Atal digartrefedd yn Rhondda Cynon Taf

Mae'r prosiect yn rhan o'r rhaglen waith ehangach ar 'ddigartrefedd a llety dros dro yng Nghymru'.

Ym mis Ionawr 2026, gwahoddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) a'r Centre for Homelessness Impact (CHI) awdurdodau lleol i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb ynghylch cymorth sy’n seiliedig ar dystiolaeth gan CPCC a/neu CHI. Mae rhagor o wybodaeth am y broses ar gael yma: 'Ymchwilio i sut y gall tystiolaeth helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng llety dros dro’

Yn dilyn adolygiad o'r cyflwyniadau a ddaeth i law, lansiodd CPCC, Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT) a CHI brosiect ar y cyd er mwyn cefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ganfod datrysiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i atal a lleihau digartrefedd.

Dyma ail gam gwaith CYBI RhCT ar wariant ataliol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn ar wefan CYBI RhCT.

Nod y prosiect yw mapio gwariant ar atal digartrefedd yn RhCT, yr effaith y mae hyn yn ei chael yn ogystal â’r dystiolaeth sydd ar gael i gryfhau darpariaeth gwasanaethau ataliol, gan gynnwys posibilrwydd ymyraethau newydd neu ddulliau gweithredu newydd.

Er mwyn cefnogi CYBI RhCT yn y prosiect, mae CPCC a CHI yn darparu tystiolaeth ar y cwestiynau ymchwil canlynol:

1. Pa ymyraethau effeithiol y mae awdurdodau lleol wedi'u rhoi ar waith mewn lleoedd eraill i atal digartrefedd o ran:

a. cynnal, cael mynediad at dai addas a diogel a/neu eu cadw

b. cynyddu cyflenwad y tai fforddiadwy?; a

2. Beth yw effeithiau cymdeithasol, economaidd ac iechyd a lles digartrefedd, a beth yw profiad y sawl yr effeithir arnyn nhw?

Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Sir y Fflint ac Ynys Môn i gefnogi eu hawdurdodau lleol i ganfod yn gyflym agweddau ar system ddigartrefedd eu cynghorau lle gallai newid wneud y gwahaniaeth mwyaf o ran deilliannau i bobl sydd mewn perygl o fod yn

ddigartref neu sy'n ddigartref ar hyn o bryd. Darllenwch ragor am y prosiect hwn yma: https://wcpp.org.uk/cy/project/atal-digartrefedd-sbrint-tystiolaeth-beth-syn-gweithio/

To top