Sut gall Llywodraeth nesaf Cymru gyflawni twf a datblygiad economaidd lleol drwy gamau pontio cyfiawn sy'n fuddiol i genedlaethau'r dyfodol?
Yn aml, caiff sero net ei bortreadu fel cost, ond yn ymarferol mae'n un o gyfleoedd gorau Cymru i sbarduno ffyniant lleol, creu swyddi medrus, adeiladu cymunedau iachach a mwy gwydn, a chynyddu cynhyrchiant os caiff ei wneud yn dda. Os bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn trin y cyfnod pontio fel sylfaen ar gyfer cryfder economaidd hirdymor, gall Cymru gynhyrchu twf sy'n fuddiol i drigolion nawr yn ogystal â chenedlaethau'r dyfodol.
Mae'n glir bod angen cymryd camau brys, o ystyried maint yr her . Mae pwysau amgylcheddol eisoes yn effeithio ar natur, cymunedau ac iechyd y cyhoedd ledled Cymru, a’r cyfan y mae oedi cyn cymryd camau yn ei wneud yw cynyddu risgiau a chostau yn y dyfodol. Fodd bynnag, ochr yn ochr â'r her hon, mae cyfle economaidd enfawr mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy, ôl-osod domestig, trafnidiaeth ac arloesedd digidol. Gall Cymru ddefnyddio’r momentwm hwn i ddenu buddsoddiad o bwys, creu swyddi diogel a lleihau anghydraddoldebau rhanbarthol.
Rhaid cofio hefyd bod amodau economaidd yn amrywio ledled Cymru. Mae gan rai lleoedd gysylltiadau cryf â thrafnidiaeth, addysg a diwydiant, tra bod ardaloedd eraill wedi’u heffeithio o hyd gan ddirywiad diwydiannol hirdymor. Ar ben hynny, gan fod crynodiad uwch o ddiwydiannau carbon-ddwys yng Nghymru o'i gymharu â gweddill y DU - gan gynnwys gwneud dur, mireinio olew a phrosesu tanwydd ffosil - mae'r sectorau hyn yn wynebu cryn aflonyddwch wrth ddatgarboneiddio, fel y gwelsom yn ddiweddar ym Mhort Talbot. Mae lefelau cynhyrchiant, cyflogau a chyfleoedd i gael swyddi yn amlygu’r gwahaniaethau rhanbarthol hyn. Felly, rhaid paratoi proses bontio gyfiawn i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau hyn yn hytrach na'u hatgyfnerthu, gan na ellir cyflawni'r enillion economaidd posibl heb broses bontio gyfiawn .
I gyflawni hyn, bydd angen polisïau ar Gymru sy'n meithrin economïau lleol cryf a hyder ymhlith cyflogwyr a buddsoddwyr. Ar ben hynny, rhaid gwneud yn siŵr bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer diwydiannau sy'n newid. I wireddu hyn, dylai Llywodraeth nesaf Cymru ganolbwyntio ar yr agweddau canlynol er mwyn cynorthwyo pobl a lleoedd.
1) Buddsoddi mewn sectorau allweddol a'u cadwyni cyflenwi
Defnyddio fframwaith Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) i flaenoriaethu buddsoddiad mewn sectorau sydd â'r potensial mwyaf i greu swyddi hirdymor o ansawdd da ac ysgogi gweithgarwch economaidd ar draws ardaloedd lleol. Mae’r rhain yn cynnwys ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu uwch, trafnidiaeth ac arloesedd digidol. Mae'r sectorau hyn yn creu swyddi yn uniongyrchol yn ogystal ag ystod eang o fuddion anuniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo busnesau sy'n rhan o’r gadwyn gyflenwi, o gwmnïau peirianneg i gaffis lleol, siopau a chwmnïau trafnidiaeth. Drwy fuddsoddi o amgylch anghenion cymunedau a gwneud yn siŵr bod cadwyni cyflenwi lleol yn gallu ymateb, gall Cymru gryfhau ei sylfaen economaidd.
Er enghraifft, gallai buddsoddi mewn adnewyddu cartrefi ysgogi’r galw a’r cyflenwad fel ei gilydd. Mae costau uchel ymlaen llaw, prinder sgiliau, ystyriaethau ariannol cymhleth ac aflonyddwch mawr i aelwydydd i gyd yn heriau i’r sector, ond gall buddsoddiad ar raddfa fawr ac sydd wedi'i strwythuro'n dda, leihau'r risg sy’n gysylltiedig â chael mynediad i'r farchnad, creu arbedion maint a gyrru arloesedd.
