Cafodd Arwain, ysgol lywodraethu genedlaethol newydd Cymru, ei chyhoeddi fel rhan o ymrwymiadau 100 Diwrnod Cyntaf Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru’n datblygu Arwain i gryfhau arweinyddiaeth ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan helpu pobl i weithio ar draws ffiniau a gwella canlyniadau i’r cyhoedd. Bydd hyn yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio drwy Academi Wales a’u harlwy arweinyddiaeth ehangach, gan greu dull gweithredu ymarferol a chydgysylltiedig.
Bwriad Arwain yw rhoi’r sgiliau a’r meddylfryd i arweinwyr gydweithio ar draws systemau, mynd i’r afael â phroblemau ar y cyd, a sicrhau canlyniadau gwell. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am gymorth i ddatblygu Damcaniaeth Newid sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer Arwain.
I ymateb i’r gofyniad hwn, mae’r Ganolfan wedi nodi’r cwestiynau ymchwil canlynol:
1. Pa heriau arweinyddiaeth dylai Arwain fynd i’r afael â nhw?
2. Pa dystiolaeth sy’n cefnogi rôl ysgol lywodraethu genedlaethol yn mynd i’r afael â’r heriau hyn?
3. Pa ddulliau gallai Arwain eu defnyddio i gyfrannu at wella’r gallu i arwain, gwella cydweithio a gwella canlyniadau gwasanaethau cyhoeddus?
4. Pa ganlyniadau ac effeithiau dylai Arwain geisio eu sicrhau, a sut gellir mesur y rhain?
5. Pa amodau sydd eu hangen er mwyn llwyddo?
Bydd Damcaniaeth Newid gynhwysfawr yn helpu swyddogion i ddatblygu fframwaith gwerthuso er mwyn asesu cynnydd a deall effaith. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu Sealey Associates, darparwr arbenigol, i weithio ar y cyd â’r Ganolfan ac amrywiaeth eang o randdeiliaid i ddatblygu’r Ddamcaniaeth Newid hon. Pan fydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau, rydyn ni’n disgwyl cyhoeddi’r Ddamcaniaeth Newid yng ngwanwyn 2027.