Yn dilyn galwad agored, ac mewn partneriaeth â'n chwaer Ganolfan Beth Sy'n Gweithio, sef y Centre for Homelessness Impact (CHI), rydyn ni’n cyflwyno 'Sbrint Tystiolaeth Beth Sy'n Gweithio' ar y cyd ag awdurdodau lleol Sir y Fflint ac Ynys Môn i ddod o hyd yn gyflym i feysydd yn system digartrefedd y Cynghorau lle gallai newid wneud y gwahaniaeth mwyaf mewn deilliannau i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sy'n wynebu hyn ar hyn o bryd.
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn parhau i wynebu pwysau cynyddol ar draws y system digartrefedd, gan gynnwys galw cynyddol am wasanaethau atal, heriau darparu llety dros dro a rhwystrau i sicrhau tai pontio cynaliadwy.
Mewn ymateb i'r heriau hyn, lansiodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) a CHI alwad agored a oedd yn gwahodd awdurdodau lleol i gyflwyno mynegiadau o ddiddordeb i ddangos cefnogaeth amlwg. Mae rhagor o fanylion am y broses hon yma: ‘Canfod sut y gall tystiolaeth helpu i fynd i'r afael ag argyfwng digartrefedd a llety dros dro'
Yn dilyn adolygiad o'r cyflwyniadau a ddaeth i law, cytunodd CPCC i gefnogi CHI i gyflwyno Sbrint Tystiolaeth 'Beth Sy'n Gweithio' am dri mis ar y cyd â dau awdurdod lleol a oedd yn cymryd rhan: Sir y Fflint ac Ynys Môn. Mae Sbrint Tystiolaeth Beth sy'n Gweithio yn rhaglen ddwys o waith ar y cyd wedi'i chyfyngu gan amser, a’r diben yw helpu partneriaid i ddod o hyd i dystiolaeth, ei phrofi a’i defnyddio’n gyflym er mwyn gwella’r broses o wneud penderfyniadau a sicrhau gwasanaethau rheng flaen.
Mae'r Sbrint Tystiolaeth hwn yn cynnwys tair sesiwn strwythuredig dros gyfnod o dri mis. Mae'r sesiynau'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, gan ganolbwyntio ar atal i fyny'r afon (ymyrryd yn gynharach i fynd i'r afael â ffactorau sy'n arwain at ddigartrefedd yn hytrach na digartrefedd ei hun) gyda'r nod o leihau nifer y bobl sy'n mynd i mewn i system digartrefedd neu'n ailymuno â hi, gan leddfu'r pwysau ar wasanaethau argyfwng a lleihau’r ddibyniaeth ar lety costus dros dro.
Mae'r ddau awdurdod lleol yn cael eu cefnogi i ddeall yn well sut mae eu systemau digartrefedd yn gweithio, canfod pwyntiau pwysau allweddol ac ystyried sut y gall tystiolaeth am 'beth sy'n gweithio' fod yn rhan o ddylunio a darparu gwasanaethau. Rhagwelir y bydd allbynnau'r Sprint yn helpu i lywio Asesiadau Anghenion Grantiau Cymorth Tai fydd yn digwydd yn 2027, a bydd y rhain yn eu tro yn cefnogi penderfyniadau comisiynu yn y dyfodol ar wasanaethau atal lleol.
Myfyriodd Amanda Hill-Dixon, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer (Gwasanaethau Cyhoeddus) CPCC, fod 'y cydweithredu â'r Centre for Homelessness Impact (CHI) wedi ein galluogi i gyfuno arbenigedd y CHI ar ddigartrefedd a sbrintiau tystiolaeth â gwybodaeth CPCC am y cyd-destun Cymreig. Mae brwdfrydedd y sawl o Gynghorau Ynys Môn a Sir y Fflint a gymerodd ran wedi cefnogi'r broses sbrint tystiolaeth yn aruthrol.
Gweler 'Digartrefedd a llety dros dro yng Nghymru' am ragor o wybodaeth am ein gwaith ar digartrefedd a'n prosiect arall 'Atal digartrefedd yn Rhondda Cynon Taf' gyda thîm Cydweithredu Ymchwil ar Benderfynynnau Iechyd (HDRC) Rhondda Cynon Taf.