Dyma'r cwestiwn sydd wrth wraidd Cymrodoriaeth Polisi UKRI newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP).
Mae Cymrodoriaethau Polisi UKRI yn rhoi cyfle i ymchwilwyr dreulio deunaw mis mewn adrannau'r llywodraeth, cyrff cyhoeddus a Chanolfannau What Works (gyda’r canolfannau’n canolbwyntio'n benodol ar ddefnyddio tystiolaeth i wella gwasanaethau cyhoeddus). Mae cymrodyr yn cyd-ddylunio ac yn cyflawni prosiectau ymchwil gyda'u sefydliad lletyol wrth ddysgu sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio'n ymarferol. Mae sefydliadau lletyol, yn eu tro, yn elwa ar arbenigedd y cymrodyr i ateb cwestiynau polisi allweddol.
Mae fy nghymrodoriaeth yn canolbwyntio ar sut gall Canolfannau What Works, a sefydliadau brocera gwybodaeth yn ehangach, ddeall effaith eu gwaith yn well a chofnodi hynny.
Roedd fy ymchwil flaenorol yn archwilio beth sy'n digwydd pan fydd polisi ac arfer yn cwrdd, gyda ffocws penodol ar bolisi iaith mewn lleoliadau addysg. Ar ôl gweithio ar gwestiynau polisi mewn cyd-destunau rhyngwladol, fel Sbaen a Cabo Verde, mae'r gymrodoriaeth hon yn cynnig cyfle i droi at wledydd Prydain fel cyd-destun ac archwilio rhan gynharach o'r daith bolisi – sut mae tystiolaeth yn siapio’r broses o lunio polisïau ac, yn fwy penodol, sut gall sefydliadau sy'n cysylltu tystiolaeth â pholisi gofnodi eu heffaith yn well.
Mae deall y broses hon yn bwysig oherwydd bod cyllidwyr yn gofyn fwyfwy i ymchwilwyr esbonio sut y bydd eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth y tu hwnt i'r byd academaidd. Mae prifysgolion hefyd yn buddsoddi amser ac adnoddau sylweddol mewn dangos tystiolaeth o effaith ymchwil a'i gwerthuso. Yn arbennig, mae trafodaethau am effaith yn aml yn canolbwyntio ar ddau beth: yr ymchwil ei hun a'r newidiadau sy'n deillio ohoni. Rhoddir llai o sylw i bopeth sy'n digwydd rhwng ymchwil ac effaith.
Mae hyn yn arbennig o wir yng nghyd-destun polisi cyhoeddus, lle nad yw ymchwil yn dylanwadu ar bolisi’n uniongyrchol yn aml. Caiff tystiolaeth ei thrafod, ei dehongli ac, yn wir, ei herio. Mae'n symud drwy sefydliadau a rhwydweithiau cyn llywio trafodaethau polisi. Erbyn y pwynt hynny, efallai y bydd yn anodd gwahanu ei chyfraniad oddi wrth y nifer o ddylanwadau eraill sy'n siapio’r broses o wneud penderfyniadau.
Deall beth sy'n digwydd yn y gofod rhwng y ddau beth hwn yw'r union her mae fy nghymrodoriaeth yn ceisio mynd i'r afael â hi. Mae'n archwilio'r rôl mae pobl, cysylltiadau a sefydliadau yn ei chwarae wrth gysylltu tystiolaeth â’r broses o wneud penderfyniadau, a pham mae deall eu cyfraniad yn bwysig ar gyfer cofnodi effaith.
Dros y misoedd nesaf, gan adeiladu ar waith blaenorol yn WCPP a oedd yn edrych ar sut mae effaith yn cael ei chysyniadu, byddaf yn siarad â chydweithwyr ar draws Rhwydwaith What Works i archwilio'r dulliau maen nhw'n eu defnyddio i gofnodi eu heffaith, yr heriau maen nhw'n eu hwynebu, a sut maen nhw'n defnyddio'r profiadau hynny i wella eu harfer.
Y nod yw cyd-ddatblygu adnoddau ar gyfer cofnodi effaith a hwyluso cyfleoedd ar gyfer dysgu gan gymheiriaid. Bydd y gwaith hwn hefyd yn cyfrannu at, ac yn dysgu gan Gymuned Ymarfer Defnyddio Gwybodaeth Rhwydwaith Ymgysylltu â Pholisi’r Prifysgolion (UPEN), yn enwedig ei gwaith cydweithredol ar ddeall, cofnodi a chyfleu effeithiau defnyddio gwybodaeth ar draws gwahanol gyd-destunau sefydliadol.
Os ydych chi'n ymwneud â gweithgarwch cofnodi effaith mewn Canolfan What Works neu sefydliad brocera gwybodaeth tebyg, mae croeso i chi gysylltu â fi.