Cynnydd yn nifer y plant mewn gofal yng Nghymru. Sut gallwn ni gefnogi teuluoedd i wrthdroi'r duedd hon a lleihau canlyniadau negyddol?
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi ceisio deall ers tro pam mae nifer y plant mewn gofal yng Nghymru’n cynyddu a sut i fynd i’r afael â’r duedd hon yn effeithiol. Dyma duedd sy’n peri pryder oherwydd yr effaith bosibl ar ganlyniadau plant sy’n cael eu cymryd i ofal o ran cyrhaeddiad addysgol, iechyd, diweithdra, digartrefedd a chyfiawnder troseddol. Mae gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn y maes hwn wedi newid yn ddiweddar i ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Bydd plant a theuluoedd ‘mewn perygl’ yn rhyngweithio’n aml ag asiantaethau a gwasanaethau lluosog. Mae ein gwaith yn ystyried p’un a allai, a sut y gallai, gwaith amlasiantaethol gael ei wella i gefnogi teuluoedd a lleihau’r risg y bydd plant yn cael eu cymryd i ofal.