Efallai fod rhyfeloedd yn ymddangos yn bell i ffwrdd, ond mae’r gwrthdaro yn Ne-orllewin Asia a Gogledd Affrica (SWANA)[1], yn enwedig ymosodiad yr Unol Daleithiau ac Israel ar Iran, yn dangos pa mor gyflym mae argyfyngau byd-eang yn cyrraedd Cymru. Mae’r tarfu ar lwybrau cludo, y marchnadoedd ynni cyfnewidiol, a'r straen sy’n wynebu’r cadwyni cyflenwi eisoes yn arwain at filiau uwch i gartrefi, cynnydd mewn prisiau bwyd a chostau busnes, a mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus.
Ond mae hyn yn ymwneud â mwy na chwyddiant.
Argyfwng sy’n taro’r tlotaf galetaf
Mae Cymru wedi ymuno â'r cyfnod hwn o ansicrwydd sydd eisoes yn wynebu lefelau uchel o dlodi ac anghydraddoldeb. Mae tua un o bob pump o bobl (22%) yn byw mewn tlodi, ac mae bron i hanner o'r bobl hyn yn profi tlodi difrifol ac yn ei chael hi’n anodd fforddio hanfodion bywyd, fel bwyd a gwres.
I aelwydydd incwm isel, nid anhwylustod yw'r cynnydd ym mhrisiau bwyd ac ynni, ond argyfwng. Gan fod yr aelwydydd hyn yn defnyddio mwy o’u hincwm i dalu am hanfodion, nid oes ganddynt lawer o allu i ddelio â rhagor o ergydion. Mae hyn yn arwain at fwy o dlodi, mwy o ddibyniaeth ar fanciau bwyd a chymorth mewn argyfwng, a mwy o alw ar wasanaethau cyhoeddus sydd eisoes dan bwysau.
Mae’r canlyniadau’n arbennig o ddifrifol i blant. Mae gan Gymru un o’r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y DU, gyda 31% o blant yn byw mewn tlodi a bron i hanner y plant dan bump oed mewn perygl. Mae costau byw cynyddol yn bygwth tanseilio ymdrechion i leihau tlodi plant, gan gynyddu'r gost o ddarparu gofal plant a chymorth i deuluoedd.
Os bydd y gwrthdaro’n parhau, gallai ergyd chwyddiant heddiw fod yn argyfwng anghydraddoldeb yfory. Mae costau cynyddol yn effeithio fwyaf ar y rhai sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd, tra bo aelwydydd cyfoethocach yn gallu ymdopi’n well â’r effaith. Mae modd rhagweld y canlyniad: tlodi’n dwysáu, anghydraddoldeb yn ehangu, pwysau ar wasanaethau cyhoeddus yn cynyddu, ac ansicrwydd economaidd yn creu tir ffrwythlon ar gyfer naratifau rhwygol sy’n beio mudwyr, ffoaduriaid a grwpiau eraill sy’n agored i niwed. Yn y pendraw, gall yr hyn sy’n dechrau fel rhyfel filoedd o filltiroedd i ffwrdd wanhau cydlyniant cymdeithasol yma yng Nghymru.
Argyfyngau byd-eang yn amlygu model aflwyddiannus
Mae’r rhyfel yn Iran yn datgelu rhywbeth mwy nag argyfwng costau byw. Mae’n dangos pa mor fregus yw’r model economaidd y mae Cymru, fel llawer o’r DU, yn parhau i ddibynnu arno.
Ers degawdau, mae polisïau economaidd wedi dibynnu ar ynni rhad, cadwyni cyflenwi byd-eang a hyd yn oed mwy o effeithlonrwydd. O COVID-19 i'r argyfwng ynni yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, a nawr y rhyfel yn Iran, mae pob ergyd wedi datgelu’r un bregusrwydd: Mae Cymru yn parhau i fod yn ddibynnol iawn ar rymoedd y tu hwnt i’w rheolaeth.
Nid rheoli’r argyfwng diweddaraf ac adfer y sefyllfa bresennol yw'r her go iawn, ond adeiladu economi sy’n gallu gwrthsefyll ergydion yn y dyfodol a gwella bywydau pobl ar yr un pryd.
