyfnod pan fo rhaniadau, drwgdybiaeth ac ansicrwydd ar gynnydd? Yn Llanelli aeth partneriaeth feiddgar rhwng grŵp Healing the Divide, Cyngor Sir Caerfyrddin (Tîm Cydlyniant Gorllewin Cymru), Belong: the Cohesion and Integration Network, a’r felin drafod British Future ati i geisio ateb y cwestiwn hwnnw. Datblygwyd y cynllun Healing the Divide nid yn unig i ymateb i densiwn pan ddaw i’r wyneb, ond hefyd i ofalu bod gan ymarferwyr lleol yr hyder, y sgiliau a’r perthnasoedd angenrheidiol i ddelio ag adegau anodd, i gryfhau ymddiriedaeth ac i helpu i greu cymunedau mwy cysylltiedig a gwydn ar draws Llanelli.  

Daeth y cynllun ag ymarferwyr lleol a phartneriaid cymunedol at ei gilydd drwy gyfres o weithdai a sesiynau dysgu wedi’u hwyluso, a oedd yn cyfuno sgiliau ymarferol a chyfleoedd i ystyried ar y cyd ac i drafod y tensiynau gwirioneddol sy’n effeithio ar Lanelli. Roedd y sesiynau’n rhoi sylw i sgyrsiau anodd a chynhennus, ymddiriedaeth a meithrin perthnasoedd, ac effaith camwybodaeth a thwyllwybodaeth, gan greu lle i gyfranogwyr ddysgu gan ei gilydd ac i ystyried sut gellid rhoi’r dulliau hyn ar waith yn lleol. 

Daeth yn amlwg nad cyflwyno rhywbeth cwbl newydd oedd y ‘gwaith’. Roedd y sylfeini yno’n barod – swyddogion ymroddedig cynghorau lleol, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol gweithgar, ac ymdeimlad cryf o le a hunaniaeth. Yr her oedd sut i greu’r amodau i’r asedau hyn gysylltu, addasu, ac ymateb i newid. 

Pobl, nid polisi, yw’r man cychwyn 

Un o’r gwersi amlycaf oedd nad strategaeth yw cydlyniant, ond rhywbeth mae pobl yn ei fyw o ddydd i ddydd. Gall sgyrsiau am “gydlyniant cymunedol” deimlo’n ddamcaniaethol yn aml, ond wrth eu hail-fframio yng nghyd-destun perthyn, tegwch, a theimlo’n gartrefol, gall pobl ymgysylltu'n fwy agored. 

Roedd gwreiddio’r gwaith mewn gwirioneddau lleol – deinameg cymdogaethau penodol, mannau a rennir, a phrofiadau bywyd – yn ei wneud yn arwyddocaol.  

Creu’r amgylchiadau iawn cyn disgwyl newid 

Ym mhob rhan o’r rhaglen fe wnaethom flaenoriaethu creu gweithdai diogel, oedd yn cael eu hwyluso, lle gallai pobl siarad yn onest. Roedd hynny’n golygu cydnabod tensiwn, nid ei osgoi. 

Ar ôl creu’r amgylchiadau hynny, digwyddodd rhywbeth pwysig: roedd pobl yn teimlo’n ddiogel i fod yn agored. Daeth yn bosibl i gael sgyrsiau anodd a chynhyrchiol am hunaniaeth, newid, a chamwybodaeth. Mewn llawer o achosion, roedd pobl yn newid eu safbwyntiau yn ystod y rhaglen. 

Mae’n ein hatgoffa nad ymyriad “meddal” yw trafodaeth. Pan fydd wedi’i strwythuro’n dda, gall fod yn un o’r adnoddau mwyaf effeithiol sydd gennym. 

Galluogi pobl i weithredu, nid dim ond deall 

Un neges gyson oedd yr angen am adnoddau ymarferol. Roedd fframweithiau ar gyfer strwythuro sgyrsiau, technegau syml i dawelu sefyllfaoedd, a ffyrdd o ymateb i gamwybodaeth i gyd yn help i fagu hyder. 

Nid mater o droi pobl yn arbenigwyr oedd hyn. Rhoi digon o hyder i staff rheng flaen a phartneriaid cymunedol weithredu oedd y nod – i gamu i mewn i sefyllfaoedd anodd yn hytrach na’u hosgoi. 

Nid emosiwn yw’r broblem – man cychwyn yw emosiwn 

Roedd rhwystredigaeth, pryder, a gorflinder yn amlwg mewn llawer o’r sgyrsiau. Yn hytrach na thrin yr elfennau hyn fel rhwystrau, bu’r rhaglen yn gweithio gyda nhw. Roedd y trafodaethau’n helpu’r bobl i gydnabod yr hyn sydd wrth wraidd y tensiynau sydd ar yr wyneb. Pan oedd pobl yn teimlo eu bod yn cael gwrandawiad, roeddent yn llawer mwy parod i wrando eu hunain. 

Nid drwy hap a damwain mae creu cysylltiad 

Mae gan Sir Gaerfyrddin rwydwaith cryf o fudiadau ac arweinwyr cymunedol. Drwy’r rhaglen ac mewn partneriaeth â’r cyngor a British Future, gwelsom werth ymgynnull bwriadol. Dod â phobl at ei gilydd gyda phwrpas cyffredin, gyda strwythur i ategu’r broses honno, a gwelwyd perthnasoedd yn dechrau symud o fod yn anffurfiol i fod yn rhai cydweithredol. 

Mae hyn nawr yn cael ei adlewyrchu yn rhwydwaith newydd Llanelli Together, sef mudiad o dan arweiniad yr ardal leol a luniwyd i gynnal momentwm, i gryfhau perthnasoedd, ac i ddatgloi cyfleoedd newydd i weithredu ar y cyd. 

Cadw pethau’n lleol, a dal ati 

Efallai mai’r canlyniad mwyaf calonogol yw’r awydd i barhau. Nid hyfforddiant untro oedd hyn ym meddwl y rheini a oedd yn bresennol, ond man cychwyn. Erbyn hyn, mae cymuned ymarfer yn datblygu gyda’r perthnasoedd a’r hyder i fwrw ymlaen â’r gwaith. 

Gair i gloi 

Os oes un peth i’w ddysgu o Lanelli, nid drwy ddatganiadau mawr neu strategaethau unigol y mae datblygu cydlyniant. Mae’n datblygu drwy weithredoedd bach a chyson o gysylltiad, sgyrsiau, perthnasoedd, ac ymdrechion ar y cyd dros amser. 

Rôl rhaglenni fel Healing the Divide/rhwydwaith Llanelli Together yw creu’r amodau i hynny ddigwydd, ac yna helpu pobl leol i gymryd yr awenau o hynny ymlaen. Gall hynny greu rhywbeth diriaethol y gellir ei rannu a’i ehangu ar lefel ehangach yng Nghymru. 

To top