Sut gall Llywodraeth nesaf Cymru gefnogi dyfodol cynaliadwy ar gyfer llywodraeth yng Nghymru?
Mae pob un ohonom yn dibynnu ar lywodraeth leol i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac i gefnogi’r lleoedd rydym yn byw, yn chwarae ac yn gweithio ynddynt, ond nid yw’r model llywodraeth leol presennol yng Nghymru yn gynaliadwy. Gyda chyllidebau cyfyngedig a galw cynyddol am wasanaethau statudol (ond nad ydynt yn gyffredinol), gallai cynnal y model presennol olygu bod cynghorau’n methu, gan wanhau ymddiriedaeth, cyfranogiad ac uniondeb democrataidd yn y broses.
Gan adeiladu ar waith y Gweithgor annibynnol ar lywodraeth leol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a gasglwyd ynghyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, bydd y weminar hon yn edrych ar sut gall Llywodraeth nesaf Cymru weithio gyda llywodraeth leol i gefnogi newid tuag at fodel mwy cynaliadwy yng Nghymru.
Bydd y panel o arbenigwyr yn edrych ar feysydd allweddol fel diwygio cyllid, trawsnewid, diwylliant y gweithlu; a phwysigrwydd cynyddol lle, atal a chydweithio wrth ddarparu gwasanaethau.
Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae:
- Yr Athro Steve Martin, Cadeirydd y Gweithgor Annibynnol ar Lywodraeth Leol Gynaliadwy ar gyfer y Dyfodol
- Max Caller CBE, Ymgynghorydd Llywodraeth Leol
- Anna Randle, Prif Weithredwr Dros Dro, New Local
- Dr Jack Price, Cydymaith Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
Bydd sesiwn holi ac ateb fyw gyda'r gynulleidfa ar ôl y drafodaeth.
Byddwch yn rhan o'r drafodaeth, cofrestrwch nawr.
Mae'r gweminarau i unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y bydd tirwedd polisi Cymru yn datblygu ar ôl etholiad nesaf y Senedd. Bydd pob gweminar yn canolbwyntio ar her polisi benodol yn un o feysydd blaenoriaeth presennol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau, yr Amgylchedd a Sero Net, Llesiant Cymunedol) gyda siaradwyr arbenigol yn trin ac yn trafod tystiolaeth a gwybodaeth allweddol, a bydd cyfleoedd i’r gynulleidfa gymryd rhan.
Y ffordd ymlaen: tystiolaeth a gwybodaeth i Lywodraeth nesaf Cymru
Cyfres gweminarau Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a gynhelir gan y Sefydliad Materion Cymreig:
- Adeiladu economïau lleol llewyrchus drwy fframwaith pontio teg | Dydd Mawrth 3ydd Chwefror
- Troi'r llanw ar dlodi plant | Dydd Iau 26ain Chwefror 11am - 12.15
- Dyfodol cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yng Nhymru | dyddiad i’w gadarnhau
- Cryfhau cydlyniant cymunedol | dyddiad i'w gadarnhau