Mesur yr hyn sy’n bwysig: asesu dylanwad brocera gwybodaeth drwy ymchwil mewnosodedig 

Mae ein hymchwilydd dylanwad mewnosodedig yn gweithio ar draws prosiectau byw i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau cynllunio a chofnodi dylanwad i ddeall yn well pam y gall brocera gwybodaeth wella’r broses o lunio polisïau ar sail tystiolaeth.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn Sefydliad Brocera Gwybodaeth sy’n rhoi tystiolaeth annibynnol gadarn i weinidogion Llywodraeth Cymru ac i wasanaethau cyhoeddus er mwyn cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau. Mae wedi ymrwymo i sicrhau’r dylanwad mwyaf posibl drwy ddeall sut a pham y gall brocera gwybodaeth alluogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gael gafael ar dystiolaeth yn well a’i defnyddio.

Dros y blynyddoedd diwethaf bu cynnydd yn nifer y Sefydliadau Brocera Gwybodaeth, a law yn llaw â hynny bu nifer o astudiaethau ar eu rôl a’u gweithgareddau amrywiol, ond nid ydym yn gwybod rhyw lawer am eu dylanwad. Mae ein hymchwil ni yn ceisio deall y berthynas rhwng arferion brocera gwybodaeth ein Canolfan a defnyddio tystiolaeth mewn penderfyniadau ar bolisi ac ymarfer.

Yr Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig

Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi datblygu model Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig. Dyma ymchwilydd sy’n gweithio ar draws prosiectau byw i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau cynllunio a chofnodi dylanwad. Gwnaethom ddefnyddio enghreifftiau a oedd eisoes yn bodoli o ymchwil ‘mewnol’ a gynhaliwyd gan sefydliadau brocera gwybodaeth ochr yn ochr â gwerthusiadau a gynhaliwyd gan ymchwilwyr ‘mewnosodedig, i ddylunio ac i fireinio nifer o adnoddau a dulliau cofnodi dylanwad a datblygu dull o’u defnyddio’n systematig ar draws ein gwaith.

Mae’r Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar wybodaeth gan realyddion er mwyn gwerthuso dylanwad ein harferion brocera gwybodaeth. Mae hyn yn canolbwyntio ar fynegi ac adnabod y mecanweithiau sylfaenol sy’n arwain at ddylanwad a’r ffactorau cyd-destunol sy’n galluogi hyn. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y Ganolfan ac eraill (e.e. academyddion, Llywodraeth Cymru, neu swyddogion yn y sector cyhoeddus) a defnyddio cyfres o ‘offer’ drwy gydol prosiectau ─ gan gynnwys arsylwi strwythuredig, dadansoddiad rhanddeiliaid, mapio dylanwad, logiau myfyriol, cyfweliadau sy’n seiliedig ar wybodaeth gan realyddion a sesiynau myfyrio ─ i gofnodi’r dewisiadau ymarfer sy’n cael eu gwneud i sicrhau dylanwad.

Sut mae Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig yn gweithio?

Mae’r Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig wedi bod ar waith ers dros flwyddyn. Fe wnaethom gofnodi ein profiadau mewn papur sy’n sôn am y tri phrif fyfyrdod.

Yr angen am fodelau gwell o’r broses brocera gwybodaeth

Yn gyntaf, mae’n bwysig deall defnyddioldeb modelau sydd eisoes yn bodoli o’r broses brocera gwybodaeth. Fe wnaethom ddylunio’r dull Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig i weithredu o fewn model ‘llinol’ sy’n cael ei arwain gan y galw o’r broses brocera gwybodaeth, lle mae llunwyr polisïau, neu ddefnyddwyr tystiolaeth eraill, yn comisiynu a/neu’n cydweithio â’r Ganolfan i gynhyrchu neu i gyfuno tystiolaeth i fynd i’r afael ag angen tystiolaeth polisi penodol. Mae’r model hwn yn cynnig portread syml o sut mae brocera gwybodaeth yn gweithio mewn theori y gall pob gweithredwr ei ddeall, ond nid yw’n rhoi cyfrif digonol am y ffordd flêr y mae brocera gwybodaeth yn digwydd yn ymarferol. Er enghraifft, yn aml nid oes gan lunwyr polisïau anghenion tystiolaeth wedi’u mynegi’n glir, felly mae cwestiynau ymchwil yn aml yn cael eu ‘cyd-benderfynu’ rhwng y brocer gwybodaeth a’r defnyddiwr tystiolaeth sy’n cynnwys nifer o gamau yn ôl ac ymlaen yn y broses.

Mae angen gwell damcaniaethau a fframweithiau sy’n adlewyrchu natur gymhleth ac ailadroddol brocera gwybodaeth mewn polisi cyhoeddus. Yn hollbwysig, o ran asesu dylanwad, mae’r modelau presennol yn tueddu i ganolbwyntio ar effeithiau tymor byr, fel bodlonrwydd cyfranogwyr, yn hytrach na dylanwadau ehangach yn y byd go iawn ar brosesau polisi, defnyddwyr tystiolaeth a chanlyniadau. Mae’r Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig yn cyfrannu at well damcaniaethau a fframweithiau brocera gwybodaeth sy’n taro cydbwysedd rhwng osgoi gorsymleiddio sy’n anwybyddu cymhlethdod y byd go iawn, ar yr un pryd â chadw draw o fodelau anhyblyg sy’n rhy gymhleth y mae’n anodd eu gweithredu ar draws gwahanol gyd-destunau.

