Effaith rhyfel Iran ar Gymru

Mae Rhyfel Iran wedi bod yn achosi sgil-effeithiau – yn economaidd, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol – ar draws y byd, gan gynnwys ar Gymru a’r DU. Mae’r pwysau hyn wedi dwysáu yn dilyn cyhoeddiad Ofgem am gynnydd o 13% yn y cap ar brisiau ynni o fis Gorffennaf 2026 ymlaen, gan godi biliau blynyddol cyfartalog aelwydydd dros £200.

Disgwylir i effeithiau economaidd ehangach gyfrannu at golli swyddi ledled y DU, a disgwylir y bydd effaith anghymesur ar dde Cymru oherwydd crynodiad y diwydiannau ynni-ddwys (Nation Cymru, 2026).

Disgwylir i gostau cynyddol tanwydd a thrafnidiaeth arwain at ragor o gynnydd mewn prisiau bwyd, a rhagwelir y bydd chwyddiant yn cyrraedd 9-10% erbyn diwedd 2026 (Y Ffederasiwn Bwyd a Diod, 2026). Gyda’i gilydd, mae cynnydd yng nghost ynni, tanwydd a bwyd yn debygol o ddwysáu pwysau costau byw a chyfrannu at safonau byw yn gostwng (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2026; Sefydliad Resolution, 2026).

Yn y cyd-destun hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) gynnull cyfarfod bwrdd crwn ar effeithiau Rhyfel Iran sy’n dod i’r amlwg ac a ragwelir ar economi a chymdeithas Cymru, yr heriau y mae’r rhain yn eu hachosi i lunwyr polisïau Cymru, ac ymatebion polisi posibl.

Bydd y cyfarfod bwrdd crwn yn dod â swyddogion Llywodraeth Cymru, llunwyr polisïau ac arbenigwyr annibynnol at ei gilydd i hwyluso trafodaeth ar draws amrywiaeth o effeithiau, gan gynnwys:

  • Effeithiau macroeconomaidd y gwrthdaro;
  • Effeithiau costau byw ar aelwydydd ac unigolion;
  • Yr effaith ar ddiogelwch ynni a’r newid i sero net;
  • Effaith gymdeithasol ehangach; ac
  • Yr effaith ar gydlyniant cymdeithasol.


Bydd canfyddiadau’r gwaith hwn yn helpu i drosi dadansoddiad a mewnwelediad ar lefel y DU i gyd-destun polisi Cymru ac i fynd i’r afael â’r bwlch mewn gwaith cyhoeddedig sy’n archwilio effeithiau’r gwrthdaro ar Gymru, yn ogystal ag i lywio briffiau gweinidogol, prosesau asesu ysgogiadau polisi datganoledig, prosesau cynllunio cydnerthedd a gwaith monitro Llywodraeth Cymru.

Byddwn yn cyhoeddi cyfres o allbynnau’r cyfarfod bwrdd crwn, gan gynnwys cyfres o blogiau dros yr haf a chrynodeb o bwyntiau trafod allweddol yn hydref 2026. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y prosiect hwn, cysylltwch â Jack Price.

To top