Cynorthwyydd Ymchwil (12 mis)

Mae'r Ganolfan yn falch o wahodd ceisiadau ar gyfer ein cynllun Prentisiaethau Ymchwil poblogaidd sy'n cael ei gynnal yn flynyddol.

Mae prentisiaid blaenorol yn astudio ar gyfer PhD, yn gweithio yn Llywodraethau'r DU a Chymru, ac mae rhai wedi symud ymlaen i swyddi ymchwil yn y Ganolfan. Rydym ni'n chwilio am ymgeisydd graddedig rhagorol sy'n gallu pontio meysydd ymchwil a pholisi, a sy’n ymroi i gynhyrchu gwaith ymchwil a dadansoddi o safon uchel sy'n berthnasol i bolisïau.

Mae hwn yn gyfle unigryw i weithio wrth wraidd y dadleuon polisi cyfredol, ac yn enwedig yn ein tri maes blaenoriaeth sef yr amgylchedd a sero net, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, a lles cymunedol. Byddwch chi hefyd yn cynnal ymchwil ar y defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisïau ac arferion ysgogi tystiolaeth.

Byddwch chi’n gweithio gydag ymchwilwyr profiadol i archwilio ac ymgymryd ag aseiniadau ar gyfer gweinidogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael eich mentora gan aelodau uwch o staff y Ganolfan. Byddwch chi’n cael cyfleoedd i ymgymryd â dau leoliad cysgodi gwaith gyda sefydliadau llywodraethol/polisi perthnasol megis Llywodraeth Cymru.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn fenter unigryw werth £9 miliwn sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd. Ei chenhadaeth yw cynyddu'r defnydd o dystiolaeth ymchwil gan y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus er mwyn gwella penderfyniadau polisi a'r canlyniadau ar gyfer y cyhoedd.

Mae'r Ganolfan yn annibynnol ar y llywodraeth ond mae'n gweithio'n agos gyda gweinidogion, gweision sifil, llywodraeth leol a'r gwasanaeth iechyd i gynhyrchu tystiolaeth a dadansoddiadau o ansawdd uchel sy'n llywio ac yn gwella strategaethau, polisïau a rhaglenni cenedlaethol a lleol. Mae’n rhan o rwydwaith What Works yn y Deyrnas Unedig ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y DU ac yn rhyngwladol i baratoi ymchwil ar sail tystiolaeth sy’n mynd i'r afael â heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol o bwys. Roedd y Ganolfan wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Dathlu Effaith fawreddog y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae’r Ganolfan hefyd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei dull arloesol, seiliedig ar alw, o ddefnyddio tystiolaeth a galw ar wybodaeth.
            
Gofynnir i ymgeiswyr ateb y cwestiwn canlynol ar ddechrau eu datganiad ategol. Mae’n rhaid i’ch ateb BEIDIO â bod yn fwy na chyfanswm o 300 gair:

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yn darparu tystiolaeth sy’n galluogi Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i wneud penderfyniadau ynghylch polisïau a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Dewiswch faes polisi y mae gennych chi brofiad amlwg ohono gan egluro a yw'n ymwneud â meysydd blaenoriaeth y Ganolfan. Yna amlinellwch sut y byddech yn cywain y dystiolaeth i ateb cwestiwn heriol yn y maes polisi hwn. Yn olaf, amlygwch y ffactorau allweddol y mae angen eu hystyried ynglŷn â safon y dystiolaeth hon er mwyn sicrhau ei bod yn ddigon cadarn i helpu llunwyr polisïau Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y blog hwn sy'n rhoi manylion i chi o'r cynllun Prentisiaeth a'r erthygl hon sy'n trafod y profiad cychwynnol.

Mae'r Ganolfan yn cynnig amgylchedd gwaith ysgogol a chefnogol o fewn tîm colegol uchel ei gymhelliant. Cewch fanteisio ar nifer o gyfleoedd hyfforddi a ddarperir gan Brifysgol Caerdydd. Rydyn ni’n cefnogi gweithio hybrid a threfniadau gweithio hyblyg eraill, ond yn disgwyl i staff weithio yn ein swyddfeydd yn y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol pwrpasol newydd a leolir ar Gampws Arloesi £300 miliwn Prifysgol Caerdydd o leiaf dau ddiwrnod yr wythnos.

Mae'r swydd yn benodiad un flwyddyn amser llawn o Ebrill 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.

Cyflog: £33,951 i £36,636 y flwyddyn (Gradd 5)

CLICIWCH YMA am mwy o wybodaeth ac i ymgeisio.

To top