Mae arweinwyr cynghorau a phrif weithredwyr wedi cytuno ar weledigaeth newydd ar gyfer dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru, gan nodi sut y gall cynghorau weithio’n wahanol i sicrhau canlyniadau gwell fyth i gymunedau.
Gan ddechrau o’r casgliad a dderbynnir yn eang, sef bod llywodraeth leol yn anghynaliadwy ar hyn o bryd oherwydd costau cynyddol, cyfyngiadau cyllidebol, a galw cynyddol am wasanaethau statudol, mae Llywodraeth leol sy’n addas ar gyfer y dyfodol, sef adroddiad gan y gweithgor annibynnol ar lywodraeth leol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, yn pwysleisio’r angen i gynghorau Cymru yn y dyfodol fod yn “gydweithredol, ataliol, canolbwyntio ar ganlyniadau, yn agored i arloesi, wedi’u galluogi’n ddigidol, ac wedi’u grymuso’n ariannol” er mwyn ffynnu.
Byddai cynghorau’n adeiladu ar eu rôl fel darparwyr gwasanaethau hanfodol i ddod yn arweinwyr democrataidd cryfach fyth yn eu hardaloedd, gan ddod â chymunedau a gwasanaethau cyhoeddus ynghyd o amgylch blaenoriaethau cyffredin.
Caiff y weledigaeth ei chyflwyno yn Llywodraeth leol sy’n addas ar gyfer y dyfodol, adroddiad terfynol grŵp gwaith annibynnol a gynullwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Daeth y grŵp ag arweinwyr cynghorau, prif weithredwyr ac arbenigwyr llywodraeth leol ynghyd i ddatblygu atebion ymarferol ar gyfer dyfodol y sector.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno model gweithredu cynaliadwy i helpu cynghorau i ymateb i alw cynyddol, pwysau ariannol a phwysau ar y gweithlu, technoleg newydd a heriau sy’n fwyfwy cymhleth.
Mae’n galw am gydweithio agosach ar draws gwasanaethau cyhoeddus, ffocws cryfach ar atal ac ar ganlyniadau, a llais cryfach i breswylwyr yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae hefyd yn annog cynghorau i ailystyried sut y caiff gwasanaethau eu darparu ac i ddatblygu diwylliannau a ffyrdd newydd o weithio.
Dywed yr adroddiad y bydd angen i’r newidiadau hyn gael eu cefnogi gan ddiwygiadau i drefniadau cyllido, perfformiad ac atebolrwydd llywodraeth leol. Mae hefyd yn galw am newid yn y ffordd y mae cynghorau’n gweithio â Llywodraeth Cymru, â phreswylwyr, â’i gilydd ac â’r sector cyhoeddus ehangach.
Byddai’r weledigaeth yn galluogi cynghorau i ddatblygu a phrofi dulliau sy’n addas i’w cymunedau, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae’r weledigaeth hon yn gofyn inni edrych y tu hwnt i wasanaethau unigol a chanolbwyntio ar yr hyn y mae pobl ei eisiau mewn gwirionedd ar gyfer eu cymunedau: bywydau iachach, cyfleoedd da a lleoedd lle gall pawb ffynnu. Mae cyflawni hynny’n golygu cynnwys preswylwyr yn y dewisiadau sy’n effeithio arnynt a gweithio’n llawer agosach ar draws ffiniau sefydliadol.
“Rydym yn gwybod nad oes un ateb a fydd yn gweithio ym mhobman. Yr hyn sy’n bwysig yw rhoi’r rhyddid, y capasiti a’r hyder hirdymor i gynghorau ddysgu, addasu ac adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n lleol. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cyfeiriad cyffredin inni a chyfle i lunio pennod nesaf llywodraeth leol Cymru gyda’n gilydd.
“Yn y pen draw, mae llywodraeth leol yn ymwneud â phobl, y lleoedd y maent yn byw ynddynt, y cyfleoedd sydd ar gael iddynt a’r cymorth y gallant droi ato pan fydd ei angen arnynt.”
Dywedodd yr Athro Dan Bristow, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r grŵp gwaith annibynnol wedi galluogi’r sector llywodraeth leol i ddatblygu a chytuno ar weledigaeth unedig ar gyfer ei ddyfodol ac ar lwybr clir tuag at wireddu’r weledigaeth honno.
“Fodd bynnag, bydd cyflawni’r nodau hynny a sicrhau bod cynaliadwyedd yn dod yn realiti yn gofyn am ddiwygio strwythurol a newid diwylliannol. Mae angen i newid a arweinir gan y sector gael ei ategu gan arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru. Bydd diwygiadau i fframweithiau cyllido, perfformiad ac atebolrwydd llywodraeth leol yn elfennau hanfodol er mwyn i’r cynllun hwn lwyddo.”
Dywedodd Rob Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Bro Morgannwg a Chadeirydd Solace Cymru, y corff proffesiynol sy’n cynrychioli prif weithredwyr llywodraeth leol yng Nghymru:
“Nid yw’r un prif weithredwr awdurdod lleol yng Nghymru dan unrhyw gamargraff bod y ffordd y mae llywodraeth leol yn gweithredu ar hyn o bryd yn gynaliadwy. Rydym hefyd yn deall nad oes ateb ar unwaith i leihau’r galw am ein gwasanaethau nac i wella ein sefyllfa ariannol yn sylweddol.
“Yn erbyn y cefndir hwn, mae angen inni weithio’n wahanol i helpu ein cymunedau i ffynnu, ac mae’r gwaith a wnaed gan y grŵp gwaith hwn yn enghraifft wych o gam i’r cyfeiriad cywir. Mae’r hyn sydd wedi’i ddatblygu a’i fynegi yn weledigaeth glir a strategol ar gyfer model gweithredu ymarferol a all roi’r sector ar sylfaen gadarnach ar gyfer y dyfodol.
“Bydd yn gofyn am newid pwyslais a ffyrdd newydd o weithio ar sawl lefel, ac rydym yn ymwybodol iawn mai yma y mae’r gwaith caled yn dechrau. Ond mae gan lywodraeth leol yng Nghymru hanes rhagorol o weithio’n wahanol a thrawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae angen mwy o hyn arnom, ac mae angen inni gydweithio fwyfwy â’n gilydd, â phreswylwyr, â phartneriaid cymunedol ac â Llywodraeth Cymru. Mae angen inni hefyd barhau i ddatblygu ein gweithlu ein hunain a’n galluoedd arwain er mwyn sicrhau bod ein dull yn ataliol ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Yn anad dim, mae angen inni fod yn ‘addas ar gyfer y dyfodol’ er mwyn inni allu cyflawni orau dros ein cymunedau.
“Mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi dangos gwytnwch rhyfeddol dros y degawd diwethaf ac mae’n parhau i gyflawni er budd pob cymuned. Mae’n hanfodol ein bod yn manteisio ar y cyfle hwn i sicrhau bod y sector yn parhau i fod yn rym er daioni wrth inni symud ymlaen i’r degawd nesaf.”