Yng Nghymru, fel ledled y DU, rydym wedi gweld cynnydd hynod bryderus yn nifer y bobl sy'n wynebu caledi difrifol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer cynyddol o bobl yn wynebu newyn gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio'r hanfodion sydd eu hangen ar bawb. Mae'r caledi hwn sy’n dwysáu wedi bod yn arbennig o amlwg ymhlith teuluoedd â phlant. Yn frawychus, mae tua chwarter o deuluoedd â phlant yng Nghymru yn wynebu newyn – mae hynny dair gwaith yn uwch na’r gyfradd ymhlith teuluoedd sydd heb blant (24% o’i chymharu ag 8%).
Mae banciau bwyd ledled Cymru wedi bod o dan bwysau aruthrol wrth geisio cefnogi teuluoedd drwy gynnig bwyd mewn argyfwng a chymorth ymarferol i fynd i'r afael â'r ffactorau sy'n achosi eu sefyllfa. Y llynedd, rhoddodd banciau bwyd yng nghymuned Trussell yng Nghymru 154,000 o barseli bwyd mewn argyfwng.
Mae pobl yn cael eu gorfodi i droi at fanciau bwyd gan nad oes ganddyn nhw ddigon o arian ar gyfer yr hanfodion. Mae rhai ohonyn nhw rhwng swyddi, yn dioddef cyflyrau iechyd, neu'n gofalu am berthnasau a phlant. Mae rhai mewn swyddi ansicr, anhygyrch, neu nad ydyn nhw’n talu digon i fyw arno. Ac mae diffyg tai fforddiadwy, trafnidiaeth a gofal plant yn atal pobl rhag cael cyfleoedd i gynyddu eu hincwm.
Fodd bynnag, un duedd sy’n peri pryder i ni yw’r ffordd y mae darparu bwyd elusennol yn cael ei normaleiddio’n gynyddol mewn cymunedau ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys banciau bwyd a darparu bwyd elusennol mewn ffyrdd eraill fel mewn pantrïoedd bwyd, archfarchnadoedd cymdeithasol, clybiau bwyd fforddiadwy ac oergelloedd cymunedol. Gall pob un o’r rhain gynnig cefnogaeth amhrisiadwy yn y tymor byr, ond nid nhw yw'r ateb. Mae'r dystiolaeth yn glir nad cynnig bwyd am ddim neu am bris gostyngol yw'r cymorth gorau i’w gynnig mewn argyfwng, ac yn aml, nid ydyn nhw’n ymgorffori dulliau ataliol sy'n meithrin gwydnwch ariannol yn ein cymunedau.
Mae'n hanfodol bod Llywodraeth nesaf Cymru yn gwneud ymrwymiad penodol i roi terfyn ar yr angen am fanciau bwyd yng Nghymru, yn ogystal â chyflwyno cynllun gweithredu, nid yn unig i ddiwallu anghenion uniongyrchol ar hyn o bryd, ond i fynd i'r afael â'r ffactorau sylfaenol sy'n achosi newyn a chaledi.
Dylai'r cynllun hwnnw gynnwys y 10 cam hyn:
1. Defnyddio 'Cyllid tlodi bwyd' yn y modd mwyaf effeithiol. Gwneud yn siŵr bod y cyllid sy’n mynd i awdurdodau lleol a phartneriaethau bwyd i geisio lleihau 'tlodi
bwyd' yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r ffactorau lleol sy'n sbarduno'r angen am fwyd mewn argyfwng.
2. Cymorth arian parod mewn argyfwng. Gwneud yn siŵr bod y cymorth a roddir drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol yn ddigonol i bobl allu talu am yr hanfodion a’i fod, o leiaf, yn cynyddu yn unol â chwyddiant. Ar ben hynny, dylid cynnig cyngor a chymorth wedi'i ariannu i bawb sy'n gwneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol.
3. Edrych ar opsiynau i roi cynllun 'Taliad Plant Cymru' ar waith, gan ddysgu o'r hyn sy’n digwydd yn yr Alban, a chael bwriad clir i gyflwyno'r cynllun ledled Cymru.
4. Ehangu Prydau Ysgol am Ddim fel eu bod ar gael ar gyfer plant o deuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, yn ogystal â phob plentyn sydd Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus o aelwydydd sydd ar lefelau incwm sy'n gymharol â Chredyd Cynhwysol, neu islaw hynny.
5. Cynyddu cymorth gofal plant i deuluoedd ar incwm isel sydd â phlant ifanc, a dod â 'loteri côd post' cymorth gofal plant i ben.
6. Gwella ansawdd a diogelwch llety dros dro, a’r nifer sydd ar gael, yn ogystal â gwella canllawiau a deddfwriaeth i wneud yn siŵr bod pobl yn ddiogel a bod ganddyn nhw gyfleusterau coginio, lleoedd i storio bwyd, cyfleusterau golchi dillad a Wi-Fi.
7. Lleihau nifer y bobl mewn llety dros dro, a'r rhai sy'n cael trafferth fforddio talu rhent yn y sector preifat, drwy gael cynllun clir i gynyddu’n sylweddol nifer y cartrefi cymdeithasol yng Nghymru.
8. Rhoi cymorth a chynyddu’r cyllid sydd ar gael i wneud yn siŵr bod gwasanaethau cynghori yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf tebygol o wynebu newyn a chaledi. Rydym wedi gweld mewn banciau bwyd sut y gall rhoi cyngor o ansawdd uchel ar ddyled, budd-daliadau, tai a materion eraill fod yn drawsnewidiol. Fodd bynnag, mae gormod o bobl yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar gyngor pan mae gwir angen hynny arnyn nhw.
9. Ymgorffori Siarter Budd-daliadau Cymru ledled Cymru, gan wneud yn siŵr bod pob awdurdod lleol yn blaenoriaethu camau i symleiddio’r broses o gael budd-daliadau yng Nghymru.
10. Galw ar lywodraeth y DU i ddadrewi’r Lwfans Tai Lleol a chymryd camau pellach tuag at sefydlu Gwarant Hanfodion fel bod Credyd Cynhwysol yn talu cost hanfodion fel isafswm.
Roedd Helen Barnard un o’n siaradwyr gwahodd ar ein weminar Troi’r llanw ar dlodi plant, rhan o’n cyfres Y ffordd ymlaen: tystiolaeth a gwybodaeth i Lywodraeth nesaf Cymru a gynhelir gan y Sefydliad Materion Cymreig.