Diogelu cyfran Cymru yn ystod y trawsnewid cyfiawn

Mae’r trawsnewid i sero net yn aml yn cael ei gyflwyno fel cost i gymdeithas a chymunedau. Mewn gwirionedd, mae’n un o gyfleoedd ariannol gorau Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae Cymru’n dechrau’r trawsnewid hon mewn sefyllfa unigryw. Mae ei threftadaeth ddiwydiannol, ei sectorau sy’n defnyddio llawer o ynni a’i chanolfannau gweithgynhyrchu yn golygu bod allyriadau pob person yn dal yn sylweddol uwch na chyfartaledd y DU, er bod allyriadau Cymru wedi gostwng yn sylweddol ers 1990, yn bennaf oherwydd canolfannau diwydiannol yn cau. Er mwyn cyrraedd targedau sero net Llywodraeth y DU, sy’n rhwymol yn gyfreithiol, rhwng 2020 a 2050 bydd rhaid i bob person yn y DU leihau ei allyriadau o tua 125 tunnell o CO₂ pob blwyddyn. Yng Nghymru, mae’r ffigur hwn ar gyfartaledd yn 225 tunnell pob person, bron i ddwywaith y gofyniad ar draws y DU.

Mae’r her felly yn un sylweddol i Gymru, ond yn cynnig cyfleoedd anhygoel.

Gwerth cymdeithasol datgarboneiddio Cymru

Gan ddefnyddio gwerthoedd Llyfr Gwyrdd Trysorlys EF a llwybrau datgarboneiddio sydd wedi’u cyhoeddi, mae’n bosib mesur gwerth cymdeithasol gwireddu’r cyfle ariannol hwn. I’r DU, amcangyfrif y gwerth cymdeithasol blynyddol cyfartalog yw £93.7 biliwn (tua 5% o werth ychwanegol gros 2020). I Gymru, mae’n £7.6 biliwn pob blwyddyn – sy’n cyfateb i tua 11% o werth ychwanegol gros Cymru yn 2020. Gall gwerth cymdeithasol datgarboneiddio diwydiannol yn unig gyfrannu £2.7 biliwn yn flynyddol (tua 4% o werth ychwanegol gros y wlad).

Y pen, mae gwerth cymdeithasol datgarboneiddio diwydiannol yng Nghymru o leiaf dwywaith cyfartaledd y DU. Mae hyn yn adlewyrchu maint sylfaen diwydiannol Cymru a hyd a lled y trawsnewid sydd ei angen. Yn fyr: mae gan Gymru mwy i’w wneud, ond hefyd mwy i’w ennill.

Dylai fod unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU sydd wedi’i gadw’n ôl i helpu diwydiannau i ddatgarboneiddio fod o leiaf dwywaith y gyfatebiaeth poblogaeth. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, mae diwydiant Cymru yn cael swm sylweddol is na’i chyfran o’r boblogaeth.

Seilwaith: datgloi sero net

Nid uchelgais na diffyg prosiectau sy’n rhoi gwerth da am arian yw’r rhwystrau i ddatgloi’r cyfleoedd ariannol gorau yn yr unfed ganrif ar hugain, ond yn hytrach, y seilwaith a’r cymorth ariannol sydd eu hangen i alluogi buddsoddiad mewn seilwaith ynni carbon isel.

Mae buddsoddiad araf yn rhwydweithiau trydan Cymru, sy’n arwain at gyfyngiadau grid, cyfyngiadau ar gyrhaeddiad y rhwydwaith mewn ardaloedd gwledig, a pheidio â gallu bodloni’r angen strategol sydd ei angen am seilwaith dal a chadw carbon (CCS) a hydrogen, eisoes yn arafu cynnydd. Mae buddsoddi rhagweithiol – adeiladau capasiti cyn bod galw – yn hanfodol i ddatgloi cynhyrchiad trydan carbon isel a datgarboneiddio diwydiannol drwy drydaneiddio, hydrogen a defnyddio CCS. Mae’r Prosbectws Buddsoddi mewn Ynni Glân ar gyfer Cymru yn tynnu sylw at amryw o brosiectau sy’n addas i fuddsoddi ynddynt, a fyddai’n gallu trawsnewid Cymru’n bwerdy ynni glân, gan barhau i fod yn gonglfaen sylfaen ddiwydiannol y DU, yn cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau cynaliadwy.

