Ymunodd Alison Clarke â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fel Cydymaith Ymchwil ym mis Ebrill 2026. Mae hi'n gweithio ar amrywiaeth o brosiectau ar draws tri maes blaenoriaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ond yn enwedig o fewn Lles Cymunedol.
Cyn dechrau yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, bu Alison yn gweithio fel Cynorthwyydd Ymchwil (Capasiti a Gallu) yn Insights North East, canolfan gydweithredol ar gyfer polisi seiliedig ar leoedd yn Newcastle upon Tyne. Yma, arweiniodd brosiectau polisi i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau llywodraeth leol wrth ddefnyddio tystiolaeth. Roedd hi hefyd yn Gymrawd Ymchwil yn Rhwydwaith y Prifysgolion ar gyfer Ymgysylltu â Pholisi (UPEN), lle bu’n gweithio i gryfhau seilwaith broceriaeth cenedlaethol y DU a gwella cydlynu ar draws yr ecosystem polisi academaidd.
Efallai mai'r ffordd orau o ddisgrifio hanes gyrfa ehangach Alison yw un 'igam-ogam': mae hi wedi gweithio mewn rolau yn y Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol Newcastle (Swyddfa Ryngwladol a Chyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol); mae ganddi PhD mewn hanes delio celf (Prifysgol Lerpwl/yr Oriel Genedlaethol); a bu'n gweithio cyn hynny fel cyfieithydd mewnol o'r Ffrangeg a'r Eidaleg.