Meddwl yn ‘fecanistig’

Mae ein hail fyfyrdod yn ymwneud â heriau cynllunio ar gyfer brocera gwybodaeth mewn prosiectau ac asesu dylanwad hynny. Mae hi’n aml yn anodd mesur dylanwad, ac mae hi’n anodd priodoli polisi hirdymor neu ganlyniadau cymdeithasol yn uniongyrchol i’r gweithgareddau hyn. Yn lle hynny, mae dylanwad yn aml yn ymddangos drwy ganlyniadau ‘canolraddol’, fel gwell gallu i ddefnyddio tystiolaeth, maint y rhwydweithio rhwng cynhyrchwyr tystiolaeth a defnyddwyr, a newidiadau mewn dealltwriaeth.

Mae hi wedi bod yn anodd defnyddio dulliau traddodiadol o gynllunio dylanwad, gan eu bod yn tueddu i ganolbwyntio ar ganlyniadau clir sy’n cael eu gyrru gan wasanaeth. Mewn ymateb, datblygwyd dull mwy hyblyg, gan ganolbwyntio ar pam mae arferion penodol ─ e.e. cyfuno tystiolaeth draddodiadol, mathau amgen o gasglu a chyfathrebu tystiolaeth, rhyngweithio wedi’i hwyluso â thystiolaeth drwy gyfarfodydd bwrdd crwn, gweithdai a digwyddiadau eraill, ac ati ─ yn cael eu dewis, sut maen nhw’n cael eu rhoi ar waith, a’r cyd-destun lle maen nhw’n gweithredu. Roedd hyn yn caniatáu myfyrio mwy realistig ar ddylanwad wrth i brosiectau esblygu.

Un o’r prif fewnwelediadau o rôl yr Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig yw gwerth edrych ar arferion brocera gwybodaeth fel mecanweithiau sy’n helpu i greu dylanwad. Mae’r safbwynt hwn yn hybu symud oddi wrth gynllunio anhyblyg sy’n seiliedig ar ganlyniadau tuag at ddealltwriaeth ddyfnach o sut mae newid yn digwydd yn ymarferol sy’n cefnogi gwerthuso mwy ystyrlon a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.

‘Mewnosod’ fel ffordd o werthuso

Y trydydd myfyrdod yw bod gwerthuso dylanwad sefydliad brocera gwybodaeth o sefyllfa fewnosodedig yn cyflwyno rhai heriau. Gan eistedd rhwng rôl “fewnol” a rôl “fewnosodedig”, rhaid i’r Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig gydbwyso bod yn ddigon agos i ddeall ac i gefnogi prosiectau, gan barhau i fod yn ddigon annibynnol i roi gwybodaeth feirniadol. Rydym yn disgrifio’r Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig fel gwerthuswr cefnogol. Yn hytrach na rhoi awgrymiadau ymarferol am y ffordd orau o sicrhau dylanwad, mae’n galluogi broceriaid i fynegi ac i fyfyrio ar eu gwybodaeth ddealledig a’u tybiaethau am sut bydd eu harferion yn arwain at ddylanwad.

Mae rhai heriau methodolegol hefyd. Mae timau prosiect yn aml yn gweithredu fel porthorion i gyfranogwyr, sy’n gallu gogwyddo gwerthusiad at safbwyntiau mwy cadarnhaol. Ymdrechwyd i ehangu cyfranogiad a lleihau’r dylanwad hwn, er bod rhai lleisiau’n dal yn anoddach eu casglu. Roedd hybu myfyrio agored ar heriau a methiannau hefyd yn cymryd amser, ond roedd hyn wedi gwella wrth ddatblygu ymddiriedaeth.

Mae tensiwn terfynol rhwng cael ymchwilydd ymroddedig sy’n canolbwyntio ar werthuso dylanwad a meithrin cyfrifoldeb sefydliadol ar y cyd dros ddylanwad. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, cafodd adnoddau a dulliau eu dylunio i fod yn hygyrch a’u defnyddio ar y cyd, gan helpu i fewnosod meddwl am ddylanwad mewn arferion bob dydd.

Ble nesaf?

Mae gwaith yr Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig yn parhau, ac mae’r ymchwilydd bellach yn gweithio ar brosiectau newydd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd o gam cyntaf yr ymchwil i’r prosiectau newydd hyn ac wedi mireinio ein dull gweithredu. Yn y pen draw, rydym yn bwriadu ‘prif ffrydio’ defnyddio offer asesu dylanwad o fewn yr ystod eang o brosiectau brocera gwybodaeth y mae’r Ganolfan yn eu darparu.

Mae’r papur y seiliwyd y blog hwn arno ar gael i’w ddarllen drwy fynediad agored yma:

Smith, F., Durrant, H., a Downe, J. (2026) Evaluating the impact of knowledge brokering practices: Learning from embedded impact research at the Wales Centre for Public Policy, Research Evaluation, 35 https://doi.org/10.1093/reseval/rvag022

To top