2) Cryfhau'r system sgiliau a’i chydlynu
Mae pontio’n llwyddiannus yn dibynnu ar gael gweithlu sy’n gallu symud i rolau newydd ac esblygol. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod gweithwyr mewn sectorau sy'n wynebu newid o bwys, fel dur, gweithgynhyrchu trwm a diwydiannau sy'n gysylltiedig â thanwydd ffosil, yn elwa o raglen ailhyfforddi gydlynol, a’u bod yn cael cymorth addas i ailhyfforddi a symud i rolau newydd diogel sy’n deillio o fuddsoddiad. Mae hyn yn golygu bod angen system sgiliau sy'n hawdd ei llywio. Mae cydlynu a chydweithio cryfach yn hanfodol ar gyfer hyn, rhwng diwydiant a darparwyr addysg, yn ogystal ag o fewn Llywodraeth Cymru; a rhaid i hyn fod yn seiliedig ar wybodaeth gadarn am y farchnad lafur. Bydd cydweithio’n barhaus â Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a phartneriaethau sgiliau rhanbarthol yn helpu i greu system sgiliau fwy hyblyg sy'n gallu ymateb i anghenion a ddaw i'r amlwg, er enghraifft drwy adolygu fframweithiau prentisiaethau.
Gellid mynd i'r afael ag amrywiadau rhanbarthol drwy ganolfannau sgiliau traws-sector, fel yr amlygwyd yn Adolygiad Sgiliau Gwyrdd diweddar Llywodraeth Cymru. Mae adeiladu ar fentrau fel y Gronfa Twf Lleol sy’n werth £500 miliwn yn hanfodol. Mae’r Gronfa hon yn helpu busnesau i ehangu a datblygu sgiliau mewn meysydd allweddol gan gynnwys ynni carbon isel. Drwy eu sefydlu yn rhan o naratif cenedlaethol clir, gall cronfeydd fel hyn ddenu buddsoddiad preifat sylweddol a chryfhau economïau rhanbarthol dros amser.
Mae ymchwil yn dangos bod cynorthwyo dysgu gydol oes drwy gael gwared ar rwystrau fel cost, trafnidiaeth a chyfrifoldebau gofalu, yn hanfodol ac yn creu diwylliant sy'n trin dysgu fel rhywbeth sy'n parhau drwy gydol oes.
3) Defnyddio arian arloesol a rhoi hwb i gapasiti lleol
Mewn amgylchedd ariannol cynyddol dynn lle mae cynghorau'n aml yn gorfod ymdopi â ffrydiau ariannu tameidiog ac arbenigedd cyfyngedig, dylai Llywodraeth nesaf Cymru symleiddio'r dirwedd ariannu. Rhan bwysig o hyn yw helpu awdurdodau lleol i gael gafael ar gymorth technegol a rennir mewn meysydd fel asesu risg ariannol, caffael a chyngor cyfreithiol. Drwy ddefnyddio enghreifftiau, mae ein hymchwil wedi dangos sut y gallai cyfuno adnoddau ar draws awdurdodau lleol helpu i oresgyn yr heriau a gwella darpariaeth ar raddfa fawr.
4) Adeiladu fframwaith polisi clir a gweledigaeth hirdymor gyson
Mae angen i gymunedau, busnesau, cynghorau a buddsoddwyr fod yn ffyddiog ynghylch cyfeiriad Cymru yn y dyfodol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 eisoes yn rhoi fframwaith sy'n angori penderfyniadau mewn tegwch, stiwardiaeth amgylcheddol a ffyniant hirdymor. Mae negeseuon cyson yn bwysig er mwyn meithrin hyder ymhlith buddsoddwyr a chymunedau, gan eu bod yn caniatáu i fusnesau gynllunio ymlaen llaw ac i aelwydydd ddeall y manteision a ddaw yn sgîl y newid. Drwy gael strategaeth genedlaethol sefydlog sy'n gysylltiedig â gweledigaeth hirdymor, byddai Cymru mewn sefyllfa gref i ddenu buddsoddiad o bwys .
I gloi, mae sero net yn llawer mwy na tharged sy’n ymwneud â’r hinsawdd. Mae'n strategaeth economaidd sy’n gallu helpu Cymru i feithrin economïau lleol sy’n ffynnu, lleihau anghydraddoldebau, yn ogystal â chreu swyddi gwell i’r cenedlaethau i ddod. Drwy gynnig arweinyddiaeth glir, cynllunio mewn ffyrdd cydlynol ac ymrwymo’n gryf i degwch, gall Llywodraeth nesaf Cymru ddefnyddio'r broses bontio i adeiladu Cymru fwy ffyniannus, gwydn a chynhwysol.