Lleisiau’r rhai sydd â phrofiadau

‘Cynnwys y bobl y mae eich penderfyniadau polisi yn effeithio arnyn nhw yn y broses o’u dylunio a’u cyflwyno.’ Mae’r ymchwilwyr cymunedol a gyd-gynhyrchodd ein prosiect, Lleisiau Abertawe: Herio Stigma Tlodi Gyda’n Gilydd wedi cyflwyno ple uniongyrchol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Mae’r prosiect hwn yn ceisio dod o hyd i atebion lleol i fynd i’r afael â stigma tlodi a bydd hefyd yn llywio strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe. Fel rhan o’r prosiect, buom yn cydweithio â grŵp o ymchwilwyr cymunedol yn Abertawe a fu’n arwain gweithdai gyda gweithwyr proffesiynol a chyfweliadau ag unigolion sydd â phrofiad bywyd o dlodi, a chawsant eu taro gan effeithiau hirhoedlog stigma tlodi hyd yn oed o gyfnod plentyndod.

Ymhlith y canfyddiadau allweddol, canfu’r gwaith ymchwil cymunedol y canlynol:

  • Mae profiadau cynnar o stigma tlodi yn gallu llywio sut mae unigolion yn gweld eu hunain drwy gydol eu bywydau, er gwaethaf ymdrechion rhieni i warchod eu plant rhag sefyllfa eu teulu.
  • Mae cyfryngau traddodiadol a chymdeithasol yn gallu atgyfnerthu stigma tlodi, drwy roi pwysau ar deuluoedd i ddangos ffordd o fyw nad ydyn nhw’n gallu ei fforddio, yn enwedig o amgylch achlysuron arbennig fel y Nadolig.


Cewch glywed yn uniongyrchol gan ein hymchwilwyr cymunedol, a’u gobeithion ar gyfer yr ymchwil:

Karen Berrell

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd bod pobl eisiau rhannu eu bywydau â ni. Mae’n ddata gwerthfawr iawn, iawn. Mae pobl wedi eistedd i lawr a siarad am bethau personol ac emosiynol iawn ac yn hapus i hynny gael ei symud ymlaen. I mi, mae’n bersonol iawn, mae wedi’i wreiddio yng nghymunedau ac adeiladwaith Abertawe.

“O’r sgyrsiau roedd pobl yn eu cael, gallwch glywed y cyd-destun. Gallwch glywed pobl yn siarad am eu profiad o’r adeg pan oedden nhw’n blentyn a’r daith maen nhw wedi bod arni. Y gwahanol helbulon maen nhw wedi’u hwynebu, a gallwch weld sut dechreuodd hyn yn ystod eu plentyndod.”

Melvyn Williams

“Mae gan bobl sy’n byw mewn tlodi yr un agwedd yn union tuag at bobl sy’n byw mewn tlodi â phawb arall yn y gymdeithas ehangach.

“Roedd un dyn yn siarad am bopeth roedd wedi’i wneud fel dewis. Roedd wedi bod yn y lluoedd arfog ac wedi hynny bu’n ddigartref – yn ddigartref ar y stryd – ac roedd yn disgrifio hynny fel dewis ar y pryd. Mae’r lefel honno o wadu, a chymryd cyfrifoldeb personol am yr amgylchiadau hynny, pan nad ef oedd ar fai, yn eithaf brawychus.

“Roedd pobl yn gweithio mewn banciau bwyd, yn siarad am bobl eraill yn dod i fanciau bwyd mewn ffordd feirniadol – ‘dydyn nhw ddim digon tlawd i ddod yma’. Does neb yn mynd i fanc bwyd os nad oes angen – mae ’na stigma ynghlwm wrth hyn. Roedd hynny’n eithaf digalon – lefel y stigma mewnol ac yna’r ymateb i’r stigma hwnnw. Dydy pobl sy’n byw mewn tlodi ddim yn rhydd rhag hynny nac yn rhydd rhag atgynhyrchu stigma.

