Stigma tlodi

Atal a mynd i’r afael â stigma tlodi  

Fe wnaeth ymchwil flaenorol ar y profiad uniongyrchol o dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru a gynhaliwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2022 nodi fod mynd i’r afael â stigma tlodi yn flaenoriaeth allweddol i bobl sy’n profi tlodi. Yn rhannol o ganlyniad i hyn, roedd Strategaeth Tlodi Plant 2024 yn cynnwys mynd i’r afael â stigma tlodi fel un o’i phum amcan. Fe wnaeth hyn ein hysgogi i ystyried sut y gellir cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth o atal a mynd i’r afael â stigma tlodi.  

Deall yr her: Hyd a lled a natur y stigma sy’n gysylltiedig â thlodi 

Yn 2024, fe wnaethom gynhyrchu briff polisi, Mynd i’r afael â stigma ynghylch tlodi, sy’n dangos bod stigma ynghylch tlodi yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael, allgáu cymdeithasol, a defnyddio llai ar fudd-daliadau a gwasanaethau cymorth eraill. Ochr yn ochr â hyn, fe wnaeth Codi'r Caead ar Stigma Tlodi yng Nghymru, yn seiliedig ar arolwg YouGov a gomisiynwyd gennym yn 2024, ddatgelu graddfa’r broblem yng Nghymru, gydag 1 o bob 3 oedolyn incwm isel yn profi stigma tlodi ‘bob amser’, ‘yn aml’ neu ‘weithiau’ yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.   

Deall ‘beth sy’n gweithio’: Atebion polisi ac ymarfer 

Er mwyn cryfhau a llywio ymdrechion i atal a mynd i’r afael â stigma tlodi ar lefel leol a chenedlaethol, fe wnaethom gomisiynu adolygiad cyflym o’r dystiolaeth yn edrych ar sut mae atal a mynd i'r afael â stigma tlodi yn effeithiol mewn polisïau ac arferion yn y DU ac yn rhyngwladol. Roedd yr adolygiad, a gynhaliwyd gan y Gynghrair Tlodi ac Uned Ymchwil Anghydraddoldeb Tlodi'r Alban (SPIRU), yn defnyddio dull systematig, aml-gam i nodi, asesu a chyfosod tystiolaeth ar draws amrywiaeth o feysydd polisi gan gynnwys tai, cymorth bwyd ac addysg.  

Rhoi tystiolaeth ar waith: Cyd-gynhyrchu camau gweithredu ar gyfer Abertawe 

Roeddem hefyd wedi ceisio sefydlu sut gellid defnyddio a chyd-destunoli’r dystiolaeth hon ar ‘beth sy’n gweithio’ i atal a mynd i’r afael â stigma tlodi drwy bolisi ac ymarfer mewn ardal benodol. O’r herwydd, fe wnaethom weithio mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe a grŵp o Ymchwilwyr Cymunedol yn Abertawe i wneud y canlynol:  

  • Deall a dysgu o brofiadau go iawn o stigma tlodi yn Abertawe 
  • Deall rôl gwasanaethau cyhoeddus lleol 
  • Dysgu o ymchwil ac arferion addawol mewn mannau eraill 

Rydym wedi cyhoeddi dau ganlyniad allweddol o'r broses yn Abertawe. Mae’r cyntaf, Deall a mynd i’r afael â stigma tlodi yn Abertawe, yn adroddiad dan arweiniad y gymuned a ddatblygwyd gan ymchwilwyr cymunedol yn Abertawe. Mae’n dwyn ynghyd ganfyddiadau ymchwil ansoddol gyda thrigolion lleol a gweithwyr proffesiynol o wasanaethau cyhoeddus yn Abertawe i ddeall ble, sut a pham mae stigma tlodi yn amlygu ei hun i bobl yn Abertawe. 

Mae’r adroddiad polisi ac ymarfer a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r adroddiad cymunedol, Lleisiau Abertawe: Herio stigma tlodi gyda’n gilydd, yn crynhoi mewnwelediadau allweddol i ddeall, atal a mynd i’r afael â stigma tlodi yn Abertawe. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar broses gyd-greadigol a ddaeth â thystiolaeth academaiddarbenigedd profiad bywyd, ac arbenigedd proffesiynol ac ymarferwyr at ei gilydd i archwilio polisïau ac arferion ar gyfer creu Abertawe heb stigma. Gyda’n gilydd, fe wnaethom ddatblygu wyth cam gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer newid yn Abertawe ar draws tri maes allweddol: cael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â chael gafael ar gymorth, darparu gwasanaethau gydag urddas a pharch, a newid diwylliant a systemau iaith.  

Bydd y camau gweithredu sy’n cael eu creu ar y cyd yn sail i Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe a’r cynllun gweithredu sy’n gysylltiedig â’r strategaeth. Mae’r holl gamau gweithredu a nodwyd yn berthnasol i wahanol raddau i awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a gweddill y DU sydd â diddordeb mewn atal a mynd i’r afael â stigma tlodi.  

Fel rhan o’n hymchwil yn Abertawe, comisiynwyd cyfres o ffotograffau o bobl a lleoedd o amgylch Abertawe a gynhyrchwyd yn unol ag egwyddorion di-stigma.  

Rhannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu a’r hyn rydym wedi’i ddysgu gan eraill: Rhwydwaith Mewnwelediad Stigma Tlodi 

Er mwyn rhannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu’n ehangach, ac er mwyn dysgu gan eraill, yn 2024 fe wnaethom sefydlu’r Rhwydwaith Mewnwelediad Stigma Tlodi, rhwydwaith o unigolion a sefydliadau ledled y DU sydd â’r nod cyffredin o geisio deall, atal a mynd i’r afael â stigma tlodi yn well. Mae'r aelodau'n cynnwys arbenigwyr profiad bywyd, llunwyr polisïau, ymarferwyr, ymchwilwyr ac academyddion. Drwy'r Rhwydwaith rydym yn ceisio dylanwadu ar benderfyniadau ac arferion lleol a chenedlaethol i fynd i'r afael â stigma tlodi drwy ddefnyddio tystiolaeth a mewnwelediad i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o stigma tlodi, herio mythau am dlodi, a newid y naratif; ac i newid agweddau ac arferion gwasanaethau cyhoeddus, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill. Rydym yn gwneud hyn drwy rannu syniadau, arferion da ac enghreifftiau o ‘beth sy’n gweithio’ ac, yn bwysig iawn, drwy ganolbwyntio ar leisiau pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o stigma tlodi, a defnyddio eu harbenigedd i ddod o hyd i atebion.  

Os hoffech chi ymuno â’r Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi, neu os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch ag info@wcpp.org.uk. 

Cysylltu â ni 

I glywed mwy am ein gwaith presennol yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â stigma tlodi, neu os ydych chi’n lluniwr polisi neu’n ymarferydd a bod gennych ddarn penodol o waith mewn golwg a fyddai’n ddefnyddiol, cysylltwch â charlotte.morgan@wcpp.org.uk 

Adroddiadau'r prosiect

To top