Gyda’i gilydd, rydyn ni’n disgwyl i ynni adnewyddadwy a phrosiectau datgarboneiddio gynhyrchu £9 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros dros y degawd nesaf. Mae Cymru hefyd yn manteisio ar Borthladdoedd Rhydd, Parthau Buddsoddi, Ardaloedd Twf AI ac amgylchedd rheoleiddio cefnogol, wedi’u seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r achos dros fuddsoddi yn gryf. Ond mae’n rhaid i’r cyllid, gan gynnwys cymorth Trysorlys EF, gyfateb i faint y cyfle.

Ailgylchu refeniw Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU ar gyfer trawsnewid cyfiawn

Cynhyrchodd Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU £17.8 biliwn mewn refeniw arwerthiant rhwng 2021 a 2025, yn ôl adroddiad Swyddfa Archwilio Genedlaethol y DU. Yn wahanol i gynllun yr Undeb Ewropeaidd, lle mae aelod-wladwriaethau’n cael eu hannog i ddefnyddio o leiaf 50% o’r refeniw i gefnogi datgarboneiddio diwydiannol, nid oes gofyniad cyfreithiol i Drysorlys EF ail-fuddsoddi cyfran sylfaenol o refeniw Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer yr un pwrpas, er bod 10-15% o allyriadau’r Cynllun sydd wedi’u cadarnhau yn dod o Gymru.

Ar yr un pryd, mae rhan fwyaf o’r cyllid sydd wedi’i ddyrannu gan Drysorlys EF i ddarparu seilwaith carbon isel o fewn Strategaeth Ddiwydiannol y DU yn elwa’r Alban a gogledd Lloegr yn bennaf, gyda chyfran fach yn unig, ac yn sylweddol is na’i chyfatebiaeth poblogaeth, yn elwa Cymru.

Felly, mae Cymru a’i diwydiant yn cyfrannu’n anghymesur at y cynllun – tua dwy neu dair gwaith ei chyfatebiaeth poblogaeth – ond yn cael llai o lawer na’r gyfran honno yn nôl. Mae’r gwahaniaeth sylweddol hwn yn creu trawsnewid ‘anghyfiawn’ ac yn rhoi’r neges i ddiwydiannau Cymru mai ‘dim ond treth arall’ yw Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Mae hyn yn gwneud eu gweithredoedd yn llai cystadleuol byth o’i gymharu â chanolfannau a sefydliadau arall yn eu sector, ac felly’n creu sefyllfa annheg.

Er mwyn galluogi trawsnewid cyfiawn, dylai Cymru elwa ar gyfran deg, e.e. sy’n cyfateb i’w baich allyriadau (ei chyfran deg) o ailgylchu refeniw Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gefnogi buddsoddiad mewn seilwaith ynni carbon isel a datgarboneiddio diwydiannau Cymru.

Cyfran deg i Gymru

Mae gan Gymru’r adnoddau naturiol, y gallu diwydiannol a’r fframwaith cyfreithiol i fod yn arweinydd mewn ynni gwynt alltraeth, hydrogen, ynni’r llanw a gweithgynhyrchu uwch. Mae’n cynnig eglurder polisi, sefydliadau sy’n cydweithio a gweledigaeth strategol glir i fuddsoddwyr.

Ond er mwyn sicrhau ei chyfran yn y trawsnewid cyfiawn, mae angen buddsoddi rhagweithiol a chymorth ariannol Llywodraeth y DU ar Gymru, sy’n adlewyrchu ei baich allyriadau a’i chyfleoedd gwerth cymdeithasol.

Byddai ailgylchu o leiaf 50% o refeniw Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU mewn datgarboneiddio diwydiannol, gyda dyraniad teg i Gymru sy’n cyfateb i’w baich allyriadau, nid yn unig yn datgloi £7.6 biliwn mewn gwerth cymdeithasol blynyddol ond hefyd yn dangos bod y trawsnewid i sero net yn gallu creu Cymru lewyrchus mewn ffordd ‘gyfiawn’.

Mae’r cyfle wedi’i fesur. Mae’r prosiectau wedi’u nodi. Mae’r cyllid yn bodoli.

Nawr yw’r amser i sicrhau cyfran deg, a grymuso Cymru i gyflawni ei photensial.

To top