Wrth i Gymru symud tuag at sero net, mae un peth yn dod yn fwyfwy clir: nid yw’r newid yn ymwneud â thechnoleg yn unig. Mae’n ymwneud â thrawsnewid economaidd – pwy sy’n berchen arno, pwy sy’n ei siapio, a phwy sy’n elwa ohono. Mae taith yr Alban yn cynnig gwersi gwerthfawr ar sut y gall dull cydweithredol sy’n seiliedig ar leoedd ac sy’n cael ei arwain gan y gymuned sicrhau’r canlyniadau gorau posibl o ran yr hinsawdd a’r economi. Ond mae gan Gymru gyfle hefyd i wneud pethau’n wahanol ac yn well.
Gydag etholiadau ar y gorwel ar gyfer ddwy wlad, a chyda sero net yn bwnc amserol ac weithiau’n ddadleuol, nawr yw’r amser i sicrhau bod pob penderfyniad yn adeiladu ar yr arferion gorau ac yn sicrhau manteision yn eang ac yn deg ar draws cymunedau.
Mae’r Alban wedi dangos yr hyn sy’n bosibl hyd yn oed gydag ynni yn fater a gadwyd yn ôl. Mae ei Egwyddorion Arferion Da yn annog datblygwyr i gyfrannu £5,000 y MW mewn buddion cymunedol, gan gynhyrchu dros £194 miliwn ers 1990. Mae ymchwil yn awgrymu bod tua £4.18 o werth economaidd lleol ychwanegol yn cael ei greu am bob £1 o gyllid budd cymunedol. Ond eto, gellid cadw mwy o werth yn lleol, a dyna pam rydym wedi bod yn cefnogi ymchwil i sefydlu Cronfa Cyfoeth Cymunedol yr Alban o ffynonellau adnewyddadwy.
Ledled y wlad, mae dulliau ymarferol o adeiladu cyfoeth cymunedol yn dod i’r amlwg. Bu CLES yn gweithio gyda South of Scotland Enterprise i ddatblygu Fframwaith Adeiladu Cyfoeth Cymunedol ar gyfer Ynni Adnewyddadwy, a chyda Chyngor yr Ucheldir ar Siarter Gwerth gan sicrhau bod datblygiadau ar raddfa fawr yn darparu gwerth ychwanegol i gymunedau lleol. Mae perchnogaeth hefyd yn bwysig: Roedd trydydd sector cryf yr Alban, gyda deddfwriaeth grymuso cymunedol gadarn yn gefn iddo, wedi galluogi sefydlu bron i 28,000 o brosiectau ynni lleol a chymunedol erbyn 2023.
Mae awdurdodau lleol yn dod yn rhan gynyddol o'r darlun hefyd. Mae Cyngor Ynysoedd Orkney yn datblygu ei fferm wynt ei hun, y disgwylir iddi gynhyrchu £5.5 miliwn bob blwyddyn, ac mae Gogledd Ayrshire yn datblygu prosiectau solar. Pan fydd perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol yn rhan o’r gymysgedd, mae’r manteision yn amlhau – yn ariannol, yn gymdeithasol ac yn ddemocrataidd.
Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fynd ymhellach. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn cynnig sylfaen unigryw ar gyfer modelau perchnogaeth gyhoeddus, gymunedol a chydweithredol sy’n cadw mwy o gyfoeth yn agos at gartref. Ond mae’n hanfodol sicrhau bod gan Gymru’r sgiliau cywir yn y llefydd iawn.
Mae’r ddwy wlad yn wynebu prinder mewn crefftau peirianneg, ôl-osod a thechnegol. Ond, mae’r Alban wedi dysgu nad yw sgiliau technegol yn unig yn ddigon. Mae’r broses o bontio’n llwyddiannus hefyd yn dibynnu ar y canlynol:
- Sgiliau datblygu economaidd lleol i ddeall cadwyni cyflenwi a gwaith dylunio ymyriadau lleol;
- Sgiliau caffael a chomisiynu sy’n agor cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig lleol; a
- Sgiliau delio â’r cyhoedd a meithrin ymddiriedaeth, sy’n siapio cydsyniad ac yn cysoni prosiectau â blaenoriaethau lleol.
Mae potensial pontio teg o ran cyflogaeth yn sylweddol. Canfu dadansoddiad CLES y gallai datgarboneiddio anheddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn Ne’r Alban gynnal 6,690 o swyddi uniongyrchol erbyn 2045, a chynhyrchu £340 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros uniongyrchol. Gwreiddio’r sgiliau hyn yn lleol yw’r cam nesaf – ac mae hwn yn faes y gallai Cymru arwain y ffordd.
Gyda’r aliniad cywir rhwng colegau, awdurdodau lleol a sefydliadau angori, gallai Cymru sefydlu system sgiliau gwbl integredig sy’n cael ei harwain gan leoedd. System sy’n hyfforddi nid yn unig y gweithlu ond hefyd y sefydliadau sy’n gyfrifol am siapio’r trawsnewid.
Maes arall lle gallai Cymru ragori ar yr Alban yw perchnogaeth tir, a’r manteision y gall hyn eu cynnig. Yn yr Alban, mae patrymau perchnogaeth tir hirsefydlog yn golygu bod refeniw sylweddol o ddatblygiadau adnewyddadwy yn dal i lifo i dirfeddianwyr ystadau mawr yn hytrach na chymunedau lleol. Mae gan Gymru gyfle i ddefnyddio tir cyhoeddus yn fwy strategol, gan sicrhau bod gwerth yn aros yn lleol a galluogi modelau perchnogaeth gymunedol neu ar y cyd i ffynnu.
Ond mae mwy i gadw cyfoeth na thir neu berchnogaeth yn unig. Ers degawdau, mae modelau economaidd wedi achosi i werth sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol gael ei golli drwy strwythurau perchnogaeth pell a chadwyni cyflenwi tameidiog. Mae dull adeiladu cyfoeth cymunedol yn cynnig datrysiad. Drwy ddefnyddio caffael cyhoeddus, cryfhau busnesau bach a chanolig sydd â gwreiddiau lleol, a chefnogi modelau cydweithredol a sefydliadau cymdeithasol, gall Cymru sicrhau bod mwy o’r cyfoeth sy’n cael ei greu o fewn ei ffiniau yn cael ei gadw a’i ailddosbarthu. Efallai y gallai deddfwriaeth adeiladu cyfoeth cymunedol ddilyn yr un esiampl?
Mae natur hirdymor y newid i sero net yn golygu y bydd penderfyniadau a wneir heddiw yn siapio cyfleoedd ac anghydraddoldeb, am ddegawdau i ddod. Os bydd Cymru’n adeiladu ar ei chryfderau, yn cadw gwerth yn lleol ac yn buddsoddi yn ei phobl a’i sefydliadau, gall ragori ar yr Alban o ran cyflawni’r broses o newid i sero net sydd dan berchnogaeth leol, sy’n gynhyrchiol yn economaidd ac sy’n deg yn gymdeithasol.
Mae tasg Llywodraeth nesaf Cymru yn glir: bod yn fwriadol, bod yn uchelgeisiol, bod yn wydn, gwreiddio cyfiawnder a chynaliadwyedd wrth galon sero net a datblygiad economaidd fel bod ffyniant yn cael ei rannu, a gwir bontio’r cenedlaethau. Mewn geiriau eraill, ymgorffori dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.