Cyn etholiad y Senedd ym mis Mai, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), mewn partneriaeth â'r Sefydliad Materion Cymreig (IWA), yn cyflwyno cyfres o weminarau sy'n ysgogi'r meddwl i archwilio tystiolaeth ac arbenigedd ynghylch rhai o'r heriau polisi mwyaf tyngedfennol sy'n aros am Lywodraeth nesaf Cymru.
Mae'r gweminarau wedi'u hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y bydd tirwedd polisi Cymru yn datblygu ar ôl etholiad nesaf y Senedd. Bydd pob gweminar yn canolbwyntio ar her polisi benodol yn un o feysydd blaenoriaeth presennol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau, yr Amgylchedd a Sero Net, Llesiant Cymunedol) gyda mewnbwn gan siaradwyr gwadd arbenigol, a chyfleoedd i ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
Y ffordd ymlaen: Tystiolaeth a gwybodaeth ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru
Cyfres gweminarau Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a gynhelir gan y Sefydliad Materion Cymreig
- Adeiladu economïau lleol llewyrchus drwy fframwaith pontio teg | Dydd Iau 3/10 Chwefror
- Troi'r llanw ar dlodi plant | Dydd Iau 26 Chwefror 11am
- Dyfodol gynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yng Nhymru | Dyddiad i’w gadarnhau
- Cryfhau cydlyniant cymunedol | Dyddiad i’w gadarnhau
Mae modd cofrestru nawr ar gyfer y weminar gyntaf, Adeiladu economïau lleol llewyrchus drwy fframwaith pontio teg.
Sut gall Cymru sicrhau twf a datblygiad economaidd lleol drwy fframwaith pontio teg sydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol?
Bydd y weminar hon, sy'n adeiladu ar waith amgylchedd a sero net Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ymchwil a gyhoeddwyd a gwybodaeth arbenigol, yn edrych ar sut gall Cymru gyflawni twf a datblygiad economaidd lleol drwy fframwaith pontio teg, gan gefnogi cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Gan archwilio'r cyfleoedd sy'n cael eu creu gan y newid i sero net, bydd y weminar 90 munud yn edrych ar sut gall ein hymdrechion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd hefyd gryfhau economïau lleol ledled Cymru. Bydd yn gofyn:
- Sut gall y newid i sero net fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ardaloedd lleol drwy adeiladu ar gryfderau presennol economïau lleol?
- Pa sgiliau sydd eu hangen i gefnogi busnesau a chymunedau i sicrhau bod Cymru'n manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y newid?
Bydd y weminar yn dod ag arbenigwyr at ei gilydd i drafod sut gall Llywodraeth nesaf Cymru alluogi proses bontio teg a chyfiawn, gan gefnogi economïau lleol llewyrchus a sicrhau manteision tymor hir i genedlaethau'r dyfodol.
Siaradwyr wedi’u gadarnhau:
Dr Helen Tilley, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer (Llywodraeth Cymru) Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Ben Burggraaf, Prif Weithredwr, Sero Net Diwydiant Cymru
Henry Richards, Arweinydd Dyfodol Uwch, Academi Brydeinig
Bydd sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa ar ôl y drafodaeth.