Digartrefedd a llety dros dro yng Nghymru 

Mae llunwyr polisïau ledled Cymru dro ar ôl tro wedi pwysleisio bod yr argyfwng tai cynyddol yn flaenoriaeth allweddol. Un o ganlyniadau mwyaf difrifol ac amlwg yr argyfwng tai yng Nghymru yw'r nifer cynyddol o bobl sy'n profi digartrefedd, ynghyd â chynnydd sydyn yn y galw am lety dros dro. 

Yn CPCC, rydym ni wedi bod yn cefnogi awdurdodau lleol Cymru i ddefnyddio tystiolaeth i helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn, fel rhan o'r maes blaenoriaeth Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau. 

Mae pasio Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026 yn golygu newid sylweddol yn y dull o ymdrin â digartrefedd yng Nghymru, gan roi mwy o bwyslais ar atal yn hytrach nag ar reoli argyfwng. 

Felly, rhaid i awdurdodau lleol newid eu dull o reoli digartrefedd, gan symud oddi wrth ymateb ar adeg argyfwng yn unig, a rhoi blaenoriaeth yn hytrach i nodi ac ymyrryd yn gynnar gyda’r rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Gan gydnabod hyn, ac mewn partneriaeth â chanolfan 'Beth sy'n Gweithio' arall, y Ganolfan Effaith Digartrefedd  (CHI), cynigiodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) weithio gydag un neu ragor o awdurdodau lleol i'w cefnogi i gyrchu a defnyddio tystiolaeth a mewnwelediad, er mwyn llywio eu polisi a'u hymarfer o ran digartrefedd a llety dros dro. Y nod oedd eu cefnogi i fynd i'r afael ag achosion craidd digartrefedd, nodi a chefnogi'r rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn well, lleihau'r galw am lety dros dro, a phan fydd ei angen, gwella'r modd y caiff ei ddefnyddio a'i ddarparu. 

Ym mis Ionawr 2026, lansiodd CPCC alwad agored, yn gwahodd awdurdodau lleol i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb mewn cymorth yn seiliedig ar dystiolaeth gan CPCC a/neu CHI.  I gael rhagor o wybodaeth ar broses yr alwad agored, darllenwch ein blog: 'Archwilio sut y gall tystiolaeth helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng llety dros dro

Yn dilyn adolygiad o'r cyflwyniadau a ddaeth i law, dewiswyd tri awdurdod lleol i gydweithio â nhw yn y lle cyntaf: Sir y Fflint, Ynys Môn a Rhondda Cynon Taf (RhCT). Mewn partneriaeth â CHI, byddwn yn cefnogi Cynghorau Sir y Fflint ac Ynys Môn drwy 'Sbrint Tystiolaeth 'Beth sy'n Gweithio', i nodi'n gyflym rannau o system ddigartrefedd y Cynghorau lle gallai newid wneud y gwahaniaeth mwyaf o ran canlyniadau i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, neu sy'n profi digartrefedd. 

Yn ogystal, rydym ni’n cefnogi tîm Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) RhCT fel rhan o'u prosiect ' Digartrefedd a gwariant ataliol' . 
 
Dywedodd Amanda Hill-Dixon, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer (Gwasanaethau Cyhoeddus) CPCC: “Mae cyfle gwirioneddol i awdurdodau lleol yng Nghymru fanteisio ar bob math o dystiolaeth i gefnogi newid at atal digartrefedd, yn unol â dyheadau'r Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (2026).”  
"Rydym ni'n falch iawn i fod yn gweithio gyda’r Ganolfan Effaith Digartrefedd a chynghorau Rhondda Cynon Taf, Ynys Môn a Sir y Fflint fel rhan o’r broses, ac yn edrych ymlaen at rannu’r hyn a ddysgwyd yn ehangach gydag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru”    

To top