Dull arloesol yn darparu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i’r afael â stigma tlodi

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cefnogi llunwyr polisïau, ymarferwyr ac arbenigwyr profiad bywyd yn Abertawe i ddatblygu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i helpu gwasanaethau cyhoeddus i newid y sefyllfa o ran mynd i’r afael â stigma tlodi, agwedd wanychol at dlodi sy’n gallu effeithio ar iechyd meddwl ac atal unigolion rhag cael gafael ar gymorth hanfodol gan gynnwys cymorth ariannol.

Bydd canlyniadau’r prosiect ymchwil cydweithredol - Lleisiau Abertawe - Mynd i’r afael â stigma tlodi gyda’n gilydd - yn llywio strategaeth mynd i’r afael â thlodi Cyngor Abertawe ac yn cwblhau corff o waith gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a allai helpu’r ymdrechion i leihau stigma tlodi yn sylweddol wrth ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.*

Y prif ganfyddiadau

Sut mae pobl yn profi stigma tlodi yn Abertawe?

Fe wnaeth yr ymchwil cymunedol, sy’n seiliedig ar brofiad byw o dlodi yn Abertawe, ganfod y canlynol:

  • Mae profiadau cynnar o stigma tlodi yn gallu llywio sut mae unigolion yn gweld eu hunain drwy gydol eu bywydau, er gwaethaf ymdrechion rhieni i warchod eu plant rhag sefyllfa eu teulu.
  • Mae cyfryngau traddodiadol a chymdeithasol yn gallu atgyfnerthu stigma tlodi, drwy roi pwysau ar deuluoedd i ddangos ffordd o fyw nad ydyn nhw’n gallu ei fforddio, yn enwedig o amgylch achlysuron arbennig fel y Nadolig.
  • Mae ceisio cael gafael ar wasanaethau yn gallu digalonni pobl. Mae banciau bwyd, asesiadau budd-daliadau a systemau cymorth eraill yn gallu achosi stigma i unigolion mewn tlodi, yn enwedig pan mae’n rhaid iddyn nhw ailadrodd profiadau personol ar draws gwahanol wasanaethau.
  • Mae stigma tlodi yn dwysáu pan mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu beio neu’n cael eu hystyried yn ddiog am ddewisiadau sy’n cael eu llywio gan dlodi a’r systemau o’u cwmpas, fel trapiau cymhelliant i weithio.
  • Mae stigma tlodi yn gallu rhyngweithio â mathau eraill o wahaniaethu, gan gynnwys yr hyn sy’n cael ei brofi gan bobl ag anableddau neu bobl o wledydd eraill.
  • Mae adeiladau digroeso, gan gynnwys presenoldeb swyddogion diogelwch, yn gallu creu canfyddiad nad yw pobl sydd angen cael gafael ar wasanaethau yn cael eu croesawu na’u gwerthfawrogi.


Beth mae polisi ac ymarfer yn gallu ei wneud i leihau stigma tlodi?

Mae Lleisiau Abertawe - Mynd i’r afael â stigma tlodi gyda’n gilydd yn argymell camau blaenoriaeth y gallai gwasanaethau cyhoeddus eu cymryd i leihau a mynd i’r afael â stigma.

Mae’r rhain yn canolbwyntio ar dair thema allweddol:

  1. Cael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â chael gafael ar gymorth;
  2. Darparu gwasanaethau gydag urddas a pharch a;
  3. Newid yr iaith, y diwylliant a’r systemau sy’n gysylltiedig â'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynllunio a’u darparu.

O fewn pob un o’r tair thema hyn, mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ymarferol ar gyfer newid.

Mae cael gwared ar stigma o gael gafael ar gymorth yn cynnwys:

  • dileu asesiadau ailadroddus;
  • cynnig mwy nag un gwasanaeth o dan yr un to; a
  • symleiddio prosesau cymorth ar draws adrannau awdurdodau lleol.


Mae darparu gwasanaethau gydag urddas a pharch yn cynnwys:

  • sicrhau bod gwasanaethau’n gyfleus i’r bobl sydd angen cael gafael arnyn nhw, er enghraifft drwy gynnal opsiynau mynediad corfforol i osgoi allgáu digidol;
  • darparu hyfforddiant ar stigma tlodi i weithwyr proffesiynol er mwyn mynd i’r afael â stigma wrth gynllunio a darparu gwasanaethau; ac
  • archwilio ffyrdd o gefnogi’r grwpiau sydd fwyaf tebygol o brofi stigma tlodi yn well, fel ceiswyr lloches a ffoaduriaid, sy’n aml yn wynebu diweithdra.

