Dros y 18 mis diwethaf, mae’r Gweithgor annibynnol ar lywodraeth leol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a gynullwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac a gefnogir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi bod yn archwilio sut y gall Llywodraeth newydd Cymru weithio gyda'r sector i ddatblygu model gweithredu newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru..
Mae'r gweithgor, sy'n cynnwys arweinwyr awdurdodau lleol, prif weithredwyr ac arbenigwyr annibynnol ar lywodraeth leol, wedi cyhoeddi set o safbwyntiau ac argymhellion cyn etholiad y Senedd. Mae’r grŵp yn teimlo y byddai'r pecyn hwn o fesurau yn creu'r amodau i'r sector ddatblygu dyfodol mwy cynaliadwy i gynghorau.
Mae'r grŵp yn galw ar y llywodraeth newydd i weithredu'n gyflym er mwyn:
- Mynd i'r afael â gwendid systemig y system gyllid llywodraeth leol bresennol trwy gyflwyno mesurau sy'n cynyddu gwytnwch ac ymreolaeth cynghorau.
- Symleiddio a chryfhau'r dull o atebolrwydd i lywodraeth leol, er mwyn lleihau'r baich gweinyddol yn ogystal â darparu dull mwy cadarn a systemig o asesu perfformiad ac iechyd ariannol cynghorau.
- Gweithio gyda'r sector i ddatblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu a mynd i'r afael â'r bylchau presennol a disgwyliedig o ran sgiliau.
- Buddsoddi mewn ailadeiladu'r gallu i arloesi yn y sector fel bod ymdrech gydgysylltiedig dan arweiniad y sector i ddatblygu, profi a gweithredu modelau newydd o gyflawni.
Mae angen i'r camau hyn, a'r argymhellion cysylltiedig, gael eu hategu gan gytundeb ar bwrpas a swyddogaethau cynghorau, a gweledigaeth a rennir ar gyfer sut olwg fydd ar gyngor y dyfodol. Yn ei adroddiad terfynol, a ddisgwylir yn y misoedd nesaf, bydd y gweithgor yn cyhoeddi gweledigaeth arfaethedig gyda chamau gweithredu ategol ar gyfer llywodraeth leol a Llywodraeth nesaf Cymru i symud o drwsio'r sylfeini i ddyfodol cynaliadwy hirdymor i lywodraeth leol.
Mae'r grŵp yn derbyn y bydd angen i gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru fynd law yn llaw â chamau gweithredu o fewn y sector a chan y sector – gall llywodraeth newydd hwyluso a galluogi newid, ond ni fydd hyn yn ddigon. Dim ond gydag arweinyddiaeth yn y sector y gellir datblygu model newydd, mwy cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol. Mae angen i arweinwyr yn y sector ymgymryd â'r her o ddatblygu modelau mwy cynaliadwy ar y cyd â chynghorau eraill, cyrff cyhoeddus eraill, a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.