Llywodraeth leol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol

Mae llywodraeth leol yn wynebu mwy a mwy o bwysau yng Nghymru, gyda’r galw am wasanaethau fel gofal cymdeithasol a chymorth ADY yn cynyddu tra bo gwasanaethau eraill yn wynebu toriadau oherwydd setliadau ariannol anodd.

Nid yw model presennol llywodraeth leol yn gynaliadwy, a bydd angen ei newid neu ei addasu i ymateb i’r cyfuniad hwn o lefel uwch o gostau uwch a galw am wasanaethau.

Trefnodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), gyda chefnogaeth CLlLC, weithgor annibynnol ar lywodraeth leol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a oedd yn cynnwys arweinwyr awdurdodau lleol a phrif weithredwyr yng Nghymru ochr yn ochr ag arbenigedd annibynnol, dan gadeiryddiaeth cyn-gyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yr Athro Steve Martin.

Bu’r gweithgor yn ystyried, gyda chymorth a mewnbwn arbenigol gan CPCC, yr heriau sy’n wynebu awdurdodau lleol ac yn ei adroddiad terfynol, sef Llywodraeth leol sy’n barod am y dyfodol, mae’n egluro gweledigaeth ar gyfer dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru, wedi’i chefnogi gan fodel gweithredu a newidiadau diwylliannol angenrheidiol i gyflawni’r weledigaeth hon. Mae’r gweithgor eisoes wedi nodi safbwyntiau ac argymhellion yn Sylfaen gadarn dros newid, gyda’r nod o wella gwydnwch ac ymreolaeth llywodraeth leol.

Cefnogodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru y gweithgor drwy baratoi a chomisiynu tystiolaeth annibynnol ar y meysydd a gwmpaswyd gan y grŵp, a thrwy ddrafftio a golygu allbynnau. Mae allbynnau’r gweithgor yn ystyried pwrpas a swyddogaethau llywodraeth leol; ariannu llywodraeth leol; y gweithlu; arweinyddiaeth a diwylliant sefydliadol; a chefnogi arloesedd a datblygu model gweithredu newydd.

Mae gwaith y gweithgor bellach wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, gyda’i allbynnau terfynol - Llywodraeth leol sy’n barod am y dyfodol a Sylfaen gadarn dros newid, tuag at fodel gweithredu newydd ar gyfer llywodraeth leol. Mae gwaith y gweithgor wedi cael ei gefnogi gan arweinwyr cynghorau ym Mwrdd Gweithredol CLlLC a gan brif weithredwyr y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru drwy Solace, y rhwydwaith aelodau llywodraeth leol. 

Adroddiadau'r prosiect

To top