Mae newid diwylliant, iaith a systemau yn cynnwys:

  • cynyddu cyfranogiad pobl sydd â phrofiad uniongyrchol yn y gwaith o ddylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau; a
  • symleiddio ac ailddiffinio iaith pethau fel ffurflenni a llythyrau.


Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer (Gwasanaethau Cyhoeddus) Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Amanda Hill-Dixon, ‘Mae’r ffaith ein bod wedi gallu cydgynhyrchu ‘Lleisiau Abertawe - Mynd i’r afael â stigma tlodi gyda’n gilydd’ gyda thîm o ymchwilwyr cymunedol yn Abertawe wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i ddod o hyd i atebion polisi ymarferol, lleol i’r agwedd wanychol hon ar dlodi. Ynghyd â chanlyniadau arolwg Cymru gyfan a gomisiynwyd gennym ni ar raddfa a natur stigma tlodi yng Nghymru, a thystiolaeth academaidd ar yr hyn sy’n gweithio i fynd i’r afael ag ef, mae gennym ni bellach gronfa o wybodaeth i helpu gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn.
“Mae’n galonogol y bydd Cyngor Abertawe yn defnyddio’r ymchwil hwn a gynhyrchwyd ar y cyd i lywio ei strategaeth mynd i’r afael â thlodi ac rydym ni’n hyderus y bydd llawer o awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill ledled Cymru a’r tu hwnt yn ei gael yn ddefnyddiol hefyd.”
   
Dywedodd Dr Tarh Martha Ako Mfortem, un o’r ymchwilwyr cymunedol a weithiodd ar y prosiect, “Mae ein canfyddiadau’n cyfeirio at bolisïau sy’n methu, nid pobl. Mae’n hanfodol cynnwys pawb yn y gwaith o lunio polisïau sy’n ceisio mynd i’r afael â’u hanghenion. Rydym ni bellach yn gwybod bod cymorth ac ymyrraeth gynnar yn gallu atal stigma a'i effeithiau hirdymor." 

Dywedodd Jane Whitmore, Prif Swyddog Dros Dro Cyngor Abertawe ar gyfer Comisiynu ac Adnoddau: “Rydym ni’n falch o weld y gwaith gwerthfawr hwn yn dod at ei gilydd. Bydd yr ymchwil hwn yn cyfrannu'n uniongyrchol at strategaeth mynd i'r afael â thlodi Cyngor Abertawe sydd ar y gweill ac mae'r ffaith ei fod wedi'i gynhyrchu ar y cyd gan ymchwilwyr cymunedol sydd wedi casglu mewnwelediad hanfodol i sut mae stigma tlodi yn effeithio ar fywydau pobl yn Abertawe a pha gamau mae modd eu cymryd i fynd i'r afael â hyn yn ychwanegu llawer mwy o ystyr ac arwyddocâd i'w canfyddiadau."      


Fel rhan o brosiect Lleisiau Abertawe, comisiynodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyfres o ffotograffau o bobl a lleoedd o amgylch Abertawe sy’n dangos ymarfer cynhwysol a chefnogol yn unol ag argymhellion allweddol yr ymchwil. Dyluniwyd y gyfres ar y cyd â’r tîm o ymchwilwyr cymunedol a gyd-gynhyrchodd yr ymchwil a gwnaed y delweddau gan Sukhy Hullait sydd wedi arwain prosiectau ffotograffig di-stigma eraill.

*Mae gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar stigma tlodi yn cynnwys Beth sy’n gweithio i fynd i’r afael â stigma tlodi, adolygiad o dystiolaeth ryngwladol a Codi’r Clawr ar stigma tlodi, arolwg YouGov a ddatgelodd fod 25% o boblogaeth oedolion Cymru wedi profi rhyw fath o stigma tlodi yn y flwyddyn flaenorol. Mae’r Ganolfan hefyd wedi cynnal Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ddod â phrofiad bywyd ac arbenigedd ymarferwyr ac academyddion at ei gilydd i rannu gwybodaeth.

To top