Troi'r llanw ar dlodi plant

Sut gall Llywodraeth nesaf Cymru droi’r llanw dlodi plant yng Nghymru?

Gallwch nawr gofrestru ar gyfer yr ail weminar yn y ein cyfres cyn yr etholiad Y Ffordd Ymlaen i Gymru, sy'n cael ei chynnal gan y Sefydliad Materion Cymreig. Bydd Troi’r llanw ar dlodi plant yn adeiladu ar waith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, ymchwil sydd wedi’i gyhoeddi a dealltwriaeth arbenigwyr, er mwyn trin a thrafod y ffordd orau i Lywodraeth nesaf Cymru atal a lleihau tlodi plant, a chefnogi teuluoedd sydd mewn caledi ariannol.

Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae tua 30% o blant wedi bod yn tyfu i fyny mewn tlodi yng Nghymru. Er bod penderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i ddileu'r terfyn dau blentyn ar fudd-daliadau yn debygol o leihau tlodi plant tua 3 i 4 pwynt canran, bydd nifer enfawr o deuluoedd ledled Cymru yn dal i'w chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn dal i wynebu her lefelau annerbyniol o uchel o dlodi plant, ac effeithiau canlyniadol hyn ar lesiant cenedlaethau heddiw a'r dyfodol.

Bydd ein panel o arbenigwyr yn trin ac yn trafod:

  • Beth yw hyd a lled a natur tlodi plant yng Nghymru heddiw, a sut mae'r darlun hwn yn debygol o ddatblygu dros dymor nesaf y Senedd?
  • Beth all Llywodraeth nesaf Cymru ei wneud i leihau hyd a lled a dyfnder tlodi plant?
  • Sut gallwn ni gryfhau cynhwysiant a chefnogaeth leol a chymunedol i deuluoedd mewn tlodi?

Siaradwyr:

  • Helen Barnard, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil ac Effaith, Ymddiriedolaeth Trussell
  • Karen Berrell, Arbenigwr profiad bywyd a chydgynhyrchu, Poverty Insight Lab
  • Mike Brewer, Dirprwy Brif Weithredwr a Phrif Economegydd, Sefydliad Resolution
  • Steffan Evans, Prif Swyddog Gweithredol, Sefydliad Bevan
  • Amanda Hill-Dixon, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer (Gwasanaethau Cyhoeddus), CPCC


Bydd sesiwn holi ac ateb fyw gyda'r gynulleidfa ar ôl y drafodaeth.

Byddwch yn rhan o'r drafodaeth, cofrestrwch nawr.

Mae'r gweminarau i unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y bydd tirwedd polisi Cymru yn datblygu ar ôl etholiad nesaf y Senedd. Bydd pob gweminar yn canolbwyntio ar her polisi benodol yn un o feysydd blaenoriaeth presennol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau, yr Amgylchedd a Sero Net, Llesiant Cymunedol) gyda siaradwyr arbenigol yn trin ac yn trafod tystiolaeth a gwybodaeth allweddol, a bydd cyfleoedd i’r gynulleidfa gymryd rhan. 

Y ffordd ymlaen: tystiolaeth a gwybodaeth i Lywodraeth nesaf Cymru

Cyfres gweminarau Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a gynhelir gan y Sefydliad Materion Cymreig:

  • Adeiladu economïau lleol llewyrchus drwy fframwaith pontio teg  | Dydd Mawrth 3ydd Chwefror
  • Troi'r llanw ar dlodi plant | Dydd Iau 26ain Chwefror 11am - 12.15
  • Dyfodol cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yng Nhymru | dyddiad i’w gadarnhau
  • Cryfhau cydlyniant cymunedol  | dyddiad i'w gadarnhau

To top