Sylfaen gadarn dros newid; tuag at fodel gweithredu newydd ar gyfer llywodraeth leol

Dros y 18 mis diwethaf, mae’r Gweithgor annibynnol ar lywodraeth leol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a gynullwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac a gefnogir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi bod yn archwilio sut y gall Llywodraeth newydd Cymru weithio gyda'r sector i ddatblygu model gweithredu newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru..

Mae'r gweithgor, sy'n cynnwys arweinwyr awdurdodau lleol, prif weithredwyr ac arbenigwyr annibynnol ar lywodraeth leol, wedi cyhoeddi set o safbwyntiau ac argymhellion cyn etholiad y Senedd. Mae’r grŵp yn teimlo y byddai'r pecyn hwn o fesurau yn creu'r amodau i'r sector ddatblygu dyfodol mwy cynaliadwy i gynghorau.

Mae'r grŵp yn galw ar y llywodraeth newydd i weithredu'n gyflym er mwyn:

  • Mynd i'r afael â gwendid systemig y system gyllid llywodraeth leol bresennol trwy gyflwyno mesurau sy'n cynyddu gwytnwch ac ymreolaeth cynghorau.
  • Symleiddio a chryfhau'r dull o atebolrwydd i lywodraeth leol, er mwyn lleihau'r baich gweinyddol yn ogystal â darparu dull mwy cadarn a systemig o asesu perfformiad ac iechyd ariannol cynghorau.
  • Gweithio gyda'r sector i ddatblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu a mynd i'r afael â'r bylchau presennol a disgwyliedig o ran sgiliau.
  • Buddsoddi mewn ailadeiladu'r gallu i arloesi yn y sector fel bod ymdrech gydgysylltiedig dan arweiniad y sector i ddatblygu, profi a gweithredu modelau newydd o gyflawni.

Mae angen i'r camau hyn, a'r argymhellion cysylltiedig, gael eu hategu gan gytundeb ar bwrpas a swyddogaethau cynghorau, a gweledigaeth a rennir ar gyfer sut olwg fydd ar gyngor y dyfodol. Yn ei adroddiad terfynol, a ddisgwylir yn y misoedd nesaf, bydd y gweithgor yn cyhoeddi gweledigaeth arfaethedig gyda chamau gweithredu ategol ar gyfer llywodraeth leol a Llywodraeth nesaf Cymru i symud o drwsio'r sylfeini i ddyfodol cynaliadwy hirdymor i lywodraeth leol.

To top