Er gwaethaf blynyddoedd o strategaethau i ehangu cyfranogiad mewn addysg, mae tystiolaeth yn dangos bod mwy o fylchau anghydraddoldeb a gwahaniaethau yn bodoli mewn cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar draws pob gwlad. Ym mhob gwlad lle mae data ar gael, mae cyfranogiad mewn addysg uwch yn parhau i fod yn anhafal o safbwynt cefndir cymdeithasol.
Yn ôl adroddiad diweddar, ‘mae canlyniadau a chyfranogiad mewn addysg yn is ymysg pobl ifanc yng Nghymru’ nac yng ngwledydd eraill y DU, ac mae’r bwlch yn y cyfranogiad wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Ceir tystiolaeth o hyn gan y gyfran uchel, ac sy’n cynyddu, o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru ...[a] lefelau isel o gyfranogiad mewn addysg uwch, gyda bechgyn yng Nghymru â’r lefelau isaf o gyfranogiad mewn addysg uwch. Mae modd gweld hyn mewn cyfrannau is o bobl ifanc yn cael Lefel A neu gymwysterau cyfatebol, cymwysterau ar lefel gradd a chanlyniadau is yn y farchnad lafur yng Nghymru.
Ac eto, er mwyn gallu ymateb i’r newidiadau trawsnewidiol parhaus a ddaw yn sgil y trawsnewidiadau digidol a gwyrdd, bydd angen i fwy a mwy o bobl yng Nghymru gael cymhwyster QCFW Lefel 4-6, neu uwch. Mae hyn yn newid sylweddol o’r 41.4% o bobl sydd â chymhwyster o’r fath ar hyn o bryd. Rhaid i Gymru ystyried pa mor barod yw’r system addysg drydyddol i gyflawni’r tasgau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer creu ’Cymru sy’n Fwy Cyfartal’ ac er mwyn ‘parhau a dwysáu gwaith o ehangu cyfranogiad a chymryd camau i sicrhau system fwy teg a rhagorol i bawb.’
Ehangu cyfranogiad a gwella canlyniadau
Dylid llongyfarch Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) am dynnu sylw Medr at y broblem enbyd o anghydraddoldeb mewn canlyniadau a chyfleoedd addysgol. Felly, sut bydd y dystiolaeth a’r cynigion a gyflwynir yn Tegwch mewn Addysg Drydyddol yng Nghymru ac EhanguCyfranogiad mewn Addysg Drydyddol yn helpu Medr i fynd i’r afael â’r materion hyn?
Mae Tegwch mewn Addysg Drydyddol yng Nghymru yn ailgadarnhau llawer o astudiaethau sy’n dangos bod cydberthynas fawr rhwng anghydraddoldeb ar draws cymdeithas a mynediad anhafal at addysg. Mae cydberthynas gref hefyd rhwng mynediad at addysg uwch ac, ymysg pethau eraill, galwedigaeth rhieni ac economaidd-gymdeithasol, hil/ethnigrwydd, anabledd, amddifadedd a rhywedd, ac maent wedi’u gwreiddio’n gadarn/ eu hatgyfnerthu gan strwythurau cymdeithasol, gan gynnwys addysg sy’n dechrau o oedran cynnar. I ba raddau y mae addysg bellach ac addysg uwch yn rhan o’r broblem neu’n rhan o’r datrysiad?
Lawrlwythwch yr ysgrif ystyriol llawn yma
Cafodd fersiwn wedi’i olygu o ysgrif ystyriol yr Athro Hazelkorn ei gyhoeddi gan Times Higher Education.
Yr Athro Hazelkorn ysgrifennodd yr adroddiad a helpodd i sefydlu Medr, y corff sydd bellach yn goruchwylio’r holl addysg drydyddol yng Nghymru.