Mae'r Ganolfan yn falch o wahodd ceisiadau ar gyfer ein cynllun Prentisiaethau Ymchwil poblogaidd sy'n cael ei gynnal yn flynyddol. Mae prentisiaid blaenorol yn astudio ar gyfer PhD, yn gweithio yn Llywodraethau'r DU a Chymru, ac mae rhai wedi symud ymlaen i swyddi ymchwil yn y Ganolfan. Rydym ni'n chwilio am ymgeisydd graddedig rhagorol sy'n gallu pontio meysydd ymchwil a pholisi, ac sy’n ymroi i gynhyrchu gwaith ymchwil a dadansoddi o safon uchel sy'n berthnasol i bolisïau. Mae hwn yn gyfle unigryw i weithio wrth wraidd y dadleuon polisi cyfredol, ac yn enwedig yn ein tri maes blaenoriaeth sef yr amgylchedd a sero net, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, a lles cymunedol. Byddwch chi hefyd yn cynnal ymchwil ar y defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisïau ac arferion ysgogi tystiolaeth.
Byddwch chi’n gweithio gydag ymchwilwyr profiadol i archwilio ac ymgymryd ag aseiniadau ar gyfer gweinidogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael eich mentora gan aelodau uwch o staff y Ganolfan. Byddwch chi’n cael cyfleoedd i ymgymryd â dau leoliad cysgodi gwaith gyda sefydliadau llywodraethol/polisi perthnasol megis Llywodraeth Cymru.
Mae'r Ganolfan yn cynnig amgylchedd gwaith ysgogol a chefnogol o fewn tîm colegol uchel ei gymhelliant. Cewch fanteisio ar nifer o gyfleoedd hyfforddi a ddarperir gan Brifysgol Caerdydd. Rydyn ni’n cefnogi gweithio hybrid a threfniadau gweithio hyblyg eraill, ond yn disgwyl i staff weithio yn ein swyddfeydd yn y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol pwrpasol newydd a leolir ar Gampws Arloesi £300 miliwn Prifysgol Caerdydd o leiaf dau ddiwrnod yr wythnos.
Mae'r swydd yn benodiad un flwyddyn amser llawn o Ebrill 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Cyflog: £33,951 i £36,636 y flwyddyn (Gradd 5)
CLICIWCH YMA am mwy o wybodaeth ac i ymgeisio.