Cipio a Dangos Effaith Pontio Gwybodaeth: Astudiaeth o Ganolfannau What Works y DU

Mae'r gymrodoriaeth hon yn edrych ar sut mae Canolfannau What Works yn cofnodi ac yn dangos eu heffaith, a sut mae’n bosibl rhannu dysgu ac ymarfer ledled Rhwydwaith What Works. Gan weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, bydd y prosiect yn dod ag ymchwil ac ymarfer at ei gilydd i ddeall yn well y dulliau y mae sefydliadau pontio gwybodaeth yn eu defnyddio i ganfod, cofnodi a dangos eu heffaith.

Ffocws allweddol y gymrodoriaeth yw her deall yr hyn sy'n digwydd rhwng gweithgareddau pontio gwybodaeth ac effeithiau tymor hirach ar bolisïau ac ymarfer. Bydd yn edrych ar y dulliau a'r adnoddau sy’n cael eu defnyddio i gipio mathau gwahanol o effaith, gan gynnwys y deilliannau uniongyrchol sydd efallai’n helpu i ddangos cynnydd tuag at newid yn y tymor hirach.

Mae'r prosiect yn cyfuno adolygiad o lenyddiaeth academaidd a llwyd gan gynnwys cyfweliadau ledled y Rhwydwaith What Works. Bydd hyn yn rhoi trosolwg o'r dulliau presennol yn ogystal ag edrych hefyd ar sut maen nhw’n cael eu rhoi ar waith yn ymarferol mewn cyd-destunau sefydliadol gwahanol. Bydd gweithdy dysgu gan gymheiriaid eraill ar draws canolfannau a gweithgareddau dilynol yn creu cyfleoedd i Ganolfannau What Works fyfyrio ar y cyd ar yr ymarfer cyfredol, rhannu’r hyn a ddysgir a chanfod ffyrdd ymarferol o gryfhau eu dulliau.

Yn sgil y gwaith hwn, nod y gymrodoriaeth yw gwneud ymarfer sydd eisoes yn bodoli yn fwy gweladwy a chymeradwy; cefnogi dulliau mwy cadarn o gipio a dangos effaith; a chryfhau perthnasoedd a dysgu gan gymheiriaid eraill ledled Rhwydwaith What Works a'r gymuned bolisi yn ehangach. Mae hyn yn cynnwys cydweithio â Rhwydwaith Ymgysylltu â Pholisi’r Prifysgolion (UPEN) â’i Chymuned Ymarfer Defnyddio Gwybodaeth. Yn y tymor hirach, ei nod yw cyfrannu at systemau ac ymarferion cryfach er mwyn deall, mynegi a rhannu effaith pontio gwybodaeth.

Erthyglau blog

To top