Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn dechrau ar adeg o bryder cynyddol ynglŷn â rhaniadau a phegynnu ymhlith cymunedau yng Nghymru a ledled y DU. Bydd cryfhau cydlyniant cymdeithasol yn y cyd-destun hwn yn gofyn am gamau cydlynol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, (ail)adeiladu ymddiriedaeth mewn sefydliadau, a chefnogi'r seilwaith lleol sy'n sail i gysylltiad positif o fewn cymunedau a rhwng cymunedau, tra’n gweithio o fewn setliad datganoli lle mae rhai ysgogiadau allweddol sy'n effeithio ar gydlyniant yn parhau i fod yn nwylo Llywodraeth y DU.
Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru?
Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, mae Cymru wedi profi o leiaf pedwar digwyddiad mawr sydd wedi effeithio ar gydlyniant cymdeithasol, sy’n amrywio o brotestiadau a therfysgoedd gwrth-fewnfudo i ymosodiadau cyfryngau cymdeithasol yn erbyn sefydliadau sy’n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae’r digwyddiadau hyn wedi digwydd o fewn cyd-destun ehangach o densiynau cynyddol a phegynnu cymdeithasol ar draws cymunedau yn y DU, gyda llofruddiaeth tair o ferched ifanc yn Southport yn 2024 yn arwain at y cyfnod o aflonyddwch sifil mwyaf difrifol a welwyd ledled y DU ers degawdau, wedi'i sbarduno gan gamwybodaeth a theimladau gwrth-fewnfudo cynyddol.
Yn gefnlen i hyn, lansiodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ymchwiliad i gydlyniant cymdeithasol ddiwedd 2024. Gan bwysleisio'r angen brys am gamau polisi gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, argymhellodd adroddiad terfynol y Pwyllgor sefydlu Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant Cymdeithasol dan gadeiryddiaeth annibynnol i ddatblygu camau gweithredu byr dymor, tymor canolig a hirdymor cyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026. Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru roi tystiolaeth i'r Grŵp Arbenigol er mwyn helpu'r Grŵp i nodi'r camau hyn.
O ystyried bod amserlen y Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant Cymdeithasol yn dyn, fe wnaethom adolygu'r llenyddiaeth academaidd a gyflwynwyd i ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ochr yn ochr â thystiolaeth a ddarparwyd drwy alwad am dystiolaeth am gyflwyniadau gan aelodau’r Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant Cymdeithasol. Ategwyd hyn gan adolygiad o synthesisau tystiolaeth cyfredol o ymyriadau i hyrwyddo allgáu cymdeithasol.
Canolbwyntiodd ein gwaith i syntheseiddio'r dystiolaeth hon ar nodi ymyriadau i hyrwyddo a chryfhau cydlyniant cymdeithasol ac ar drosi’r canfyddiadau hyn ar gyfer cyd-destun polisi Cymru, gan ymateb i'r cwestiynau ymchwil canlynol:
- Pa ymyriadau polisi ac ymarfer sy'n effeithiol wrth hyrwyddo a chryfhau cydlyniant cymdeithasol?
- Pa gamau polisi posib ar gyfer Cymru a nodir yn y dystiolaeth ar ymyriadau cydlyniant cymdeithasol?
Nid yw’n fater o beth rydych chi'n ei wneud, ond y ffordd rydych chi'n ei wneud
Datgelodd ein synthesis tystiolaeth fod nifer o ymyriadau wedi gwella un agwedd neu fwy ar gydlyniant cymdeithasol, ond mae'r amrywiad eang o ran mesurau, mathau o ymyriadau a'u heffeithiolrwydd amrywiol ar draws cyd-destunau yn ei gwneud hi'n heriol cymharu dulliau neu ddod i gasgliadau ynghylch pa ddulliau sydd fwyaf effeithiol. Mae'r canlyniadau cymysg a welir o ganlyniad i rai ymyriadau hefyd yn awgrymu y gallai'r math o ymyrraeth – y beth – fod yn llai pwysig na sut mae ymyrraeth yn cael ei datblygu a'i gweithredu – y sut. Er gwaethaf yr anhawster o ddod i gasgliadau cadarn o'r dystiolaeth, gallwn dynnu sylw at nifer o feysydd sy'n werth eu hystyried i benderfynu ar gamau polisi posib ar gyfer Cymru.
