Dulliau rhyngwladol ar gyfer dysgu proffesiynol i athrawon ar ddechrau eu gyrfa

Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithlu Addysg Strategol, yn amlinellu camau gweithredu i gryfhau gweithlu addysg Cymru. Gan gydnabod yr amrywiaeth o heriau sy’n wynebu’r sector, gan gynnwys recriwtio a chadw athrawon, pryderon am lesiant athrawon ac anghenion cynyddol gymhleth dysgwyr, mae'r Cynllun Gweithlu Addysg Strategol yn tanlinellu bod dysgu proffesiynol yn hanfodol i ddatblygiad ac i broffesiynoldeb y gweithlu addysgu yng Nghymru.

Er mwyn cefnogi’r ymdrechion i gryfhau’r ddarpariaeth dysgu proffesiynol i athrawon ar ddechrau eu gyrfa, comisiynodd Llywodraeth Cymru Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2025 i archwilio dulliau rhyngwladol o ddarparu dysgu proffesiynol i athrawon ar ddechrau eu gyrfa mewn cyd-destunau tebyg i Gymru.

I wneud hyn, comisiynodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru arbenigwyr rhyngwladol i gynhyrchu astudiaethau achos ar ddysgu proffesiynol ar gyfer ECTs yn Awstralia, Gwlad y Basg, y Ffindir, Seland Newydd, Norwy a Singapore. Er mwyn archwilio’r dulliau rhyngwladol hyn ymhellach a’u goblygiadau i Gymru, cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddau weithdy caeedig hefyd gyda’r arbenigwyr rhyngwladol, swyddogion Llywodraeth Cymru, a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Dysgu.

Ni fwriedir i’r astudiaethau achos ddarparu cyfrifon cynhwysfawr o ddysgu proffesiynol ym mhob gwlad neu ranbarth, na chynnig modelau i’w dyblygu’n union yng Nghymru. Yn hytrach, maen nhw’n tynnu sylw at nodweddion a dulliau allweddol o gefnogi athrawon ar ddechrau eu gyrfa a allai gyfrannu at y broses o fyfyrio ar gyd-destun Cymru a datblygu polisi ac ymarfer yn y dyfodol.

Er gwaethaf yr amrywiaeth o gyd-destunau ar draws yr astudiaethau achos a’r gweithdai, nodwyd nifer o egwyddorion cyffredin sy’n debygol o gyfrannu at system dysgu proffesiynol effeithiol:

  1. ‘Continwwm’ o ddysgu proffesiynol: Mae dysgu proffesiynol yn fwyaf effeithiol pan gaiff ei ystyried yn gontinwwm sy’n dechrau yn ystod Addysg Gychwynnol i Athrawon ac sy’n parhau drwy gydol y cyfnod gyrfa gynnar a’r tu hwnt.
  • Strwythurau ar lefel system sy’n galluogi hyblygrwydd lleol: Mae nifer o systemau’n cyfuno sgaffaldiau cenedlaethol neu ranbarthol, gan gynnwys fframweithiau, safonau, canllawiau, adnoddau a seilwaith meithrin gallu, gyda rhaglenni sy’n cael eu darparu’n lleol yn cael eu siapio gan ysgolion, awdurdodau lleol a rhwydweithiau proffesiynol.
  • Dysgu seiliedig ar ymarfer: Mae dysgu proffesiynol yn cael ei gysylltu’n fwyaf cyson ag arferion sy’n seiliedig ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys arsylwi, adborth, cyd-gynllunio, myfyrio strwythuredig a chylchoedd ymholi, yn hytrach na dibynnu’n bennaf ar ddigwyddiadau hyfforddi ynysig.
  • Mabwysiadu barn sy’n seiliedig ar asedau am ECTs: Gallai symud o safbwynt sy’n seiliedig ar ddiffyg tuag at farn seiliedig ar asedau am athrawon ar ddechrau eu gyrfa, a chydnabod eu cyfraniadau at gymunedau ysgol, helpu ECTs i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi’n well.

Yn ogystal â’r egwyddorion cyffredin hyn, tynnwyd sylw at nifer o arferion penodol a allai fod yn werth eu hystyried yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Mentoriaid hyfforddedig ac sy’n cael eu talu;
  • Modelau cydweithredol;
  • Myfyrio strwythuredig; a
  • Dysgu proffesiynol amlieithog.

Gyda’i gilydd, gall yr egwyddorion a’r arferion hyn gynnig cipolwg gwerthfawr ar gryfhau dysgu proffesiynol effeithiol yng Nghymru. Cyflwynir y canfyddiadau hyn yn yr adroddiad rydym wedi’i gyhoeddi a’n briff polisi.  Rydym hefyd wedi cyhoeddi dau bapur gwyntyllu arbenigol a ysgrifennwyd gan gynghorwyr arbenigol yng Nghymru ar gyfer y prosiect hwn. Mae’r Athro Alma Harris a Dr Alexandra Morgan yn myfyrio ar yr astudiaethau achos ac ystyried sut gallai Cymru gryfhau ei dulliau ar gyfer dysgu proffesiynol i athrawon ar ddechrau eu gyrfa.

To top