Lleihau tlodi plant yng Nghymru: faint allwn ni ddibynnu ar waith am dâl?

Bydd tlodi plant yng Nghymru yn gostwng ychydig y flwyddyn nesaf yn ôl pob tebyg. Fodd bynnag, oni bai bod newid dyfnach, bydd yn parhau ar lefel ystyfnig o uchel wedi hynny.

Dyna'r neges ganolog o'n rhagamcanion diweddaraf yn y Resolution Foundation. Ar sail y rhagdybiaethau economaidd â’r rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer Cyllideb hydref 2025 Llywodraeth y DU, rydym yn amcangyfrif y bydd tlodi plant yn gostwng yn y tymor byr, cyn sefydlogi.

Polisïau sy'n sbarduno'r gostyngiad yn lefelau tlodi plant yn 2026-27. Bydd dileu'r terfyn dau blentyn a’r cynnydd o 6% yn lwfans safonol Credyd Cynhwysol yn rhoi hwb i incwm llawer o deuluoedd. Ar ôl hynny, mae polisïau eraill yn tynnu i'r cyfeiriad arall. Bydd rhewi cymorth tai a phennu uchafswm ar fudd-daliadau yn parhau i gael effaith andwyol.

Hyd yn oed yn dilyn y gostyngiad a ragwelir, mae cyfraddau tlodi yng Nghymru yn parhau i fod ychydig yn uwch na Lloegr, ac yn llawer uwch nag yn yr Alban, lle mae Taliad Plant yr Alban yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd ar incwm isel.

Ymateb cyffredin i dlodi plant yw mynnu bod mwy o rieni yn gwneud gwaith am dâl, neu weithio mwy o oriau.

Wrth gwrs, mae hyn wedi bod yn digwydd beth bynnag. Un o'r newidiadau cymdeithasol mwyaf yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf fu'r cynnydd mewn rhieni sy’n gweithio. Mae'r newid hwn wedi newid natur tlodi. Wrth i ddiweithdra ostwng, mae tlodi mewn gwaith wedi cynyddu. Nid yw hynny'n golygu na allwn gynyddu nifer y rhieni sy’n gweithio ymhellach. Ond wrth i gyfraddau cyflogaeth godi, mae'r grŵp nad ydyn nhw’n gweithio yn tueddu i wynebu rhwystrau mwy difrifol. Ymhlith teuluoedd sydd heb waith sy’n talu cyflog, mae gan tua hanner blentyn cyn-ysgol. Mae tua hanner yn cynnwys oedolyn â phroblem iechyd. Nid mân rwystrau yw'r rhain.

Ond beth am gynnydd gyrfaol? Weithiau mae fel petai bod gwleidyddion a llunwyr polisïau yn ystyried cynnydd gyrfaol fel un cam syml – a rhad – a fydd yn gwella incwm teuluoedd, ond heb feddwl yn fanwl am yr hyn sydd ei angen i wneud iddo weithio i rieni mewn gwirionedd.

Ar sail yr ymchwil ansoddol rydyn ni ac eraill wedi'i chynnal, byddwn i'n amlygu tair thema.

Yn gyntaf, y pwyslais ar oroesi. Mae byw mewn tlodi yn achosi straen ariannol ac emosiynol. Pan fydd teuluoedd yn canolbwyntio ar gadw'r goleuadau ymlaen a thalu rhent, gall cynllunio tymor hir deimlo fel rhywbeth sydd y tu hwnt i’w cyrraedd. Yn ddealladwy, maen nhw am fod yn hynod ofalus neu maen nhw’n gallu anobeithio am eu rhagolygon. I'r bobl hyn, nid yw 'cynnydd gyrfaol' ar eu meddwl o gwbl.

Yn ail, cyfyngiadau ymarferol. Mae angen i batrymau gwaith rhieni gyd-fynd ag oriau ysgol, gofal plant, arferion gwaith partner o bosibl, a thrafnidiaeth. Gall newid swyddi deimlo fel gormod o risg, yn enwedig mewn sectorau nad ydyn nhw’n cynnig contractau sefydlog. Gall cynyddu oriau fod yn amhosibl os nad oes modd gwybod pa shifftiau fydd ar gael, neu os nad ydyn nhw'n cyd-fynd ag amserlenni bysiau neu’r adegau pan fydd gofal plant ar gael.

Yn drydydd, cymhellion gwan. I rai teuluoedd, pitw yw’r enillion ariannol o ganlyniad i weithio oriau ychwanegol neu gael dyrchafiad ar ôl ystyried y gostyngiad yn y Credyd Cynhwysol. Efallai na fydd rhai yn teimlo bod y straen ychwanegol a ddaw yn sgîl cael dyrchafiad yn werth yr ymdrech.

Os felly, ni all strategaeth sydd o ddifrif ynghylch cynnydd gyrfaol ddibynnu ar anogaeth yn unig. Bydd angen mynd i'r afael â'r rhwystrau sylfaenol a bod yn eang o ran ei sail.

Mae gofal plant yn bwysig, hyd yn oed os na fydd yn drawsnewidiol. Mae hynny'n cynnwys darpariaeth ar gyfer plant oedran ysgol yn ystod gwyliau ysgol, a chefnogaeth i rieni sydd am ailhyfforddi. Mae trafnidiaeth yn bwysig hefyd: mae trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a fforddiadwy yn ehangu'r ystod o swyddi y gall teuluoedd eu hystyried yn realistig. Mae hawliau cyflogaeth yn rhan o'r darlun. Gall mwy o ddiogelwch a sefydlogrwydd yn y gwaith leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â newid rolau neu gynyddu oriau. Mae rôl i bolisi sgiliau hefyd. Mae angen cyfleoedd go iawn ar rieni i symud i sectorau sy’n cynnig cyflogau gwell, nid dim ond anogaeth i weithio oriau hirach mewn swyddi sy’n talu cyflogau isel.

Nid oes unrhyw elfen o’r gwaith hwn yn syml. Fodd bynnag, os yw Cymru o ddifrif ynghylch lleihau tlodi ymhlith plant, nid yn unig y flwyddyn nesaf, ond yn y tymor hir, bydd angen cynllun eang, ac i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru gymryd camau.

Roedd Mike Brewer, Dirprwy Brif Weithredwr y Resolution Foundation, un o’n siaradwyr gwahodd ar ein weminar Troi’r llanw ar dlodi plant, rhan o’n cyfres Y ffordd ymlaen: tystiolaeth a gwybodaeth i Lywodraeth nesaf Cymru a gynhelir gan y Sefydliad Materion Cymreig.

To top