Bu etholiadau’r Senedd 2026 yn drobwynt mawr i wleidyddiaeth Cymru. Ar ôl 27 mlynedd o lywodraeth Lafur, aeth Plaid Cymru ati i ffurfio llywodraeth am y tro cyntaf â Reform UK yn wrthblaid swyddogol. Mae maint a chyfansoddiad y Senedd hefyd wedi newid, gyda 96 o aelodau etholedig yn hytrach na 60, a bron i 70% o Aelodau’r Senedd (ASau) yn cael eu hethol am y tro cyntaf.
Wrth i lunwyr polisïau ymdopi â’r newidiadau hyn, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yma i bontio’r bwlch rhwng ymchwil a gwneud penderfyniadau, i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru.
Yn ddiweddar, rydyn ni wedi ysgrifennu at bob AS i’w llongyfarch ac i amlygu enghreifftiau o’n gwaith diweddar sy’n ymwneud â’r blaenoriaethau a’r heriau polisi sy’n wynebu Cymru yn ystod tymor nesaf y Senedd a thu hwnt.
Dywedodd yr Athro Dan Bristow, Cyfarwyddwr y Ganolfan: “Mae Aelodau’r Senedd yn wynebu her wrth gydbwyso nifer o ffynonellau gwybodaeth ac anwybyddu’r holl sŵn i ganolbwyntio ar gynnwys y dadleuon am bolisi. Ers 12 mlynedd rydyn ni wedi darparu ymchwil effeithiol o safon ar draws cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, gan ddarparu adnodd hynod werthfawr i lunwyr polisïau sy’n ceisio gwella prosesau gwneud penderfyniadau a rhoi’r penderfyniadau hynny ar waith."
Darllenwch ein Cyflwyniad i WCPP i Aelodau’r Senedd, a rhowch wybod os ydych chi o’r farn y byddai modd i ni gefnogi eich gwaith fel lluniwr polisïau, ymarferwr neu arweinydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. E-bostiwch info@wcpp.org.uk am ragor o wybodaeth.