Erthyglau blog Taclo anghydraddoldebau Ein rhan ni yn adolygiad Llywodraeth Cymru o Gydraddoldeb Rhywedd Mewn araith ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth, cyhoeddodd y Prif Weinidog adolygiad o "bolisïau rhywedd a chydraddoldeb [i roi] symbyliad newydd i'n gwaith". Bydd yr adolygiad yn ystyried yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn nad yw'n gweithio gystal yng Nghymru, yn cynnig adolygiad o ymarfer gorau rhyngwladol ac yn argymell sut […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Amrywiaeth a chynhwysiant Mai 15, 2018
Prosiectau Taclo anghydraddoldebau Cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru Mae Gweinidogion wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynnal tri darn o waith sy'n rhoi arbenigedd a thystiolaeth annibynnol i lywio'r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd (GER), a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog ar y pryd yn 2018: Adolygiad rhyngwladol o bolisïau ac arferion cydraddoldeb rhywedd; Gweithdy arbenigol i archwilio'r hyn y gall Cymru ei […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Amrywiaeth a chynhwysiant Mai 11, 2018
Prosiectau Gwella Prosesau Asesu Effaith Y farn sinigaidd ar asesu effaith yw ei fod yn rhesymoli penderfyniadau polisi sydd eisoes wedi cael eu gwneud. Ond, pan wneir hyn yn effeithiol, gall helpu i lywio polisi a chefnogi dulliau effeithiol o graffu ar y penderfyniadau a wnaed yn ystod y broses honno. Gofynnodd y Prif Weinidog i ni adolygu prosesau asesu […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Ebrill 26, 2018
Prosiectau Yr amgylchedd a sero net Twf Cynhwysol yng Nghymru Er y gall Cymru hawlio rhai llwyddiannau economaidd yn y gorffennol diweddar, nid yw manteision hyn wedi cael eu dosbarthu'n gyfartal, ac mae gan lunwyr polisi fwy o ddiddordeb mewn ffyrdd o sicrhau 'twf cynhwysol'. Gwnaethom ddod ag arbenigwyr ynghyd i drafod sut y gallai Cymru fwrw ymlaen â model mwy cynhwysol. Mae cynllun Llywodraeth […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Ebrill 26, 2018
Prosiectau Taclo anghydraddoldebau Gwella Canlyniadau Iechyd a Chyflogaeth Er bod diweithdra'n isel yng Nghymru ar hyn o bryd o gymharu â'r degawdau diwethaf, mae anweithgarwch economaidd oherwydd salwch yn dal i fod yn uchel. Er mwyn cydnabod hyn, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i helpu pobl i aros yn y gwaith a dychwelyd i'r gwaith. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai'r ffordd fwyaf effeithiol […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Anghydraddoldebau iechyd Economi Ebrill 26, 2018
Prosiectau Pennu'r Sylfaen Drethu yng Nghymru Gofynnodd y Prif Economegydd a swyddogion y Trysorlys yn Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, gynnal adolygiad lefel uchel o gryfder y sylfaen drethu yng Nghymru. Mae'r adolygiad wedi dadansoddi maint a chynaliadwyedd y sylfaen drethu sy'n ategu'r prif drethi datganoledig sy'n denu refeniw […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Economi Ebrill 26, 2018
Prosiectau Gwella Gwaith Trawsbynciol y Llywodraeth Mae strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb', yn ceisio ysgogi proses o integreiddio a chydweithio ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi pwysleisio y dylid cyflawni ymrwymiadau'r strategaeth mewn ffordd fwy deallus a chydgysylltiedig sy'n croesi ffiniau traddodiadol. Mae'r her i gydgysylltu'n well ar draws meysydd […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Llywodraeth leol Ebrill 26, 2018
Prosiectau Yr amgylchedd a sero net Dyfodol Gwaith yng Nghymru Yn ei araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn 2016, gofynnodd y Prif Weinidog, y Gwir Anrh Carwyn Jones, am ymchwiliad dwfn a thrylwyr i natur newidiol gwaith. Er mwyn braenaru'r tir ar gyfer hyn, gofynnwyd i ni adolygu'r sail dystiolaeth bresennol er mwyn ymchwilio i'r hyn sy'n hysbys ac sy'n anhysbys am ddyfodol gwaith […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Cyflogaeth, gwaith a sgiliau Ebrill 26, 2018
Prosiectau Yr amgylchedd a sero net Dulliau o Alluogi Unigolion i Gamu Ymlaen yn eu Swyddi mewn Sectorau Sylfaenol Allweddol Mae sectorau sylfaenol yr economi yn darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd, megis cyfleustodau, prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu, iechyd, addysg, llesiant, gofal cymdeithasol a seilwaith. Er ein bod yn dibynnu ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt, mae'n aml yn anodd i'r bobl sy'n gweithio yn y sectorau hyn wella […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Cyflogaeth, gwaith a sgiliau Ebrill 26, 2018
Prosiectau Taclo anghydraddoldebau Llwybrau Atal Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc Mae mynd i'r afael â digartrefedd, a lleihau'r risg o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn benodol, yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Wrth lansio cynghrair Cymru ar gyfer rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn 2017, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n gofyn i ni ymchwilio i achosion digartrefedd ymhlith pobl ifanc a ffyrdd […] Rhagor o wybodaeth Pynciau: Tai a chartrefi Ebrill 26, 2018