Mynd i’r afael â rhwystrau cymhleth i waith:  atebion amlasiantaeth sy’n seiliedig ar leoedd

Mae anweithgarwch economaidd yn dal yn her fawr ar draws y DU, gyda nifer fawr o bobl wedi’u hallgáu o’r farchnad lafur. Mae cyfraddau anabledd uwch a bwlch cyflogaeth anabledd sy'n fwy na chyfartaledd y DU yn golygu bod yr heriau hyn yn anoddach yng Nghymru. Er mwyn mynd i’r afael â’r cyfraddau uchel hyn o allgáu o’r farchnad lafur, lansiodd Llywodraeth Cymru 2021 – 2026 gynlluniau peilot Anweithgarwch Economaidd "Trailblazer" ym Mlaenau Gwent, Sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot ym mis Ebrill 2025. Mae'r cynlluniau hyn sydd wedi cael eu dylunio'n lleol yn blaenoriaethu cefnogi pobl nad ydynt mewn gwaith nac wrthi'n chwilio am waith oherwydd anabledd, cyflyrau iechyd neu gyfrifoldebau gofalu drwy ddull amlasiantaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n seiliedig ar leoedd (Llywodraeth Cymru, 2025).

Gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynlluniau "Trailblazer" drwy gynnull arbenigwyr ar ddulliau amlasiantaeth llwyddiannus o fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd. Ym mis Ionawr 2026, fe wnaethom gynnull dwy drafodaeth bwrdd crwn gyda rhanddeiliaid ac arbenigwyr o Gymru a ledled y DU, gan gynnwys academyddion, swyddogion Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr o'r Cynlluniau "Trailblazer", arbenigwyr polisi ac ymarferwyr.

Pwrpas y trafodaethau bwrdd crwn hyn oedd helpu Llywodraeth Cymru a’r Cynlluniau "Trailblazer" i ddeall:

  • Beth yw prif nodweddion dulliau amlasiantaeth lleol llwyddiannus o leihau anweithgarwch economaidd?
  • Pa wersi allweddol gellir eu dysgu o bartneriaethau amlasiantaeth sy’n seiliedig ar leoedd i leihau anweithgarwch economaidd?

Mae ein hadroddiad Mynd i’r afael â rhwystrau cymhleth i waith:  atebion amlasiantaeth sy’n seiliedig ar leoedd, yn crynhoi'r prif negeseuon a myfyrdodau a ddaeth i'r amlwg yn ystod y trafodaethau bwrdd crwn hyn:

  • Mae anweithgarwch economaidd yn aml yn fater aml-ddimensiwn, gydag unigolion fel arfer yn wynebu pedwar i chwe rhwystr, gan gynnwys iechyd, amgylchiadau personol, a ffactorau strwythurol ehangach.
  • Mae mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd yn gofyn am ddull gweithredu amlasiantaeth cydlynol sy’n cynnwys cydweithio rhwng partneriaid sydd ag arbenigedd ategol, gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd a mudiadau trydydd sector.
  • Un o brif nodweddion partneriaethau llwyddiannus yw presenoldeb asiantaeth arweiniol sy’n cydlynu ac yn goruchwylio’n strategol.
  • Mae dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael yn effeithiol â rhwystrau i waith. Gall cymorth un-i-un wedi'i deilwra helpu i adnabod anghenion a heriau unigolyn, a bod yn un pwynt cyswllt i gael gafael ar wasanaethau cofleidiol.

Roedd y trafodaethau bwrdd crwn hefyd wedi codi'r heriau cyffredin sy'n wynebu dulliau amlasiantaeth a sut mae modd eu goresgyn:

  • Mae heriau rhannu data yn gallu cyfyngu ar effeithiolrwydd partneriaethau amlasiantaeth. Mae heriau’n aml yn deillio o bryderon go iawn neu ganfyddiadau o bryderon am rannu gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn eu goresgyn, mae angen pwrpas clir a rennir ar sefydliadau ar gyfer rhannu data, wedi’i gefnogi gan brotocolau ffurfiol a systemau a rennir.
  • Mae ymdrechion amlasiantaeth i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd yn aml yn cael eu cyfyngu gan gyllid tymor byr. Mae meithrin partneriaethau cryf ac ymddiriedaeth yn gofyn am fuddsoddiad parhaus. Mae trefniadau cyllido tymor byr yn gallu cyfyngu ar y cyfle i gael cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gallu creu heriau yn y gweithlu, gan ei gwneud yn anoddach cadw staff profiadol. Roedd y rhai a gymerodd ran yn y trafodaethau bwrdd crwn yn galw am gyllid tymor hirach i gefnogi cydweithio effeithiol a chanlyniadau parhaol.

Bydd yr wybodaeth hon yn cyfrannu at gyflawni Cynlluniau Anweithgarwch Economaidd "Trailblazer" Cymru yn 2026/27.

To top