“Mae yna enghreifftiau cadarnhaol hefyd. Roedd yna gymuned dda lle gwnaethom ni’r ymchwil. Gall pobl a chymunedau ddod at ei gilydd, rhannu profiadau a rhannu adnoddau. Pan fo pobl i gyd yn yr un cwch, mae llai o stigma, gall pobl rannu profiadau bywyd ac adnoddau. Pan fo llawer iawn o anghydraddoldeb, rydych chi’n tueddu i gael mwy o stigma.

“Y peth pwysicaf sy’n deillio o’r gwaith hwn i Gyngor Abertawe, a phobl eraill sy’n darparu gwasanaethau, yw credu pobl pan fyddan nhw’n cerdded drwy’r drws, oherwydd mae hynny’n ddigon anodd ynddo’i hun – mynd at wasanaethau i ofyn am help. Mae’n ddewis anodd ac mae’n anodd dod o hyd i’r gwasanaethau hyn os nad oes gennych syniad ble i ddechrau.

“Mae yna daith enfawr cyn i chi gerdded i mewn drwy’r drws, felly mae peidio â chael eu credu yn gwneud hynny i gyd yn annilys ac yn gwneud pethau’n anoddach fyth.”

Dr Tarh Martha Ako Mfortem:

“Mae ein canfyddiadau’n cyfeirio at bolisïau sy’n methu, nid at bobl. Mae’n hanfodol cynnwys pawb yn y gwaith o lunio polisïau sy’n ceisio mynd i’r afael â’u hanghenion. Rydyn ni bellach yn gwybod bod cymorth ac ymyrraeth gynnar yn gallu atal stigma a'i effeithiau hirdymor.

“Mae’n anodd clywed pobl yn y gymuned yn dweud wrthych chi sut yn union maen nhw wedi teimlo, a beth maen nhw wedi’i ddioddef ers eu plentyndod.

“Gwrando ar y bobl yn adrodd eu straeon eu hunain, dyma eu llais, dyma eu profiadau. Dyma lais y bobl. Y bobl sy’n dioddef o stigma tlodi.

“Pam ydyn ni’n gosod rhwystrau rhyngom ni? Pam mae’n rhaid i mi ei chael hi’n anodd troi at rywun sydd i fod i ddarparu gwasanaethau i mi? Rydych chi yno i’r cleient ac rydych chi’n ei gwneud hi’n anodd iawn i mi gael gafael arnoch chi.

“Rwy’n hapus iawn ein bod ni wedi gallu tynnu sylw’r gymuned at hyn; rydyn ni’n dweud wrthych chi mai dyma beth maen nhw’n mynd drwyddo. Nawr yw’r amser i weithredu.”

Michelle Hopkins

“Rwy’n obeithiol, yn obeithiol iawn iawn, y byddan nhw (y cyngor) yn gweithredu ar yr hyn maen nhw wedi’i gael yn ôl.

“Mae’n golygu gwneud yn siŵr bod pobl yn gweld beth sydd ar gael a sut gellir eu helpu.

“Dydy hyn ddim am newid pam mae tlodi’n bodoli, ond gall newid... does dim rhaid i chi ddioddef, bod yn dlawd.

“Mae stigma tuag at i mewn yn rhywbeth arall eto, sut ydych chi’n newid sut mae pobl yn meddwl amdanyn nhw eu hunain? Mae ’na lawer iawn o bobl sydd ddim yn sylweddoli eu bod nhw’n byw mewn tlodi.”

Mae’r adroddiad cymunedol yn cydnabod yr arferion gorau ledled Abertawe o ran dulliau cynhwysol heb stigma. Tynnir sylw at Ganolfan Phoenix yn Townhill am ei dull cynhwysol, dim drws anghywir, ac am gynnwys y gymuned yn y broses o wneud penderfyniadau, fel y penderfyniad i gynnal siop gymunedol yn hytrach na banc bwyd, a oedd yn cael ei ystyried yn un a oedd yn achosi stigma.

Ychwanegodd Michelle Hopkins: “Alla i ddim canmol Canolfan Phoenix ddigon... maen nhw’n gallu eich helpu chi gyda ble i fynd, pwy i’w gweld. Mae ganddyn nhw wahanol bethau i wahanol bobl, mae rhywbeth i bawb, p’un a ydych chi’n dod o’r ardal ai peidio.”

To top