Gan adeiladu ar ymchwil gynharach a nododd stigma fel dimensiwn allweddol o dlodi, comisiynodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) y Gynghrair Tlodi ac Uned Ymchwil Anghydraddoldeb Tlodi’r Alban (SPIRU) i gynnal adolygiad cyflym o dystiolaeth. Ystyriodd yr adolygiad y cwestiwn, 'beth sy'n gweithio i atal a mynd i'r afael â stigma tlodi drwy bolisi ac ymarfer cyhoeddus?'.
Nod yr adolygiad hwn yw arwain polisi ac ymarfer cyhoeddus cenedlaethol a lleol yng Nghymru, gan gynnwys camau gweithredu i gyflawni Amcan 4 o Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024, sy'n ymwneud â sicrhau bod 'plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn profi urddas a pharch ym mhob rhyngweithiad â phobl a gwasanaethau, wrth dderbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt'.
Mabwysiadodd y Gynghrair Tlodi a SPIRU ddull systematig, aml-gam i nodi, asesu a chrynhoi tystiolaeth ar draws ystod o feysydd polisi gan gynnwys tai, cymorth bwyd ac addysg.
Nodwyd tri model cyffredinol o ymarfer effeithiol ar gyfer mynd i'r afael â stigma tlodi drwy bolisi a gwasanaethau cyhoeddus:
- Diwylliant a gwerthoedd: Mae dulliau llwyddiannus o fynd i'r afael â stigma tlodi a'i atal wedi'u hategu gan egwyddorion cyffredin urddas, parch a chyfranogiad ystyrlon pobl sy'n byw ar incwm isel wrth ddylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau.
- Arferion gweithredol: Canfuwyd bod darpariaeth gyffredinol ac awtomeiddio budd-daliadau yn lleihau 'baich' prawf o hawl, tra canfuwyd hefyd fod dulliau arian parod yn gyntaf yn dad-stigmateiddio drwy rymuso defnyddwyr gwasanaethau i wneud y dewisiadau gorau iddyn nhw a'u cartrefi.
- Herio stigma yn uniongyrchol: Drwy wneud newidiadau cynnil yn yr iaith (hynny yw, hyrwyddo dehongliadau a disgrifiadau amgen, heb stigma), gall darparwyr gwasanaethau ddechrau herio stigma disgwyliedig a stigma mewnol, gan arwain at fwy o ymgysylltiad a defnydd o wasanaethau a chymorth.
Mae'r adolygiad hefyd yn cynnig sawl argymhelliad ar gyfer datblygu'r sylfaen dystiolaeth ymhellach:
- Mwy o gyllid i gefnogi gwerthusiadau cadarn o ddulliau/ymyriadau sy'n ceisio mynd i'r afael â stigma tlodi, sy'n mynd y tu hwnt i werthuso ar adeg cwblhau'r ymyrraeth.
- Lledaenu’n weithredol yng Nghymru’r hyn a ddysgwyd o enghreifftiau o ymarfer ar lefel leol o fannau eraill yn y DU sy’n dystiolaeth o effaith gadarnhaol mynd i’r afael â stigma tlodi.
- Cynnwys stigma tlodi fel deilliant mesur mewn gwerthusiadau o wasanaethau ac ymyriadau ar gyfer pobl ar incwm isel.
- Nodi a gweithio gydag arbenigwyr stigma tlodi y tu hwnt i gyd-destun y DU i archwilio tystiolaeth ac ymarfer sy'n profi i fod yn llwyddiannus wrth fynd i'r afael â stigma tlodi y tu hwnt i'r DU.
Mae'r adolygiad hwn wedi ffurfio rhan o waith ehangach WCPP ar fynd i'r afael â stigma tlodi, gan gynnwys dylanwadu ar gyd-greu camau gweithredu i atal a mynd i'r afael â stigma tlodi yn Abertawe, ochr yn ochr â phrofiad bywyd a gwybodaeth arbenigol broffesiynol.