Mae’r gwrthdaro rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran, yn ogystal â ymosodiadau gan Iran ar wladwriaethau eraill yn y Gwlff a chau Culfor Hormuz, wedi cael effaith fawr ar economi’r DU. Er bod cadoediad wedi’i gyhoeddi, mae’r brwydro wedi ailddechrau gyda’r Unol Daleithiau yn bomio targedau Iranaidd a’r Iraniaid yn ymosod yn orsafoedd yr Unol Daleithiau yn y Gwlff. Mae effeithiau’r gwrthdaro eisoes wedi dechrau ymddangos. Ers mis Chwefror, mae’r NIESR wedi diwygio ei ragolygon ar gyfer twf GDP y DU eleni a’r flwyddyn nesaf ac wedi’u gostwng 0.3 a 0.2 pwynt canran ar gyfer 2026 a 2027, yn y drefn honno, o’i gymharu â’r rhagolwg ym mis Chwefror. Ar yr un pryd, roedd ei ragolygon ar gyfer chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr y DU yn 2026 a 2027 wedi cael eu gostwng 0.8 ac 1[MJ1.1].1 pwynt canran, yn y drefn honno, oherwydd y prisiau ynni uwch. Y cwestiwn yw: beth mae hyn yn ei olygu i economi Cymru a Llywodraeth Cymru?
Effaith amlycaf y gwrthdaro fydd ar brisiau ynni. Cododd pris cyfartalog petrol yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol o £1.32 y litr ar 2 Mawrth i £1.58 y litr ar 13 Ebrill, ers hynny mae wedi aros dros £1.50 y litr. Gan fod llawer o Gymru’n wledig, mae costau trafnidiaeth uwch yn debygol o gael effaith arbennig o fawr ar aelwydydd a busnesau yng Nghymru. Ar yr un pryd, cynyddodd prisiau nwy a thrydan cartrefi - sy’n cael eu pennu ym Mhrydain gan gap prisiau OfGEM - 13 y cant ar gyfer aelwyd gyffredin ym Mhrydain er bod y cynnydd ychydig yn is yng Nghymru.
Mae cynnydd uwch mewn prisiau ynni hefyd yn debygol o gael effaith fawr iawn ar ddiwydiant Cymru, o ystyried bod gweithgynhyrchu - sy’n defnyddio mwy o ynni na gwasanaethau - yn ffurfio cyfran fwy o gyflogaeth yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae cynhyrchu dur yn defnyddio llawer iawn o ynni, a bydd costau tanwydd uwch yn tarfu ar gadwyni cyflenwi a chostau yswiriant uwch hefyd yn effeithio ar y diwydiant awyrofod, sy’n bwysig yng Nghymru. Rydym yn gweld ‘sioc gyflenwi’ glasurol, sy’n golygu ei bod yn debygol y bydd yr allbwn yn is nag y byddai wedi bod heb y gwrthdaro yn Iran. Mae efelychiad bras o fodel econometreg byd-eang NIESR (NiGEM) awgrymu y bydd GDP Cymru yn gostwng tua 0.15 y cant yn 2026.
Un peth na wyddom ni eto yw effaith cau Culfor Hormuz ar brisiau bwyd, o ystyried faint o rawn a gwrtaith sy’n cael eu cludo drwy’r culfor. Hyd yn hyn, nid yw prisiau bwyd wedi cael eu heffeithio mor ddrwg ag y gellid disgwyl, er ei bod yn debygol y bydd chwyddiant prisiau bwyd yn codi dros 2026. Mae hyn yn bwysig o ystyried bod aelwydydd tlotach yn gwario cyfran fwy o’u hincwm ar fwyd (ac ynni).
Yn gyffredinol, felly, mae’n debygol y bydd y chwyddiant uwch yn effeithio aelwydydd tlotach yn fwy nag ar aelwydydd cyfoethocach, gyda’r rhai ar incwm is â llai o gyfle i ymdopi â chostau byw uwch. Bydd hefyd yn rhoi pwysau ar gyllideb Llywodraeth Cymru: bydd swm penodol o wariant enwol yn arwain at ddarparu llai o wasanaethau cyhoeddus, a dim ond gallu cyfyngedig sydd gan Lywodraeth Cymru i godi trethi i dalu am unrhyw gynnydd mewn gwariant. Mae hyn hefyd yn awgrymu mai dim ond hyn a hyn o gyfle, os o gwbl, sydd i roi cymorth i aelwydydd yng Nghymru (yn ychwanegol at unrhyw gymorth ledled y DU). Pe bai Llywodraeth Cymru yn penderfynu rhoi cymorth i aelwydydd, byddai’n bwysig sicrhau bod y cymorth yn mynd i aelwydydd tlotach. Byddai cymorth holl gynhwysfawr i bob aelwyd yn llawer drutach a byddai i bob pwrpas yn ffafrio aelwydydd cyfoethog, sy’n gwario mwy ar ynni, o’u cymharu ag aelwydydd tlawd.
Yn y tymor canolig i’r tymor hir, mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i feithrin gwydnwch rhag siociau ynni drwy gyflymu’r newid i sero net, gan sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei dargedu yn unol ag anghenion polisi ynni Cymru a Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae cydweithio blaenorol ag OfGEM ar ddatblygu’r grid, ynghyd ag ymdrechion i weithio gydag Ystad y Goron a chyrff eraill i gynyddu cynhyrchiant gwynt ar y môr yn y Môr Celtaidd, yn rhoi sylfaen gref i adeiladu arni. Gallai Llywodraeth Cymru hefyd ehangu eu defnydd o ynni solar ar doeau adeiladau cyhoeddus a chynyddu storfeydd batris a chynlluniau storio ynni lleol.
Er bod hynt y gwrthdaro yn dal yn ansicr iawn, mae ei ganlyniadau economaidd eisoes yn dod yn amlwg. I Gymru, yr her yw ymateb i’r pwysau uniongyrchol ar aelwydydd a busnesau, a hefyd cryfhau’r gallu i wrthsefyll ergydion ynni yn y dyfodol. Ni fydd adeiladu system ynni fwy diogel, amrywiol a charbon isel yn dileu risgiau geowleidyddol, ond gall leihau cysylltiad Cymru â nhw yn y dyfodol.
Nodyn Bywgraffyddol
Yr Athro Stephen Millard yw Dirprwy Gyfarwyddwr Modelu a Rhagweld Macro-economaidd yn NIESR (y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol). Yn flaenorol, bu’n gweithio ym Manc Lloegr. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys polisi ariannol a macroeconomaidd; llafur, cyflogaeth a chyflogau; dynameg chwyddiant; a goblygiadau newid yn yr hinsawdd a pholisi hinsawdd ar gyfer polisi ariannol a’r macroeconomi.