Dysgu proffessiynol i gymorthwyo athrawon ar ddechrau eu gyrfa

Ledled y byd, mae gwledydd yn wynebu prinder athrawon cynyddol o ganlyniad i anawsterau recriwtio a chadw staff. Yn fwy diweddar, mae sylw wedi cael ei dynnu at y nifer uchel o athrawon sydd ar ddechrau eu gyrfa – sy'n golygu'r rhai sydd â phum mlynedd o brofiad neu lai– sy'n gadael y proffesiwn. Mae’r her hon yn arbennig o berthnasol i Gymru, gyda ffigurau’n awgrymu bod 29% o athrawon a adawodd y maes yn 2022 yn athrawon ar ddechrau eu gyrfa.

Mae rhesymau dros ffigurau gadael uchel athrawon ar ddechrau eu gyrfa yn gymhleth, ond yn cynnwys pwysau llwyth gwaith a chynnydd mewn problemau sy’n ymwneud ag ymddygiad disgyblion, heriau iechyd meddwl ac anghenion dysgu ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth ers pandemig y coronafeirws. Nid oes ateb syml i wella cyfraddau cadw athrawon ar ddechrau eu gyrfa, ond mae rhywfaint o dystiolaeth (Taylor et al., 2023; Nguyen et al., 2023; Egan et al., 2025; Van den Brande a Zuccollo, 2021) i awgrymu y gallai cynnig dysgu proffesiynol effeithiol ac o ansawdd uchel i athrawon wella cyfraddau cadw athrawon, neu ddylanwadu’n gadarnhaol ar ffactorau a allai effeithio ar gyfraddau cadw athrawon, megis lles.

Yn rhannol mewn ymateb i’r heriau hyn, yn 2025 cyhoeddodd y Llywodraeth Cymru flaenorol ei bod yn datblygu Cynllun Gweithlu Addysg Strategol, gyda’r nod o ymgorffori ‘gweledigaeth a gwerthoedd’ y sector er mwyn gwella’r gweithlu addysg. Gwnaeth y cyhoeddiad dynnu sylw at yr angen i wella cyfleodd dysgu proffesiynol i staff addysgu i gefnogi lles a mynd i’r afael â phroblemau ynglŷn â recriwtio a chadw staff. Yn 2025, sefydlwyd Dysgu gan y Llywodraeth Cymru flaenorol hefyd, sef y corff cenedlaethol er dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, sy’n gyfrifol am gyflwyno dysgu proffesiynol o safon ac yn gyson yn genedlaethol i ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau a gynhelir yng Nghymru.

Er mwyn cyfrannu at waith Dysgu a rhoi’r Cynllun Gweithlu Addysg Strategol ar waith, gofynnodd y Llywodraeth Cymru flaenorol i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ddwyn ynghyd dystiolaeth ar sut mae athrawon mewn gwledydd eraill yn cael eu cefnogi drwy ddysgu proffesiynol yn ystod pum mlynedd cyntaf eu gyrfa, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth o effaith ar gyfraddau cadw athrawon ar ddechrau eu gyrfa.

I wneud hyn, mae WCPP wedi comisiynu chwe arbenigwr rhyngwladol i greu astudiaeth achos ar ddull eu gwlad o ddysgu proffesiynol. Yn ogystal â hyn, rydyn ni wedi cynnig dau weithdy gydag awduron yr astudiaeth achos, Llywodraeth Cymru a thri arbenigwr wedi’u lleoli yng Nghymru i drafod cymhwysedd canfyddiadau’r ymchwil yng nghyd-destun Cymru. Bydd canfyddiadau’r gwaith hwn yn helpu i gyfrannu at feddylfryd Llywodraeth Cymru a phartneriaid y system addysg ynghylch sut i ddatblygu dysgu proffesiynol effeithiol o safon i athrawon ar ddechrau eu gyrfa, gan ymateb i’r cwestiynau ymchwil canlynol

  1. Sut mae athrawon ar ddechrau eu gyrfa yn cael eu cefnogi yn ystod pum mlynedd cyntaf eu gyrfaoedd, yn enwedig ar ôl ymsefydlu, mewn gwledydd tebyg i Gymru sydd â systemau addysg tebyg; a
  2. Pa agweddau ar ddarpariaeth dysgu proffesiynol rhyngwladol ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa a allai fod yn berthnasol i system addysg Cymru?

Byddwn ni’n cyhoeddi adroddiad yr astudiaeth achos erbyn Medi 2026. Os oes gennych chi gwestiynau am y prosiect hwn, cysylltwch ag Alex.Jones@wcpp.org.uk

To top