Mae ffocws cul ar dwf Cynnyrch Domestig Gros yn blaenoriaethu allbwn economaidd ac ehangu'r farchnad mewn rhai sectorau yn hytrach na gwydnwch, gan adael cymunedau'n fwy agored i niwed mewn cyfnodau o argyfwng. Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yn lle hynny yw economi llesiant gwyrdd a gofalgar sy’n gwerthfawrogi gwydnwch, ffyniant a gofal am bobl a'r blaned.
Meithrin gwydnwch drwy drawsnewid cyfiawn
Os yw’r rhyfel yn Iran yn dysgu unrhyw beth inni, nid braint amgylcheddol yw gwydnwch; ond anghenraid economaidd.
Yn gyntaf, dylai Cymru gyflymu’r broses pontio teg tuag at ynni adnewyddadwy. Mae buddsoddi mewn dulliau cynhyrchu adnewyddadwy, ynni cymunedol ac effeithlonrwydd cartrefi yn cryfhau diogelwch ynni ac yn lleihau’r cysylltiad â marchnadoedd rhyngwladol cyfnewidiol. Dylai Cymru hefyd fuddsoddi yn y sgiliau, y capasiti gweithgynhyrchu a’r cadwyni cyflenwi sydd eu hangen i sicrhau bod y swyddi a’r cyfoeth a gynhyrchir gan y newid yn aros yng nghymunedau Cymru.
Yn ail, mae angen systemau bwyd cryfach a mwy lleol ar Gymru. Gall cefnogi dulliau cynhyrchu bwyd lleol, ffermio cynaliadwy a chaffael rhanbarthol wella diogelwch bwyd, lleihau'r gwendidau yn y gadwyn gyflenwi a chryfhau economïau gwledig.
Yn drydydd, dylai llunwyr polisïau roi mwy o bwyslais ar yr economi sylfaenol: gofal, tai, bwyd, ynni a thrafnidiaeth leol. Mae’r sectorau hyn yn cynnal bywyd bob dydd ac yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o bennu pa mor dda mae cymunedau’n gwrthsefyll ergydion economaidd.
Bydd cyflawni’r agenda hon yn gofyn am sgwrs fwy difrifol gyda Llywodraeth y DU am y pwerau a’r adnoddau sydd eu hangen ar Gymru i fuddsoddi yn y tymor hir. Byddai mwy o hyblygrwydd cyllidol yn galluogi buddsoddiad strategol mewn ynni, tai, sgiliau a datblygu economaidd lleol.
Ar ben hynny, dylai Cymru barhau i hyrwyddo heddwch, diplomyddiaeth a chyfiawnder rhyngwladol, gan annog Llywodraeth y DU i wneud yr un fath. Mewn byd lle mae gwrthdaro’n sbarduno prisiau, ansicrwydd ac anghydraddoldeb cynyddol ymhell y tu hwnt i ranbarthau rhyfel, mae heddwch yn rheidrwydd moesol ac yn sylfaen ar gyfer ffyniant cynaliadwy a chynhwysol.
Ysgytwad i Gymru
Mae’r rhyfel yn Iran yn ein hatgoffa bod costau gwrthdaro’n mynd ymhell y tu hwnt i ranbarthau rhyfel. Maent yn arwain at brisiau cynyddol, yn dwysáu tlodi, yn ehangu anghydraddoldeb, yn rhoi straen ar wasanaethau cyhoeddus ac yn achosi tensiynau cynyddol mewn cymunedau. Gall yr hyn sy’n dechrau fel gwrthdaro geowleidyddol dramor ddatblygu’n gyflym i fod yn argyfwng cymdeithasol ac economaidd yma yng Nghymru.
Gall Cymru barhau i oddef un ergyd fyd-eang ar ôl y llall, neu ddefnyddio’r foment hon i greu dyfodol mwy gwydn drwy bontio teg, cadwyni cyflenwi lleol cryfach, ac economi llesiant gwyrdd a gofalgar.
Nid rhwng twf a gwydnwch mae’r dewis go iawn, ond rhwng economi sy’n gadael pobl yn agored i niwed ac economi sy’n eu helpu i ffynnu.
[1] Mae Oxfam yn defnyddio “SWANA” (De-orllewin Asia a Gogledd Affrica) yn hytrach na “MENA” er mwyn adlewyrchu ei ymrwymiad i leoleiddio a dad-drefedigaethu, gan gydnabod tarddiad trefedigaethol y term “Dwyrain Canol”.