- Ymyrryd yn gynnar yng nghwrs bywyd. Mae'r dystiolaeth yn mynegi'n glir gwerth ymyrryd yn gynnar yng nghwrs bywyd i gryfhau cydlyniant cymdeithasol yn bennaf gan fod agweddau plant a phobl ifanc yn dal i gael eu ffurfio. Yn ogystal, gall effaith ymyriadau gael effaith fwy parhaol.
- Datblygu ymyriadau cyffredinol. Mewn cyferbyniad ag ymyriadau wedi'u targedu, gall ymyriadau cyffredinol helpu i gyrraedd grwpiau sydd â llai o ddiddordeb nad ydynt mor debygol o ymgysylltu'n wirfoddol. Gallai ymyriadau cyffredinol gynnwys addysg yn y gweithle a chodi ymwybyddiaeth.
- Ymgorffori elfennau cydgynhyrchu a chydgynllunio. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall cynnwys aelodau’r gymuned wrth gynllunio a gweithredu ymyriadau greu buddion i aelodau’r gymuned a chynyddu ymddiriedaeth sefydliadol. Serch hynny, mae sicrhau bod anghenion ac ymgysylltiad ystod amrywiol o aelodau’r gymuned, gan gynnwys y rhai sy’n agored i niwed, yn hanfodol.
- Ystyried cryfhau gwirfoddoli. Gall gwirfoddoli a chydlyniant cymdeithasol gael perthynas sy'n atgyfnerthu ei gilydd, sy'n golygu bod gwirfoddoli'n hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol ac mae cydlyniant cymdeithasol yn hyrwyddo gwirfoddoli. Er mwyn sicrhau hynny, bydd angen i strategaethau polisi fynd i'r afael â'r cysylltiad hwn yn benodol a sicrhau bod effeithiau positif gwirfoddoli yn cael eu profi o fewn grwpiau a rhwng grwpiau.
- Buddsoddi mewn seilwaith cymunedol. Bydd cyllid tymor hwy ac ymgysylltiad cynhwysol yn cefnogi’r broses o feithrin a chynnal seilwaith cymunedol. Mae un astudiaeth yn tynnu sylw at yr angen i gynnal asesiad o’r effaith ar anghydraddoldeb llesiant i liniaru effeithiau anghyfartal neu negyddol ymyriadau lle a gofod.
- Ehangu buddsoddiad mewn gweithredu lleol strategol cydlynol. Canfuwyd bod buddsoddi yn y strategaethau hyn yn cryfhau cydlyniant ar lefel leol, a gallai gwneuthurwyr polisi ddefnyddio contractio perfformiad gyda thargedau cydlyniant cymdeithasol i wella cydlyniant cymdeithasol ar lefel leol.
- Cryfhau'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau i gryfhau cydlyniant cymdeithasol. Mae astudiaethau amrywiol yn tynnu sylw at bwysigrwydd cryfhau'r sylfaen dystiolaeth. Byddai datblygu mesurau safonol a dilys ac ymgorffori cynlluniau hydredol ac arbrofol yn cefnogi’r broses o werthuso, dadansoddi ar raddfa fwy ac yn caniatáu i achosiaeth gael ei sefydlu.
Gweminar: Tystiolaeth a mewnwelediad ar gyfer cryfhau cydlyniant cymunedol yng Nghymru
Ar 25ain Mawrth, cyflwynwyd trosolwg o'n canfyddiadau yn ein gweminar, ynghyd â mewnwelediad panel o arbenigwyr ar y rôl y gall Llywodraeth nesaf Cymru ei chwarae wrth gefnogi a galluogi ymdrechion cydlyniant cymunedol. Archwiliodd ein panel o arbenigwyr:
- Beth yw'r bygythiadau mwyaf sy'n dod i'r amlwg o ran cydlyniant cymunedol yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf - a sut gall Llywodraeth nesaf Cymru weithredu i fynd i’r afael â nhw;
- Beth yw’r ffordd orau y gall Llywodraeth Cymru gefnogi dulliau sy'n seiliedig ar le ac sy'n cael eu harwain gan y gymuned er mwyn cryfhau cydlyniant; a
- Sut gellir (ail)adeiladu ymddiriedaeth mewn cyd-destunau o raniadau neu hyder isel mewn sefydliadau - a pha rôl y dylai Llywodraeth Cymru a gweithredu lleol ei chwarae.
Bydd ein hadroddiad llawn yn cael ei gyhoeddi yn yr haf.