Tystiolaeth a gwybodaeth i gryfhau cydlyniant cymunedol

Sut mae modd i lywodraeth nesaf Cymru gryfhau cymunedau er mwyn creu Cymru fwy cydlynol?  

Bydd y weminar hon yn adeiladu ar waith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i helpu Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Gydlyniant Cymunedol i nodi camau gweithredu ym maes polisi er mwyn cryfhau cydlyniant cymunedol yng Nghymru.  

Bydd llywodraeth nesaf Cymru’n dod i rym ar adeg pan fo pryder cynyddol ynghylch ymrannu a pholareiddio mewn cymunedau ledled Cymru a’r DU yn ehangach. Yn ystod y tair blynedd diwethaf yn unig, mae o leiaf bedwar digwyddiad mawr yng Nghymru wedi effeithio ar gydlyniant cymunedol. Mae’r rhain wedi amrywio o brotestiadau gwrth-fewnfudo i ymosodiadau ar y cyfryngau cymdeithasol ar sefydliadau sy’n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid. I gryfhau cydlyniant cymunedol yn y cyd-destun hwn, bydd angen gweithredu mewn ffordd gydgysylltiedig i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau, meithrin/ail-feithrin ymddiriedaeth mewn sefydliadau a chefnogi’r seilwaith lleol sy’n sylfaen i gysylltiadau cadarnhaol mewn cymunedau a rhyngddyn nhw. 

Bydd heriau penodol i fynd i’r afael â nhw hefyd yn ystod tymor nesaf y Senedd, h.y. ymateb i’r cynnydd mewn agweddau negyddol at fewnfudwyr a chamwybodaeth ar-lein, wrth weithio’n rhan o fframwaith datganoledig sy’n golygu mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol o hyd am rai meysydd allweddol sy’n effeithio ar gydlyniant. Ar yr un pryd, mae’n gyfle pwysig i adeiladu ar ddatblygiadau diweddar, gan gynnwys ymchwiliad diweddar y Senedd i gydlyniant cymunedol a’r gwaith o sefydlu’r Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant Cymunedol, ac ailystyried sut mae modd i bolisïau cydlyniant cymunedol gefnogi cymunedau yng Nghymru’n well.  

Bydd yr arbenigwyr ar y panel yn trafod y canlynol:  

  • Beth yw’r bygythiadau mwyaf sy’n dod i’r amlwg i gydlyniant cymunedol yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf? Sut mae modd i lywodraeth nesaf Cymru fynd i’r afael â nhw? 
  • Sut mae modd i Lywodraeth Cymru gefnogi dulliau sy’n seiliedig ar le a dulliau sy’n cael eu harwain gan y gymuned i gryfhau cydlyniant?  
  • Sut mae modd meithrin/ail-feithrin ymddiriedaeth yng nghyd-destun ymrannu neu hyder isel mewn sefydliadau? Pa rôl y dylai Llywodraeth Cymru a gweithredu’n lleol ei chwarae? 

Siaradwyr a gadarnhawyd:  

  • Jacqueline Broadhead: Cyfarwyddwr, Y Gyfnewidfa Mewnfudo ac Amrywiaeth Fyd-eang; Migration Oxford; Inclusive Cities 
  • Raj Bhari: Associate at Belong: The Cohesion and Integration Network
  • Paul Davies: Community Cohesion Officer, Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Patrick Barron: Global Lead for Social Cohesion and Resilience, World Bank

Yn dilyn y drafodaeth, bydd sesiwn holi ac ateb fyw. 

Byddwch yn rhan o’r drafodaeth – cofrestrwch nawr. 

Sylwch ein bod yn bwriadu recordio a/neu drawsgrifio’r sesiwn. Bydd y recordiad yn cael ei rannu drwy sianeli’r Sefydliad Materion Cymreig a/neu Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Os oes gennych chi unrhyw bryderon, neu os nad ydych chi am i ni wneud hyn na phriodoli eich sylwadau i’ch enw, rhowch wybod i ni. 

To top