1. Ar y cyfan, sut brofiad fu eich amser yn y Ganolfan?
Roedd fy amser yn WCPP yn hynod werthfawr a gwerth chweil. Rhoddodd gyfle unigryw i gael cipolwg uniongyrchol ar sut mae gwaith ymchwil academaidd yn cael ei ddefnyddio i lywio polisïau a gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Roeddwn i'n gallu gweithio'n annibynnol ar brosiect ymchwil sylweddol gan gael cefnogaeth ac arweiniad rhagorol. Cryfhaodd y profiad fy nealltwriaeth o'r berthynas rhwng ymchwil, tystiolaeth a llunio polisïau, a rhoddodd brofiad ymarferol i mi y tu hwnt i'r hyn y gallwn fod wedi'i gael trwy fy PhD yn unig.
2. Beth ydych chi wedi gallu ei wneud/cymryd rhan ynddo drwy eich interniaeth na fyddech chi wedi gallu ei wneud hebddo?
Roedd yr interniaeth yn caniatáu i mi gynnal prosiect ymchwil annibynnol yn archwilio sut mae mapiau a chartograffeg yn cael eu defnyddio i gyfleu tystiolaeth a chefnogi dulliau llunio polisïau. Cynhaliais adolygiad llenyddiaeth, dadansoddais ddogfennau polisi, cynhaliais gyfweliadau â gweithwyr proffesiynol ym maes polisi, a chynhyrchais adroddiad ymchwil ar gyfer cynulleidfa anacademaidd. Cefais gyfle hefyd i ymgysylltu'n uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr sy'n gweithio yn y sector polisi, gan gael cipolwg ar brosesau datblygu polisi.
3. Sut ydych chi'n meddwl bod eich amser yn y Ganolfan wedi cefnogi eich astudiaethau PhD?
Roedd y lleoliad yn ategu fy PhD drwy ddatblygu fy sgiliau ymchwil, dadansoddi a chyfathrebu mewn amgylchedd gwaith go iawn. Gwnaeth wella fy nealltwriaeth o sut y gall ymchwil gael effaith ymarferol y tu hwnt i'r byd academaidd a rhoddodd brofiad o gasglu a dadansoddi data ansoddol. Mae'r prosiect hefyd wedi creu syniadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol, gan gynnwys cysylltiadau posibl rhwng prosiect yr interniaeth a'm hymchwil PhD, yn enwedig o ran defnyddio mapiau o fewn polisi iaith. Mae'r profiad wedi fy helpu i feddwl yn fwy beirniadol am effaith ymchwil a chyfnewid gwybodaeth.
4. Sut ydych chi'n meddwl bod eich amser yn y Ganolfan wedi cefnogi'ch datblygiad proffesiynol ehangach?
Cryfhaodd y lleoliad fy sgiliau proffesiynol yn sylweddol, gan gynnwys rheoli prosiectau, ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyfweld, dadansoddi ansoddol, ysgrifennu adroddiadau a chyfleu ymchwil i gynulleidfaoedd anacademaidd. Rhoddodd brofiad gwerthfawr i mi hefyd o weithio o fewn sefydliad sy'n canolbwyntio ar bolisi a'm helpu i greu rhwydweithiau proffesiynol gydag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes polisi. Cynyddodd yr interniaeth fy hyder mewn rheoli prosiectau ymchwil annibynnol a chadarnhaodd fy niddordeb mewn dilyn gyrfa sy'n gysylltiedig ag ymchwil a llunio polisïau.
5. Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth fyfyrwyr PhD eraill sydd â diddordeb mewn interniaeth gyda’r Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP)?
Byddwn yn annog myfyrwyr PhD yn gryf i wneud cais am interniaeth WCPP. Mae'n gyfle gwych i weld sut mae gwaith ymchwil yn cael ei gymhwyso'n ymarferol ac i gael profiad y tu allan i'r amgylchedd academaidd. Mae'r lleoliad yn cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, creu rhwydweithiau proffesiynol a gweithio ar ymchwil sydd â pherthnasedd clir i'r byd go iawn. Mae'r gefnogaeth a ddarperir gan WCPP yn rhagorol, a gall y profiad helpu i ehangu cyfleoedd gyrfaol wrth hefyd gyfoethogi eich gwaith ymchwil doethurol. Mae tîm WCPP yn hynod gyfeillgar ac yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd, fel gemau bwrdd amser cinio, sy'n helpu i greu amgylchedd gwaith croesawgar a chefnogol. Ar y cyfan, roeddwn i'n teimlo bod fy amser yn WCPP yn werthfawr o safbwynt proffesiynol ac yn bleserus o safbwynt personol!