Ymunodd Emma â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym mis Medi 2026. Cyn ymuno â'r WCPP, roedd Emma yn ymchwilydd gyda ‘Phobl a Gwaith’, elusen ymchwil gymdeithasol annibynnol yng Nghymru. Yn ystod y gwaith hwn, gweithiodd Emma ar nifer o brosiectau ymchwil a gwerthuso ar gyfer sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ledled Cymru. Canolbwyntiodd ei rôl ar gynnal ymchwil i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ym meysydd addysg, iechyd a chyflogaeth. Roedd hi hefyd yn gyfrifol am werthuso prosiectau ymchwil sy'n seiliedig ar weithredu gan ‘Bobl a Gwaith’, a oedd wedi'u lleoli yn y Rhondda.
Mae gan Emma radd BSc mewn Daearyddiaeth Ddynol a gradd MSc mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd. Mae ei chefndir academaidd a’i phrofiad ym maes ymchwil a gwerthuso ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus wedi datblygu ei diddordeb i ddefnyddio tystiolaeth i lywio polisïau ac ymarfer yng Nghymru. Gan ei bod yn dod o Gaerdydd, mae Emma yn angerddol dros barhau i ddefnyddio ymchwil ym meysydd polisi er mwyn creu Cymru lle gall pawb ffynnu.