Troi’r llanw ym maes tlodi plant

Troi’r llanw ym maes tlodi plant Dros y ddau ddegawd diwethaf mae tua 30% o blant wedi bod yn tyfu i fyny mewn tlodi yng Nghymru. Er bod penderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i ddiddymu’r terfyn dau blentyn ar fudd-daliadau yn debygol o leihau tlodi plant rhwng tua thri a phedwar pwynt canran, bydd nifer enfawr o deuluoedd ledled Cymru yn parhau i gael trafferth i gadw dau ben llinyn ynghyd. Mae Llywodraeth Cymru, o dan arweiniad newydd Plaid, yn wynebu her lefelau annerbyniol o uchel o dlodi plant, yn ogystal â’r bygythiad y mae hyn yn ei beri i les cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o dan arweiniad newydd Plaid Cymru yw lleihau tlodi plant a ‘rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn’. Yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf mewn grym, mae Plaid yn dechrau gwaith ar y canlynol:

· Sefydlu grŵp llywio arbenigol a thasglu gofal plant er mwyn ehangu darpariaeth gofal plant

· Datblygu cynllun newydd penodol er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant

· Ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl uwchradd mewn aelwydydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol

· Paratoi i weithredu cynllun peilot Cynnal – Taliad Plant Cymru

Gan ehangu ar ein hadolygiad blaenorol o Dlodi ac Allgáu Cymdeithasol yng Nghymru a’n gwaith sylweddol ar stigma tlodi, aethon ni ati i drefnu gweminar cyn etholiad y Senedd i helpu i lywio dull newydd Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â thlodi plant. Gwyliwch y weminar Troi’r llanw ym maes Tlodi Plant.

Yn unol ag ymrwymiad Plaid i seilio eu dull gweithredu ar y ‘dystiolaeth orau o’r hyn sy’n gweithio i leihau tlodi’, rhannodd panelwyr y weminar ystod eang o ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn atal, lliniaru a mynd i’r afael ag effeithiau tlodi ar blant a phobl ifanc.

Ymhlith panelwyr y weminar roedd:

· Steffan Evans, Prif Weithredwr, Sefydliad Bevan

· Karen Berrell, Arbenigwr Cyd-gynhyrchu a Phrofiad Bywyd, Poverty Insight Lab

· Helen Barnard, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Thraweffaith, Trussell

· Mike Brewer, Dirprwy Brif Weithredwr a Phrif Economegydd Resolution Foundation

· Amanda Hill-Dixon, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer (Gwasanaethau Cyhoeddus), Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Dewch i wrando ar rai o’r arbenigwyr hyn isod.

To top