Mewn ymateb i bryderon cynyddol am bolareiddio cymdeithasol a rhaniad mewn cymunedau yng Nghymru a’r DU, lansiodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ymchwiliad i gydlyniant cymdeithasol ar ddiwedd 2024. Clywodd yr ymchwiliad gan grwpiau cymunedol, sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector a Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, am y prif broblemau sy’n effeithio ar gydlyniant cymdeithasol yng Nghymru, enghreifftiau o arferion gorau ac ymyriadau i’w wella, a’r ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gryfhau cymorth i grwpiau a sefydliadau cymunedol. Mae’r ymchwiliad hefyd wedi ystyried effeithiau ymosodiadau haf 2024 ledled y DU ar gydlyniant cymunedol yng Nghymru.
Gan bwysleisio angen brys am gamau polisi gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, gwnaeth adroddiad terfynol y Pwyllgor argymell sefydlu Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant Cymdeithasol wedi’i gadeirio’n annibynnol i ddatblygu camau gweithredu yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir cyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026. Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) gefnogi gwaith y Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant Cymdeithasol gan gynnig cefnogaeth benodol ar y dystiolaeth i helpu’r Grŵp ganfod y camau gweithredu hyn, gan ymateb i’r cwestiynau ymchwil canlynol:
1. Pa ymyriadau polisi ac ymarfer sy’n effeithiol yn hyrwyddo ac yn cryfhau cydlyniant cymdeithasol?
2. Pa gamau gweithredu posibl o ran polisi i Gymru sy’n ymddangos yn y dystiolaeth ar ymyriadau cydlyniant cymdeithasol?
I fynd i’r afael â’r cwestiynau hyn, bydd CPCC yn adolygu’r deunydd academaidd a gyflwynwyd i ymchwiliad cydlyniant cymdeithasol y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ynghyd â thystiolaeth a ddarparwyd drwy alwad am gyflwyniadau gan aelodau o’r Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant Cymdeithasol. Caiff y dystiolaeth hon ei hategu gan adolygiad o gyfuniadau o dystiolaeth bresennol ar ymyriadau i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol. Bydd y canfyddiadau’n cael eu cyflwyno i’r Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant Cymdeithasol er mwyn dylanwadu eu gwaith i ganfod camau gweithredu yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir ar gyfer Llywodraeth Cymru.